Job 42
42
Job yn cyfaddef ei fai
1Yna dyma Job yn dweud wrth yr ARGLWYDD:
2“Dw i’n gwybod dy fod ti’n gallu gwneud unrhyw beth;
does dim modd rhwystro dy gynlluniau di.
3‘Pwy ydy hwn sy’n amau fy nghynllun i,
ac yn deall dim?’ meddet ti.
Ti’n iawn, dw i wedi siarad am bethau doeddwn i ddim yn eu deall;
pethau oedd y tu hwnt i mi, pethau allwn i mo’u dirnad nhw.
4‘Gwranda arna i, a gwna i siarad;
Fi fydd yn gofyn y cwestiynau, a gei di ateb,’ meddet ti.
5O’r blaen, wedi clywed amdanat ti oeddwn i,
ond nawr dw i wedi dy weld drosof fy hun.
6Felly, dw i’n tynnu’r cwbl yn ôl,
ac yn edifarhau mewn llwch a lludw.”
Duw yn barnu’r tri ffrind
7Ar ôl i’r ARGLWYDD siarad â Job, dyma fe’n dweud wrth Eliffas o Teman, “Dw i’n ddig iawn gyda ti a dy ddau ffrind, am beidio dweud beth sy’n wir amdana i, yn wahanol i fy ngwas Job. 8Felly cymerwch saith tarw a saith hwrdd a mynd at fy ngwas Job a chyflwyno offrwm i’w losgi drosoch eich hunain. Bydd fy ngwas Job yn gweddïo drosoch chi, a bydda i’n gwrando arno. Felly fydda i ddim yn delio gyda chi fel dych chi’n haeddu am beidio dweud beth sy’n wir amdana i, yn wahanol i fy ngwas Job.”
9Felly dyma Eliffas o Teman, Bildad o Shwach a Soffar o Naamâ yn mynd a gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrthyn nhw, a dyma’r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Job.
Duw yn bendithio Job
10Ar ôl i Job weddïo dros ei ffrindiau, dyma’r ARGLWYDD yn rhoi yn ôl iddo y cwbl oedd wedi’i golli – yn wir rhoddodd yr ARGLWYDD iddo ddwywaith cymaint ag o’r blaen.
11Daeth ei frodyr a’i chwiorydd, a’i hen ffrindiau i gyd, i’w dŷ am bryd o fwyd, ac i gydymdeimlo gydag e a’i gysuro achos yr holl drasiedïau roedd yr ARGLWYDD wedi’u dwyn arno. Rhoddodd pob un ohonyn nhw arian a modrwy aur iddo.
12Dyma’r ARGLWYDD yn bendithio Job fwy yn y blynyddoedd ar ôl hynny nag roedd wedi ei wneud yn y blynyddoedd cyn hynny. Roedd ganddo un deg pedair mil o ddefaid, chwe mil o gamelod, mil o barau o ychen, a mil o asennod. 13Hefyd cafodd saith mab a thair merch. 14Enw’r ferch hynaf oedd Jemima, Cetsia oedd enw’r ail, a Ceren-hapwch oedd y drydedd. 15Doedd dim merched harddach i’w cael yn unman, a rhoddodd Job etifeddiaeth iddyn nhw fel i’w brodyr.
16Cafodd Job fyw am gant pedwar deg o flynyddoedd ar ôl hynny, a gwelodd bedair cenhedlaeth o’i ddisgynyddion. 17Felly, roedd Job yn hen ŵr mewn oedran mawr pan fuodd e farw.
اکنون انتخاب شده:
Job 42: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023