Eseia 56
56
Pobl o bob gwlad yn perthyn i Dduw
1Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Gwnewch beth sy’n iawn! Gwnewch beth sy’n deg!
Dw i ar fin achub, a dangos fy nghyfiawnder.
2Y fath fendith fydd i’r bobl sy’n gwneud hyn,
a’r rhai hynny sy’n dal gafael yn y peth –
y rhai sy’n cadw’r Saboth, heb ei wneud yn aflan,
ac yn stopio’u hunain rhag gwneud drwg.
3Ddylai’r estron sydd wedi ymrwymo i’r ARGLWYDD ddim dweud:
‘Mae’r ARGLWYDD yn fy nghadw i ar wahân i’w bobl.’
A ddylai’r eunuch#56:3 eunuch dyn wedi’i ysbaddu (ei bidyn wedi’i dorri i ffwrdd), oedd yn gweithio fel swyddog neu was ystafell ym mhalas y brenin. ddim dweud,
‘Coeden sydd wedi gwywo ydw i.’”
4Achos dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“I’r eunuchiaid hynny sy’n cadw fy Sabothau
– sy’n dewis gwneud beth dw i eisiau
ac yn glynu’n ffyddlon i’r ymrwymiad wnes i –
5dw i’n mynd i godi cofeb
yn fy nhŷ, y tu mewn i’w waliau:
rhywbeth gwell na meibion a merched,
a rhoi enw iddyn nhw fydd yn para am byth.
6Ac i’r bobl estron sydd wedi ymrwymo
i wasanaethu’r ARGLWYDD, ei garu,
a dod yn weision iddo –
pawb sy’n cadw’r Saboth heb ei wneud yn aflan,
ac sy’n glynu’n ffyddlon i’r ymrwymiad wnes i –
7Bydda i’n eu harwain at fy mynydd cysegredig#56:7 mynydd cysegredig gw. 2:3.
i ddathlu’n llawen yn fy nhŷ gweddi.
Bydd croeso iddyn nhw ddod ag offrymau i’w llosgi
ac aberthau i’w cyflwyno ar fy allor i;
achos bydd fy nhŷ i yn cael ei alw
yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd.”
8Dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, yr un sy’n casglu ffoaduriaid Israel at ei gilydd: “Dw i’n mynd i gasglu mwy eto at y rhai sydd eisoes wedi’u casglu.”
Duw yn addo cosbi arweinwyr drwg y wlad
9“Dewch i fwyta, chi anifeiliaid gwyllt!
Dewch, holl anifeiliaid y goedwig!
10Mae’r gwylwyr#56:10 gwylwyr cyfeiriad at yr offeiriaid a’r proffwydi, sef yr arweinwyr ysbrydol, mae’n debyg. i gyd yn ddall, ac yn deall dim.
Maen nhw fel cŵn mud sy’n methu cyfarth –
yn breuddwydio, yn gorweddian, ac wrth eu bodd yn pendwmpian.
11Ond maen nhw hefyd yn gŵn barus
sydd byth yn gwybod pryd maen nhw wedi cael digon;
bugeiliaid sy’n deall dim!
Mae pob un wedi mynd ei ffordd ei hun,
ac maen nhw i gyd yn ceisio elwa rywsut.
12‘Dewch, dw i am nôl gwin!
Gadewch i ni feddwi ar gwrw!
Cawn wneud yr un fath yfory –
bydd hyd yn oed yn well!’
اکنون انتخاب شده:
Eseia 56: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023