Profi Duw’n dy adnewydduSampl
Mae gan Dduw bwrpas i bob un ohonon ni. Mae rhai yn gwybod beth ydy’r pwrpas hwnnw tra bod eraill yn dal yn y broses o’i ddarganfod. Pan fyddwn ni’n gwybod beth ydy’n pwrpas, mae Duw yn ei ddefnyddio a’n galluogi i adnewyddu ei Deyrnas, ond i wneud hynny mae'n rhaid i ni a’n pwrpas gael eu hadnewyddu’n barhaus. Paid gadael i bwrpas Duw ar gyfer dy fywyd golli ei flas a dechrau teimlo'n hen. Caniatâ i Dduw ei adnewyddu’n gyson fel ei fod yn teimlo mor ffres heddiw ag oedd o ar y diwrnod y gwnest ti ei ddarganfod am y tro cyntaf. Gofyn i Dduw ehangu dy bwrpas a dangos i ti’n benodol sut alli di gyfrannu at adnewyddu ei Deyrnas, fel mae o wedi adnewyddu dy fywyd a’th bwrpas di.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae bod yn greadigaeth newydd yng Nghrist yn golygu ein bod yn cael eu hadnewyddu yn gyson drwy Ef. Mae Duw yn adnewyddu ein calonnau, meddyliau, a’n cyrff. Mae hyd yn oed yn adnewyddu pwrpas ein bywydau. Yn ystod y cynllun darllen 5-diwrnod hwn, byddi’n plymio’n ddwfn i’r hyn mae Gair Duw yn ei ddweud am adnewyddiad. Bob dydd, byddi’n cael darlleniad o'r Beibl a sylwadau defosiynol byr fydd yn dy helpu i fyfyrio ar y gwahanol ffyrdd y gallwn brofi adnewyddaid Duw.
More
We would like to thank LifeChurch.tv for providing this plan. For more information, please visit: www.lifechurch.tv