Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dod i DeyrnasuSampl

Kingdom Come

DYDD 12 O 15

GWEDDI:

Dduw, rho lygaid imi weld y byd fel rwyt ti’n ei weld ac i weld pobl eraill fel rwyt ti’n eu gweld.



DARLLENIAD
:

Os wyt ti'n rhiant, neu, o ran hynny, yn blentyn, mae'n siŵr dy fod wedi cael rhywfaint o brofiad yn gwneud llaeth siocled. Felly, rwyt ti'n gwybod pan fyddi di'n dechrau troi'r llaeth ac mae'n troi o wyn i frown, nid yw'n rhyw fath o dric hud. Mae hyn oherwydd bod surop siocled eisoes yn eistedd ar waelod y gwydr yn barod. Roedd popeth oedd ei angen i newid y llefrith yn llefrith siocled eisoes yno, ond roedd angen ei droi i sicrhau'r newid.


Mae awdur Hebreaid yn dweud bod rhywbeth tebyg yn digwydd ym mywyd un o ddilynwyr Iesu. Mae gynnon ni’r potensial a’r pŵer ar gyfer “cariad a gweithredoedd da” mawr. Ond weithiau mae'r potensial hwnnw'n segur. Mae'n setlo i'r gwaelod ac nid yw'n gweithio ei ffordd i mewn i'r byd lle mae cymaint o angen amdano. Mae angen rhywun, neu efallai hyd yn oed grŵp o rai, i ddod draw i'w gyffroi.


Dyma un o’r rhoddion pwysicaf y gall dilynwyr Iesu ei roi i’w gilydd. Mae nhw’n gallu bod yn gynhyrfwyr, gan wrthod gadael i gariad setlo i waelod ein bywydau. Maen nhw’n gallu sefyll ochr yn ochr â'i gilydd a throi cariad i weithredu trwy anogaeth, atebolrwydd a chefnogaeth.


Mae angen i ni flaenoriaethu’r mathau hyn o berthnasoedd yn ein bywydau. Ac mae angen i ni estyn caniatâd i eraill siarad y gwir wrthon ni, hyd yn oed os yw'n anodd ei glywed - hyd yn oed os yw'n teimlo'n gynhyrfus. Byddwn yn aml yn gweld mai ychydig o gynnwrf yw'r union beth sydd ei angen arnom i ddarganfod bywyd o fwy o gariad a phwrpas.


MYFYRDOD:

Mae blaenoriaethu perthnasoedd iach sy'n ein miniogi yn cymryd dyfalbarhad a bod yn agored i niwed. Ystyria’n weddigar y bobl yn dy fywyd - teulu, ffrindiau, cydweithwyr. Pa rai o’r bobl hyn sydd fwyaf diogel? Efallai nad yw’r bobl fwyaf diogel rwyt ti’n eu hadnabod mor agos â hynny, ond yr hoffet ti fod yn nes atyn nhw gan y bydden nhw’n dda i ti. Sut olwg fyddai i ti ar roi caniatâd i’r bobl ddiogel hyn siarad gwirionedd yn dy fywyd mewn ffordd ddyfnach? Ystyria eu gwahodd i gerdded yn agosach gyda thi ac i'th adnabod yn well, yr annibendod a phopeth arall.


Gofynna i’r Ysbryd Glân dynnu sylw at y bobl y mae am eu tynnu i mewn i’th fywyd fel eu bod yn agosach atat ti. Ac yna estyn allan iddyn nhw.


Diwrnod 11Diwrnod 13

Am y Cynllun hwn

Kingdom Come

Dŷn ni wedi clywed bod Iesu yn cynnig “bywyd i’r eithaf” a dŷn ni’n dyheu am y profiad hwnnw. Dŷn ni eisiau'r bywyd hwnnw sydd yr ochr arall i newid. Ond pa fath o newid sydd ei angen arnom ni? A sut mae mynd ati i newid y broses? Yn Dod i Deyrnasu byddi di’n archwilio ffordd newydd o fyw'r bywyd wyneb i waered a thu mewn tu allan y mae Duw yn ein gwahodd iddo.

More

Hoffem ddiolch i North Point Community Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://northpoint.org