I Surrender: Defosiynau Ysbrydoledig wedi'u sgwennu gan GarcharorionSampl
MAE IESU YMA
Ar un adeg yn ei fywyd, gwnaeth Pedr ymrwymiad difrifol i ddilyn Iesu. Dwedodd hyd yn oed y byddai'n fodlon mynd i'r carchar a marw drosto. Roedd Pedr yn ddiffuant, ond aeth nôl ar ei air pan wynebodd profion a threialon! Ond roedd Iesu wedi gweddïo dros Pedr, a wnaeth e ddim troi cefn arno.
Ydyn ni wedi methu hefyd? Ydym ni wedi gwadu ein Hiachawdwr, baglu, a throi cefn? Cwyd dy galon. Edrych at Iesu. Mae o dal yna. Mae'n dal i garu ni. Mae wedi gweddïo droson ni, ac er gwaethaf ein holl fethiannau, mae'n barod i'n codi, i sychu ein dagrau, ac i iacháu ein calonnau toredig.
Gallwn fynd ymlaen i fod yn ŵr neu’n wraig i Dduw, i gadw ein hymrwymiadau a’r addewidion a wnaethon ni i Iesu. Waeth ble dŷn ni, hyd yn oed mewn cell carchar tywyll, waeth beth yw ein hamgylchiadau, mae Iesu yno. Gallwn fod yn ddewr a dweud wrtho eto, “dw i'n fodlon mynd i'r carchar neu hyd yn oed farw drosot ti!”
-Javier
PRAYER: Diolch i ti, Arglwydd, er ein bod yn methu, Nid wyt byth yn troi cefn arnon ni. Amen.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae'r Beibl yn llyfr o brynedigaeth, rhyddid, a gobaith. O fewn ei dudalennau mae cymeriadau deinamig a llawn angerdd - dynion a merched wedi torri yn chwilio am atebion. Mewn ffordd, maen nhw'n debyg iawn i'r carcharorion presennol a chyn-garcharorion a ysgrifennodd y defosiynau rwyt ti ar fin eu darllen. Gobeithio y cei dy galonogi a'th ysbrydoli gan leisiau o'r eglwys sydd wedi’u caethiwo.. Boed i'w tystiolaeth nhw ein rhyddhau ni i gyd.
More