Logo YouVersion
Eicon Chwilio

I Surrender: Defosiynau Ysbrydoledig wedi'u sgwennu gan GarcharorionSampl

I Surrender: Inspirational Devotions Written by Prisoners

DYDD 2 O 4

MAE DUW’N FY NGHARU

“Mae fy nefaid i yn fy nilyn am eu bod yn nabod fy llais i, a dw i'n eu nabod nhw. 28 Dw i'n rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw, a fyddan nhw byth yn mynd i ddistryw. Does neb yn gallu eu cipio nhw oddi arna i.” -IOAN 10:27-28

Ro’n i'n arfer bod yn Gristion, ond yna fe wnes i grwydro oddi wrth y gwir. Am nifer o flynyddoedd bûm yn crwydro i mewn ac allan o helbul, gan wybod yn ddwfn y tu mewn bod arnaf angen dirfawr yr Arglwydd ond yn ei frwydro am fy mod yn ei ofni. Ond roedd enghraifft syml iawn yn fy atgoffa bod Duw bob amser yn fy ngalw'n dyner yn ôl i'w gorlan. Wnes i erioed ddweud wrth fy mhlant am fy sefyllfa yn ystod fy amser yn y carchar. Pryd bynnag y byddwn yn eu galw neu sgwennu atyn nhw, ro’n i “i ffwrdd,” ac roedd popeth yn “iawn.” Ond wedyn, dywedodd gwraig o Gristion a ffrind da yn y carchar wrthyf am ddweud y gwir wrth fy mhlant.

Ddwedes i wrthyn nhw a disgwyl dau fis pryderus i glywed ganddyn nhw. O’r diwedd, cefais fendith fawr - y llythyr cyntaf gan fy merch. Ar frig y dudalen, roedd hi wedi ysgrifennu mewn llythyrau mawr, “SGWENNA’N FUAN” a “MAM. FYDDA I’N DY GARU DI WASTAD.”

Geiriau fy merch a agorodd fy llygaid i wirionedd mawr: mae’r Arglwydd yn fy ngharu bob amser. Dw i'n gweddïo y galla i fod yn ffyddlon iddo a dod yn beth bynnag y mae am i mi fod.

-Nina

GWEDDI: Annwyl Arglwydd, helpa fi i fyw'r bywyd rwyt ti'n ei ddymuno i mi o hyn allan, un dydd ar y tro. Diolch am dy amynedd gyda mi. Helpa fi i fod yn amyneddgar gydag eraill. Amen.

Ysgrythur

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

I Surrender: Inspirational Devotions Written by Prisoners

Mae'r Beibl yn llyfr o brynedigaeth, rhyddid, a gobaith. O fewn ei dudalennau mae cymeriadau deinamig a llawn angerdd - dynion a merched wedi torri yn chwilio am atebion. Mewn ffordd, maen nhw'n debyg iawn i'r carcharorion presennol a chyn-garcharorion a ysgrifennodd y defosiynau rwyt ti ar fin eu darllen. Gobeithio y cei dy galonogi a'th ysbrydoli gan leisiau o'r eglwys sydd wedi’u caethiwo.. Boed i'w tystiolaeth nhw ein rhyddhau ni i gyd.

More

Hoffem ddiolch i Prison Fellowship am ddarparu’r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.prisonfellowship.org/resources/subscribe