Eseia 57

57
Pobl ffyddlon Duw yn dioddef
1Mae rhywun cyfiawn yn marw,
a does neb yn malio.
Mae pobl ffyddlon yn cael eu cymryd,
a does neb yn sylweddoli
fod y cyfiawn yn cael eu symud
i’w harbed rhag y drwg sy’n dod.
2Bydd y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn
yn profi heddwch,
ac yn cael gorffwys ar eu gwlâu.
3Dewch yma, chi blant y rhai sy’n dweud ffortiwn,
disgynyddion y rhai sy’n godinebu ac yn puteinio!
4Am ben bwy ydych chi’n gwneud sbort?
Ar bwy ydych chi’n gwneud ystumiau
ac yn tynnu tafod?
Dych chi’n blant i rebeliaid,
yn ddisgynyddion rhai sy’n dweud celwydd,
5a’ch nwydau rhywiol yn llosgi wrth addoli
dan bob coeden ddeiliog.
Chi sy’n aberthu plant yn y dyffrynnoedd,
ac yn hafnau’r creigiau.
6Cerrig llithrig y nant ydy dy gyfran di;
mentra di gyda nhw!
Iddyn nhw rwyt ti wedi tywallt dy offrwm o ddiod,
a chyflwyno dy offrwm o fwyd.
Ddylwn i ymatal rhag dial yn wyneb hyn i gyd?
7Rwyt yn gwneud dy wely ar ben pob mynydd uchel,
ac yn mynd yno i gyflwyno dy aberthau.
8Er bod arwydd wedi’i osod tu ôl i ffrâm drws dy dŷ,#Deuteronomium 6:9
ti wedi ngadael i a gorwedd yn agored ar dy wely.
Ti wedi ymrwymo dy hun i’r duwiau,
wedi mwynhau gorweddian yn noeth
a dewis dilyn dy chwantau.#57:8 a dewis … chwantau Hebraeg, “a syllu ar eu pidyn”.
9Yna, mynd i lawr i weld y brenin
gyda rhoddion o olew a llwyth o bersawr.
Anfonaist negeswyr at un oedd yn bell i ffwrdd,
hyd yn oed i Annwn!#57:9 Annwn Hebraeg, Sheol, sef “y byd tanddaearol lle mae’r meirw yn mynd”.
10Er bod yr holl deithio’n dy flino,
wnest ti ddim rhoi i fyny!
Llwyddaist i gael digon o egni i ddal ati.
11Pwy oedd yn dy boeni
a gwneud i ti ofni a dweud celwydd?
Doeddet ti ddim yn meddwl amdana i
nac yn cymryd unrhyw sylw ohono i.
Ai’r rheswm wyt ti ddim yn fy ofni i
ydy mod i wedi bod yn ddistaw mor hir?
12Gwna i ddweud beth dw i’n feddwl o dy weithredoedd da:
fydd y rheiny ddim yn gallu dy helpu!
13A fydd dy gasgliad o dduwiau ddim yn dy helpu
pan fyddi di’n gweiddi –
does dim bywyd nac anadl ynddyn nhw!
Ond bydd y rhai sy’n troi ata i yn meddiannu’r tir
ac yn etifeddu fy mynydd cysegredig i.
Duw yn addo helpu ei bobl
14Dyma fydd yn cael ei ddweud:
Adeiladwch! Adeiladwch! Cliriwch y ffordd!
Symudwch bob rhwystr o ffordd fy mhobl!
15Dyma mae’r Un uchel iawn yn ei ddweud,
yr un sy’n aros am byth, a’i enw’n sanctaidd:
Dw i’n byw mewn lle uchel a sanctaidd,
ond dw i hefyd gyda’r rhai gostyngedig sydd wedi’u sathru –
dw i’n adfywio’r rhai gostyngedig,
ac yn codi calon y rhai sydd wedi’u sathru.
16Dw i ddim yn mynd i ddadlau drwy’r adeg,
na dal dig am byth.
Dw i ddim eisiau i ysbryd y bobl ballu,
gan mai fi sy’n rhoi anadl iddyn nhw fyw.
17Rôn i’n ddig am eu bod yn elwa drwy drais.
Dyma fi’n eu taro, a throi i ffwrdd wedi digio,
ond roedden nhw’n dal i fynd eu ffordd eu hunain!
18Do, dw i wedi gweld beth maen nhw’n ei wneud,
ond dw i’n mynd i’w hiacháu nhw.
Dw i’n mynd i’w harwain a’u cysuro;
cysuro’r rhai sy’n galaru,
19a rhoi lle iddyn nhw ddathlu:
heddwch a llwyddiant i bawb yn bell ac agos!
Dw i’n mynd i’w hiacháu nhw,”
–meddai’r ARGLWYDD.
20“Ond bydd y rhai drwg fel môr stormus
sy’n methu bod yn dawel,
a’i ddŵr yn corddi’r llaid a’r baw.
21Fydd dim heddwch i bobl ddrwg,”#Eseia 48:22
–meddai fy Nuw.

اکنون انتخاب شده:

Eseia 57: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید