Job 4
4
Y cylch cyntaf o ddadleuon
(Job 4:1–14:22)
Ymateb Eliffas: mae’r dieuog yn llwyddo
1A dyma Eliffas o Teman yn ymateb:
2“Wnei di faddau i mi os gwna i fentro dweud gair?
Mae’n anodd peidio dweud rhywbeth!
3Meddylia gymaint o bobl wnest ti eu dysgu,
a’r holl rai gwan wnest ti eu hannog a’u helpu.
4Roedd dy eiriau yn cynnal y rhai oedd yn baglu,
ac yn cryfhau’r rhai oedd yn simsanu.
5Ond nawr, mae wedi digwydd i ti,
a fedri di ddim godde’r peth;
mae drwg wedi dy daro,
a dyma ti’n anobeithio!
6Ydy dy grefydd ddim yn dy gynnal?
Ydy dy fywyd da ddim yn rhoi gobaith i ti?
7Meddylia am eiliad, gafodd rhywun dieuog ei ddifa erioed?
Ble cafodd y rhai sy’n byw’n iawn eu difa’n llwyr?
8Fel yma dw i’n ei gweld hi: y rhai sy’n aredig drygioni
ac yn hau helynt sy’n medi cynhaeaf hynny!
9Mae Duw yn chwythu arnyn nhw,
ac maen nhw’n cael eu difa;
maen nhw’n diflannu gydag anadl ei ffroenau.
10Maen nhw fel y llew yn rhuo, a’i rai bach yn cwyno,
pan mae dannedd y llewod ifanc wedi’u torri.
11Heb ysglyfaeth mae’r llew cryf yn marw,
a chenawon y llewes yn mynd ar wasgar.
Gweledigaeth Eliffas
12Ces neges yn dawel o’r dirgel,
dim ond sibrydiad bach a glywais.
13Yng nghanol breuddwydion dryslyd y nos,
pan mae pobl yn cysgu’n drwm.
14Rôn i wedi dychryn, ac yn crynu trwof;
roedd fel ias drwy fy esgyrn i gyd!
15Teimlais awel yn pasio heibio i’m hwyneb,
a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll.
16Roedd siâp rhywun yn sefyll o’m blaen,
ond doeddwn i ddim yn ei nabod.
Tawelwch, ac yna clywais ei lais yn sibrwd:
17‘Ydy person dynol yn fwy cyfiawn na Duw?
Ydy pobl yn fwy pur na’r Un wnaeth nhw?
18Os ydy Duw ddim yn trystio ei weision,
ac yn cyhuddo’i angylion o fod yn ffôl,
19pa obaith sydd i’r rhai sy’n byw mewn corff o bridd,
ac yn tarddu o’r llwch –
y rhai y gellir eu gwasgu fel gwyfyn!
20Gallan nhw gael eu sathru’n farw,
unrhyw bryd rhwng gwawr a machlud,
a’u difa’n llwyr am byth, heb neb yn cymryd sylw.
21Mae rhaffau eu pebyll daearol yn cael eu codi,
ac maen nhw’n marw mewn anwybodaeth.’
اکنون انتخاب شده:
Job 4: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023