Luk 19

19
PENNOD XIX.
Am Zacchaius y publican. Y deg darn o arïan. Christ yn marchogaeth i Ierusalem; yn wylo drosti; ac yn gyrru y prynwŷr a’r gwerthwŷr allan o’r deml. Y llywodraethwŷr a fynnent ei ddifetha ef, oni bai ofn y bobl.
1A’R Iesu a aeth i mewn, ac a deithiodd trwy Iericho. 2Ac wele ŵr a elwid wrth ei enw Zacchaius, ac efe oedd brif publican, ac yn gyfoethog. 3Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pa fath ydoedd; ac ni allai gan y dyrfa, am ei fod yn fyr o faintiolu. 4Ac efe a redodd o’r blaen, ac a ddringodd i sycamorwŷdden, fel y gallai ei weled ef: oblegyd yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno. 5A phan ddaeth yr Iesu i’r lle, efe a edrychodd i fynu, ac a’i canfu ef; ac a ddywedodd wrtho, Zacchaius, disgyn ar frys: canys rhaid i mi heddyw aros yn dy dŷ di. 6Ac efe a ddisgynodd ar frys, ac a’i derbyniodd ef yn llawen. 7A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fyned o hono ef i mewn i lettya at ŵr pechadurus. 8A Zacchaius a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy nâ, O Arglwydd, yr ydwyf yn ei roddi i’r tlodion; ac os dygais ddim o’r eiddo neb trwy gamwedd, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd. 9A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddyw y daeth iachawdwriaeth i’r tŷ hwn, o herwydd ei fod yntau yn fab i Abraham. 10Canys Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid. 11Ac a hwy yn gwrandaw ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddammeg, am ei fod efe yn agos i Ierusalem, ac am iddynt dybied yr ymddangosai breniniaeth Duw yn y fan. 12Am hynny y dywedodd efe, Rhyw ŵr bonheddig a aeth i wlad bell i dderbyn breniniaeth iddo ei hun, ac i ddychwelyd. 13Ac wedi galw ei ddeg gwas, efe a roddes iddynt ddeg punt, ac a ddywedodd wrthynt, Marchnattêwch hyd oni ddelwyf. 14Eithr ei ddinaswŷr a’i casasant, ac a ddanfonasant gennadwri ar ei ol ef, gan ddywedyd, Ni fynnwn ni hwn i lywodraethu arnom. 15A bu, pan ddaeth efe yn ei ol, wedi derbyn y freniniaeth, erchi o hono ef alw y gweision hyn atto, i’r rhai y rhoddasai efe yr arian, fel y gwybyddai beth a elwasai bob un wrth farchnatta. 16A daeth y cyntaf, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt a ynnillodd ddeg punt. 17Yntau a ddywedodd wrtho, Da, was da: am i ti fod yn ffyddlon yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas. 18A’r ail a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt di a wnaeth bum punt. 19Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw, Bydd dithau ar bum dinas. 20Ac un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy bunt, yr hon oedd gennyf wedi ei dodi mewn napcyn: 21Canys mi a’th ofnais, am dy fod yn ŵr traws: yr wyt ti yn cymmeryd i fynu y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ni heuaist. 22Yntau a ddywedodd wrtho, O’th enau dy hun y’th farnaf, tydi was drwg. Ti a wyddit fy mod i yn ŵr traws, yn cymmeryd i fynu y peth ni roddais i lawr, ac yn medi y peth ni heuais: 23A phaham na roddaist fy arian i i’r bwrdd cyfnewid, fel pan ddaethwn y gallaswn ei gael gyd â llog? 24Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger llaw, Dygwch oddi arno ef y bunt, a rhoddwch i’r hwn sydd â deg punt ganddo. 25(A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt) 26Canys yr wyf fi yn dywedyd i chwi, mai i bob un y mae ganddo, y rhoddir iddo; eithr oddi ar yr hwn nid oes fawr ganddo, y dygir oddi arno, ïe, yr hyn sydd ganddo. 27A hefyd fy ngelynion hynny, y rhai ni fynnasent i mi lywodraethu arnynt, dygwch hwynt yma, a heddwch ger fy mron i. 28Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o’r blaen, gan fyned i fynu i Ierusalem. 29Ac efe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethphage a Bethania, i’r mynydd a elwir Olewydd, efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, 30Gan ddywedyd, Ewch i’r pentref ar eich cyfer; yn yr hwn, gwedi eich dyfodi mewn, chwi a gewch ebol yn rhwym ar yr hwn nid eisteddodd dŷn eriôed: gollyngwch ef, a dygwch yma. 31Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng? dywedwch fel hyn, Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho. 32A’r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt. 33Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, ei berchennogion a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol? 34A hwy a ddywedasant, Mae yn rhaid i’r Arglwydd wrtho. 35A hwy a’i dygasant ef at yr Iesu: ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwy a ddodasant yr Iesu arno. 36Ac fel yr oedd efe yn myned, hwy a danasant eu dillad ar hŷd y ffordd. 37Ac weithian, ac efe yn nesâu at goriwaered mynydd yr Olewŷdd, dechreuodd yr holl lïaws ddisgyblion lawenhâu, a chlodfori Duw â llef uchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent; 38Gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenhin sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd: Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf. 39A rhai o’r Pharisai o’r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athraw, cerydda dy ddisgyblion. 40Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai y rhai hyn, y llefai y cerrig yn y fan. 41Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd y ddinas, efe a wylodd drosti, 42Gan ddywedyd, Pe gwybuasit dithau, ïe, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i’th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid. 43Canys daw y dyddiau arnat, a’th elynion a fwriant glawdd o’th amgylch, ac a’th amgylchant, ac a’th warchaeant o bob parth; 44Ac a’th wnant yn gyd-wastad â’r llawr, a’th blant o’th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen: o herwydd nad adnabuost amser dy ymweliad. 45Ac efe a aeth i mewn i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi, ac yn prynu; 46Gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, Tŷ gweddi yw fy nhŷ i: eithr chwi ai gwnaethoch yn ogof lladron. 47Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml: a’r arch offeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a phennaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef; 48Ac ni fedrasant beth i wneud, canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrandaw arno.

اکنون انتخاب شده:

Luk 19: JJCN

های‌لایت

به اشتراک گذاشتن

کپی

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید