Byw drwy'r Ysbryd: Defosiynau gyda John PiperSampl
Mae'r Ysbryd yn ein Helpu i Farw
Mae'n fendith fawr i chi gael eich sarhau am eich bod yn dilyn y Meseia, am ei fod yn dangos fod Ysbryd yr Un gogoneddus, sef Ysbryd Duw, yn gorffwys - 1 Pedr, pennod 4, adnod 4.
Mae Corrie ten Boom yn dweud fel roed yn poeni os oedd yn mynd i allu sefyll yn erbyn yr Almaenwyr pe byddai'n cael ei bygwth. Teimlai mor wan pan oedd yn meddwl am beth allai ddigwydd. Rhoddodd ei thad, dw i'n credu, ddarlun iddi. Dwedodd, "Pan wyt ti'n mynd i gymryd taith ar y trên, ydw i'n rhoi tocyn i ti dair wythnos yn gynnar, neu dim ond cyn i ti fynd ar y trên?" Atebodd hi, "Fel dw i'n mynd ar y trên." "Fel yna bydd Duw yn rhoi nerth arbennig i ti, i fod yn gryf yng wyneb marwolaeth ar yr union amser rwyt ei angen, a ddim cynt."
Dw i'n credu bod 1 Pedr, pennod 4, adnod 14 yn addo, ar awr o'r profi mwyaf mae Duw yn dod at ei blant i roi iddyn nhw hyder a ffydd nad oedden nhw fyth yn wybi od ei fod ganddyn nhw. Bydd yr Ysbryd Glân yn eich helpu i farw.
Mae traddodiad da yn dweud wrthon ni fod Paul wedi ei ddienyddio gan Nero. Mwy na thebyg, 2 Timotheus oedd llythyr olaf Paul. Roedd ei achos eisoes wedi dechrau. Edrycha ar Paul, wedi'i anafu mewn brwydr dros ei Gadlywydd, ac yn y ddalfa yn Rhufain. Mae e'n cael ei alw gerbron y llys. Mae pawb yn gwybod mai dyddiau sydd ganddo. Mae ei ddiwedd ar ddod. Felly does neb o'i ffrindiau yna i'w gefnogi. Mae e'n rhoi ei amddiffyniad. Mae'r penderfyniad yn cael ei wneud i wrando arno et- yna'r diwedd. Mae e'n mynd yn ôl i'w ddalfa ac mae'n sgwennu y geiriau hyn i Timotheus (2 Timotheus, pennod 4, adnodau 16 i 17), "Ddaeth neb i'm cefnogi i yn yr achos llys cyntaf. Roedd pawb wedi troi'u cefnau arna i. Dw i ddim am i Dduw ddal y peth yn eu herbyn nhw. Ond roedd yr Arglwydd gyda mi yn rhoi nerth i mi gyhoeddi'r newyddion da yn llawn..."
Dw i'n gweddïo y byddi'n cofio'r geiriau hyn: Bydd ytr Ysbryd yn dy helpu i farw. Bydd yn sefyll gyda ti pan nad oes neb arall. Bydd yn cynnal dy ffydd. Bydd yn rhoi cioplwg i ti o ysblander. Bydd achosi ti i fawrygu Crist yn dy farwolaeth. Bydd gennyt hyder tu hwnt i bob dychymyg. Bydd Ysbryd gorfoledd ac o Dduw yn gorffwys arnat a'th gario gartref.
Dysga fwy: http://www.desiringgod.org/messages/the-holy-spirit-will-help-you-die
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
7 Darlleniad Defosiynol gan John Piper ar yr Ysbryd Glân
More