Salm 2
2
Y brenin mae’r ARGLWYDD wedi’i ddewis
1Pam mae’r cenhedloedd yn gwrthryfela?
Pam mae pobloedd yn gwastraffu eu hamser yn cynllwynio?
2Mae brenhinoedd daearol yn gwneud safiad;
ac mae’r llywodraethwyr yn dod at ei gilydd i ymladd
yn erbyn yr ARGLWYDD a’r un mae wedi’i ddewis,#2:2 wedi’i ddewis Hebraeg, “eneiniog”. y brenin.
3“Gadewch i ni dorri’n rhydd o’u cadwynau,
a thaflu’r rhaffau sy’n ein rhwymo i ffwrdd!”
4Mae’r Un sydd ar ei orsedd yn y nefoedd yn chwerthin –
maen nhw’n destun sbort i’r ARGLWYDD!
5Wedyn mae’n eu dychryn am ei fod mor ffyrnig,
ac yn dweud wrthyn nhw’n ddig:
6“Dw i wedi gosod fy mrenin yn Seion,
fy mynydd cysegredig!”
7Gadewch i mi ddweud beth mae’r ARGLWYDD wedi’i ddatgan:
dwedodd wrtho i,
“Ti ydy fy mab i;
heddiw des i’n dad i ti.
8Dim ond i ti ofyn,
cei etifeddu’r cenhedloedd.
Bydd dy ystad di’n ymestyn i ben draw’r byd.
9Byddi’n eu malu â phastwn haearn
yn ddarnau mân, fel darn o grochenwaith.”
10Felly, chi frenhinoedd, byddwch ddoeth;
dysgwch eich gwers, chi arweinwyr daearol!
11Gwasanaethwch yr ARGLWYDD gyda pharch;
byddwch yn falch ei fod wedi’ch dychryn chi!
12Plygwch, a thalu teyrnged i’r#2:12 a thalu teyrnged i’r Hebraeg, “a cusanu’r”. mab;
neu bydd yn digio, a cewch eich difa
pan fydd yn dangos mor ddig ydy e.
Mae pawb sy’n troi ato am loches
wedi’u bendithio’n fawr!
اکنون انتخاب شده:
Salm 2: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023