Josua 14
14
Rhannu’r tiroedd i’r gorllewin o afon Iorddonen
1Dyma gofnod o’r ffordd gafodd y tir yn Canaan ei rannu rhwng pobl Israel gan Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel. 2Cafodd y tir ei rannu rhwng y naw llwyth a hanner drwy daflu coelbren, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 3Roedd Moses eisoes wedi rhoi tir yr ochr arall i afon Iorddonen i ddau lwyth a hanner, a doedd e ddim wedi rhoi tir i lwyth Lefi. 4Roedd disgynyddion Joseff, ar y llaw arall, yn cael eu cyfrif fel dau lwyth – Manasse ac Effraim. Doedd llwyth Lefi ddim i gael tir; roedden nhw i gael rhai trefi arbennig i fyw ynddyn nhw, gyda’r tir o’u cwmpas yn borfa i’w hanifeiliaid.
5Felly dyma bobl Israel yn rhannu’r tir yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Rhoi Hebron i Caleb
6Pan oedden nhw yn Gilgal, dyma ddynion o lwyth Jwda yn mynd i weld Josua. Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad oedd yn siarad ar eu rhan, ac meddai, “Ti’n cofio beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, dyn Duw, amdanon ni’n dau, yn Cadesh-barnea? 7Pedwar deg oed oeddwn i pan anfonodd Moses fi o Cadesh-barnea i ysbïo ar y wlad. A dyma fi’n rhoi adroddiad cwbl onest iddo pan ddes i yn ôl.#Numeri 13:1-30 8Roedd y dynion eraill aeth gyda ni wedi dychryn y bobl a gwneud iddyn nhw ddigalonni. Ond roeddwn i wedi aros yn ffyddlon i’r ARGLWYDD fy Nuw. 9A’r diwrnod hwnnw dyma Moses yn addo ar lw: ‘Bydd y tir lle buoch chi’n cerdded yn cael ei roi i ti a dy deulu am byth, am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon i’r ARGLWYDD dy Dduw.’#Numeri 14:24 10Ac mae’r ARGLWYDD wedi cadw ei addewid. Dyma fi, yn dal yn fyw, bedwar deg pum mlynedd yn ddiweddarach. Dyna faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i’r ARGLWYDD siarad â Moses pan oedd pobl Israel yn crwydro yn yr anialwch. Dw i’n wyth deg pum mlwydd oed bellach, 11ac yn dal mor gryf ag oeddwn i pan anfonodd Moses fi allan! Dw i’n dal i allu ymladd a gwneud popeth roeddwn i’n ei wneud bryd hynny. 12Felly rho i mi’r bryniau wnaeth yr ARGLWYDD eu haddo i mi. Mae’n siŵr y byddi’n cofio fod disgynyddion Anac yn byw yno, mewn trefi caerog mawr. Ond gyda help yr ARGLWYDD, bydda i’n cael gwared â nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo.”
13Felly dyma Josua yn bendithio Caleb fab Jeffwnne, a rhoi tref Hebron iddo. 14Mae disgynyddion Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad yn dal i fyw yn Hebron hyd heddiw, am ei fod wedi bod yn ffyddlon i’r ARGLWYDD, Duw Israel. 15Yr hen enw ar Hebron oedd Ciriath-arba, wedi’i enwi ar ôl Arba, oedd yn un o arwyr yr Anaciaid.
Ac roedd heddwch yn y wlad.
اکنون انتخاب شده:
Josua 14: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023