Profi Duw’n dy adnewydduSampl
Mae 1 Corinthiaid 6:19-20 yn ein hatgoffa o bwysigrwydd nid yn unig adnewyddu beth sydd y tu mewn i ni, ond hefyd beth sydd ar y tu allan. Meddylia am y peth am funud. Mae ein cyrff yn demlau i'r Ysbryd Glân, a dylid eu trin felly. Fyddet ti am adael i adeilad yr eglwys fynd i edrych yn druenus? Wrth gwrs ddim! Petai angen atgyweirio adeilad yr eglwys, byddech am wneud hynny, iddo gael ei weld yn arwydd clir o gariad Crist yn y gymuned. Felly, oni ddylen ni drin ein cyrff yn yr un ffordd a’u hadnewyddu’n barhaus fel eu bod yn cyflawni pwrpas Duw ar gyfer ein bywydau? Sut ddylech chi adnewyddu eich corf? Gall adnewyddiad fod yn broses wahanol i bawb. I rai, falle fod angen ychydig mwy o ymarfer corff neu ddeiet iachach. Gall fod yr angen am iachâd corfforol. Neu falle fod angen caniatáu i Dduw dy adnewyddu a’th ryddhau o ryw bechod rhywiol yn y gorffennol. Darganfydda lle mae angen adnewyddiad ynot ti, a caniatâ i Dduw ddod â iachad i’th fywyd.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae bod yn greadigaeth newydd yng Nghrist yn golygu ein bod yn cael eu hadnewyddu yn gyson drwy Ef. Mae Duw yn adnewyddu ein calonnau, meddyliau, a’n cyrff. Mae hyd yn oed yn adnewyddu pwrpas ein bywydau. Yn ystod y cynllun darllen 5-diwrnod hwn, byddi’n plymio’n ddwfn i’r hyn mae Gair Duw yn ei ddweud am adnewyddiad. Bob dydd, byddi’n cael darlleniad o'r Beibl a sylwadau defosiynol byr fydd yn dy helpu i fyfyrio ar y gwahanol ffyrdd y gallwn brofi adnewyddaid Duw.
More
We would like to thank LifeChurch.tv for providing this plan. For more information, please visit: www.lifechurch.tv