Salm 1
1
LLYFR UN
(Salmau 1–41)
Bendith Duw
1Mae’r un sy’n gwrthod gwrando ar gyngor pobl ddrwg
wedi’i fendithio’n fawr;
yr un sydd ddim yn cadw cwmni pechaduriaid,
nac yn eistedd gyda’r rhai
sy’n gwneud dim byd ond dilorni pobl eraill;
2yr un sydd wrth ei fodd
yn gwneud beth mae’r ARGLWYDD eisiau,
ac yn myfyrio ar y pethau mae’n eu dysgu#1:2 y pethau mae’n eu dysgu Hebraeg, Torâ, sef ‘y Gyfraith’, neu’r cyfarwyddiadau roddodd Duw i Moses. ddydd a nos.
3Bydd fel coeden wedi’i phlannu wrth ffrydiau o ddŵr,
yn dwyn ffrwyth yn ei thymor,
a’i dail byth yn gwywo.#Jeremeia 17:7,8
Beth bynnag mae’n ei wneud, bydd yn llwyddo.
4Ond fydd hi ddim felly ar y rhai drwg!
Byddan nhw fel us
yn cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt.
5Fydd y rhai drwg ddim yn gallu gwrthsefyll y farn.
Fydd pechaduriaid ddim yn cael sefyll
gyda’r dyrfa o rai cyfiawn.
6Mae’r ARGLWYDD yn gofalu am y rhai sy’n ei ddilyn,
ond bydd y rhai drwg yn cael eu difa.
اکنون انتخاب شده:
Salm 1: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023