Byw drwy'r Ysbryd: Defosiynau gyda John PiperSampl
Mae'r Ysbryd yn ein Llenwi â Llawenydd
"Felly, gwyliwch sut dych chi'n ymddwyn. Peidiwch bod yn ddwl – byddwch yn ddoeth. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni, achos mae digon o ddrygioni o'n cwmpas ni ym mhobman. Peidiwch gwneud dim yn ddifeddwl; ceisiwch ddeall bob amser beth mae'r Arglwydd eisiau. Peidiwch meddwi ar win – dyna sut mae difetha'ch bywyd. Yn lle hynny, gadewch i'r Ysbryd Glân eich llenwi a'ch rheoli chi." - Effesiaid, pennod 5, adnodau 15 i 18.
Pam fod pobl yn troi at y ddiod gadarn? Am un awr o hapusrwydd. Dŷn ni i gyd eisiau bod yn hapu, ond mae yan broblem: "Mae'r dyddiau'n llawn drygioni" (adnod 16).
I ble wyt ti'n troi pan mae'r dyddiau'n llawn drygioni. pan mae ofn arnat ti neu rwyt ti'n ofnus, digalon, isel dy ysbryd neu pryderus? Mae Paul yn pledio gyda ni: "Peidiwch troi at win...gadewch i'r Ysbryd Glân eich llenwi. Gall yr Ysbryd Glân ddod â chymaint mwy na all gwin."
Mae yna bobl sy'n methu chwibanu neu ganu cân hapus yn y gwaith oherwydd mae nhw llawn pryder am fywyd. Ond, yn ddiweddarach yn y noso, yn y dafarn, ar ôl nifer o ddiodydd mae nhw'n gallu cofleidio ei gilydd a chanu a chwerthin.
Dŷn ni, bawb, yn ddiofal, diymatal, a hapus. A'r trasiedi cynyddol o'n cyfnod, fel yng nghyfnod Paul, yw'r niferoedd cynyddol o bobl (hyd yn oed Cristnogion) mai'r unig ffordd iu ffeindio rhyddid fel plentyn yw drygio eu hunain gydag alcohol. Mae ymddygiad o'r fath yn amharchu Duw, ac felly mae Paul yn dweud: Mae yn a ffordd well i ddelio gyda'r diwrnodau dieflig - cael dy lenwi â'r Ysbryd, a chei brofi llawenydd anghymharol sy'n canu mawl i'r Arglwydd.
Fwelly, beth mae cael dy lenwi â'r Ysbryd yn ei olygu?
Yr Ysbryd sy'n ein llenwi yw'r Ysbryd o Lawenydd sy'n llifo'n ddiddiwedd rhwng Duw y Tad a Duw y Mab oherwydd eu bod yn ymhyfrydu'n ei gilydd. Felly, mae cael dy lenwi yn yr Ysbryd yn golygu cael dy ddal yn y llawenydd sy'n llifo o fewn y Drindod Sanctaidd ac i garu Duw y Tad a Duw y Mab gyda'r union gariad sydd ganddyn nhw at ei gilydd.
Y llwybr dorrir gan yr Ysbryd drwy jyngl ein pryderon i fan agored o lawenydd ydy'r llwybr o ffydd. Yn ôl Paul, y ffordd i gael dy lenwi â'r Ysbryd yw drwy drystio bod Duw gobaith yn teyrnasu - ac nad oes aderyn y to yn syrthio'n farw heb ei fod yn gwybod am y peth (Mathew, pennod 10, adnod 29) - ac mae e'n rheoli'r byd er dy fwyn di ac ar gyfer pawb sy'n credu ei air. O gredu hynny, cei dy lenwi â'r Ysbryd Glân a llawenydd.
Dysga fwy: http://www.desiringgod.org/messages/be-filled-with-the-spirit
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
7 Darlleniad Defosiynol gan John Piper ar yr Ysbryd Glân
More