Dod i DeyrnasuSampl
GWEDDI:
O Dduw, helpa fi i weld sut rwyt ti’n gweithio ynof i heddiw.
DARLLENIAD:
Ar yr olwg gyntaf, gall yr adnodau hyn ymddangos yn ddryslyd. A yw Paul yn awgrymu bod iachawdwriaeth yn rhywbeth dŷn ni'n ei ennill dros amser, yn rhywbeth dŷn ni i fod i'w “weithio allan?” Dŷn ni’n gwybod o lawer o ddarnau eraill o'r Ysgrythur nad yw iachawdwriaeth yn rhywbeth dŷn ni’n ei gyflawni; mae'n rhywbeth dŷn ni'n ei dderbyn. Mae’n rhodd o ras a roddwyd i ni yn rhad ac am ddim gan Dduw. Felly, at beth mae Paul yn cyfeirio yma?
Mae’r allwedd i ddeall yr ymadrodd “daliwch ati i weithio ar eich iechyd ysbrydol” i’w chael mewn gwirionedd yn yr adnod nesaf pan fydd Paul yn ysgrifennu, “Mae Duw ar waith yn eich bywydau chi” Mae Paul yn annog y dilynwyr Iesu hyn i barhau i symud ymlaen yn eu twf ysbrydol. Nid penderfyniad eiliad mewn amser yn unig yw dilyn Iesu. Mewn gwirionedd mae'n gyfres o eiliadau a phenderfyniadau sy'n ychwanegu at daith o drawsnewid. Yn eiliad dy benderfyniad cychwynnol i ddilyn Iesu, mae Duw yn datgan dy fod yn ddi-fai ac yn gyfiawn yn ei olwg. Mae'n rhoi statws a safle newydd i ti fel plentyn i Dduw. Y gair diwinyddol am hyn yw cyfiawnhad. Gweddill y daith, i ddweud y gwir, yw'r broses i ddod yr hyn mae Duw eisoes wedi dweud ein bod wedi cyrraedd yn barod. Gelwir hyn yn sancteiddhad. Mae Duw wedi ymrwymo i'r broses hon yn dy fywyd. Mae’n gweithio “ynoch chi i ewyllys ac i weithredu er mwyn cyflawni ei bwrpas da.” “Mae Duw ar waith yn eich bywydau chi, yn creu'r awydd ynoch chi ac yn eich galluogi chi i wneud beth sy'n ei blesio fe.” Ond nid yw'n rhywbeth y mae'n ei wneud heb dy fod yn cyfrannu.
Dywedodd yr efengylwr o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg George Müller fel hyn: “Rhaid i’r credadun orffen, rhaid iddo barhau i’r diwedd, cymhwyso i’w ganlyniadau llawnaf yr hyn a roddwyd eisoes gan Dduw mewn egwyddor... Rhaid iddo weithio allan beth sydd gan Dduw yn ei ras wedi’i roi yn ei le.”
Dyma hanfod taith twf ysbrydol yn y pen draw - gweithio allan beth mae Duw yn gweithio ynddo. Dŷn ni'n bartneriaid gyda Duw yn y gwaith o’r trawsnewid y mae'n ei wneud yn ein bywydau.
MYFYRDOD:
Tyrd o hyd i le tawel a setlo lawr i dreulio peth amser yn llonydd gyda Duw. Falle bydd rhaid i ti ymladd drosto, ond bydd yn fwriadol yn dy ymdrech i gyrraedd y man lle gelli fod yn llonydd yn fewnol.
Gofynna i Dduw dy wneud yn fwy ymwybodol o'i bresenoldeb. Gofynna iddo amlygu sut mae wedi bod yn gweithio ynot ti a sut y gelli di gymryd rhan weithredol yn dy dwf ysbrydol. Yn olaf, diolcha iddo am ei ffyddlondeb a gofynna iddo fireinio dy ymwybyddiaeth o'i ysbryd yn gweithio ynot ti.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Dŷn ni wedi clywed bod Iesu yn cynnig “bywyd i’r eithaf” a dŷn ni’n dyheu am y profiad hwnnw. Dŷn ni eisiau'r bywyd hwnnw sydd yr ochr arall i newid. Ond pa fath o newid sydd ei angen arnom ni? A sut mae mynd ati i newid y broses? Yn Dod i Deyrnasu byddi di’n archwilio ffordd newydd o fyw'r bywyd wyneb i waered a thu mewn tu allan y mae Duw yn ein gwahodd iddo.
More