Job 5
5
1Galw am help! Fydd rhywun yn dy ateb di?
At ba un o’r angylion sanctaidd wyt ti’n mynd i droi?
2Mae’r ffŵl byrbwyll yn marw o ddiffyg amynedd,
a’r person dwl pan mae’n dal dig.
3Dw i wedi gweld y ffŵl yn llwyddo a gwreiddio,
ond yna’n sydyn roedd ei gartref wedi’i felltithio.
4Dydy ei blant byth yn saff –
byddan nhw’n colli’r achos yn y llys, heb neb i’w hachub.
5Bydd pobl newynog yn bwyta ei gnydau,
a’i gario i ffwrdd i’w guddio;#5:5 Un cyfieithiad posibl a’i gario … guddio; Hebraeg, “ac i ffwrdd o’r drain mae’n ei gymryd”.
a’r rhai sy’n llwgu yn ysu am ei gyfoeth.
6Dydy profiadau drwg ddim yn tyfu o’r pridd,
na thrafferthion yn egino o’r ddaear;
7ond mae pobl yn cael eu geni i drafferthion,
mor siŵr ag mae gwreichion yn hedfan i fyny.
8Petawn i’n ti, byddwn i’n troi at Dduw,
ac yn gosod fy achos o’i flaen.
9Mae e’n gwneud pethau mawr, tu hwnt i’n deall ni,
cymaint o bethau rhyfeddol, ni ellir eu cyfri!
10Mae e’n anfon glaw i’r ddaear,
ac yn dyfrio’r caeau.
11Mae e’n codi’r rhai sy’n isel,
ac yn gwneud y rhai sy’n galaru yn ddiogel.
12Mae e’n drysu cynlluniau’r cyfrwys,
i’w hatal rhag llwyddo.
13Mae’n gwneud i glyfrwch pobl eu baglu nhw;
mae cynlluniau’r cyfrwys yn mynd o chwith.
14Maen nhw’n cael eu hunain mewn tywyllwch yng ngolau dydd,
ac yn ymbalfalu ganol dydd fel petai’n nos!
15Ond mae e’n achub y tlawd rhag eu geiriau creulon,
a’r anghenus o afael y rhai cryf.
16Felly mae gobaith i’r tlawd,
ac mae anghyfiawnder yn gorfod tewi!
17Mae’r rhai mae Duw’n eu ceryddu wedi’u bendithio’n fawr;
felly paid gwrthod disgyblaeth y Duw sy’n rheoli popeth!
18Mae e’n anafu, ond hefyd yn rhwymo’r anaf;
mae’n dolurio, ond mae ei ddwylo hefyd yn iacháu.
19Bydd yn dy achub rhag un trychineb ar ôl y llall;
chei di ddim niwed byth.
20Mewn newyn bydd yn dy ryddhau o afael marwolaeth,
ac mewn rhyfel, o afael y cleddyf.
21Byddi’n cael dy amddiffyn rhag y tafod maleisus;
a fyddi di ddim yn ofni dinistr pan ddaw yn agos.
22Byddi’n gwawdio dinistr a newyn,
a fydd gen ti ddim ofn anifeiliaid gwyllt.
23Bydd cerrig yn cytuno i gadw draw o dy dir,
a fydd anifeiliaid gwyllt ddim yn ymosod arnat ti.
24Byddi’n gwybod fod dy gartref yn ddiogel,
ac wrth archwilio dy anifeiliaid, fydd dim un ar goll.
25Byddi’n siŵr o gael llawer iawn o blant;
bydd dy ddisgynyddion fel glaswellt ar y tir.
26Byddi mewn oedran mawr pan gyrhaeddi’r bedd,
fel ysgub o wenith yn cael ei chasglu yn ei thymor.
27Edrych! Dŷn ni wedi astudio hyn yn fanwl, ac mae’n wir.
Felly gwrando, a meddylia sut mae’n berthnasol i ti.”
اکنون انتخاب شده:
Job 5: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023