Josua 13
13
Y tiroedd oedd heb eu concro
1Pan oedd Josua wedi mynd yn hen iawn, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Ti’n mynd yn hen, ac mae yna lot fawr o dir sydd eto heb ei goncro. 2Dyma’r tir sydd ar ôl:
Tir y Philistiaid a’r Geshwriaid, 3o afon Sihor ar y ffin gyda’r Aifft i fyny yr holl ffordd i dir Ecron yn y gogledd (y cwbl yn dir sy’n perthyn i’r Canaaneaid). Mae’n cynnwys tiriogaeth arweinwyr y Philistiaid yn Gasa, Ashdod, Ashcelon, Gath ac Ecron – y pump ohonyn nhw. Tir yr Afiaid hefyd, 4sydd i lawr yn y de.
Yna i’r gogledd, tir y Canaaneaid o dref Ara yn Sidon i Affec, sydd ar y ffin gyda’r Amoriaid. 5Tir y Gebaliaid a Libanus i gyd. Ac yna yn y dwyrain, o Baal-gad wrth droed Mynydd Hermon i Fwlch Chamath. 6A dw i am yrru allan o flaen pobl Israel bawb sy’n byw yn mynydd-dir Libanus, yr holl ffordd i Misreffoth-maim, sef tir y Sidoniaid.
“Mae’r tir yma i gyd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel, fel dw i wedi gorchymyn i ti. Bydd gan bob llwyth ei diriogaeth ei hun. 7Mae i’w rannu rhwng y naw llwyth a hanner sydd ddim eto wedi cael tir.”
Rhannu’r tiroedd i’r dwyrain o afon Iorddonen
8Roedd hanner llwyth Manasse, a llwythau Reuben a Gad wedi derbyn tir i’r dwyrain o afon Iorddonen.#Numeri 32:33; Deuteronomium 3:12 Moses, gwas yr ARGLWYDD, oedd wedi rhoi y tir hwnnw iddyn nhw. 9Roedd eu tiriogaeth yn cynnwys Aroer, ger Dyffryn Arnon (gan gynnwys y dref ei hun yn y dyffryn), a gwastadedd Medeba yr holl ffordd i Dibon. 10Hefyd y trefi oedd yn arfer perthyn i Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, at y ffin gydag Ammon. 11Roedd yn cynnwys Gilead, tiroedd Geshwr a Maacha, Mynydd Hermon a thir Bashan i Salca. 12Hefyd tiriogaeth Og, brenin Bashan, oedd yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei. (Roedd Og yn un o’r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl bryd hynny.) Roedd Moses wedi’u concro nhw, a chymryd eu tiroedd. 13Ond wnaeth Israel ddim gyrru allan bobl Geshwr a Maacha – maen nhw’n dal i fyw gyda phobl Israel hyd heddiw.
14Wnaeth Moses ddim rhoi tir i lwyth Lefi chwaith, am fod yr ARGLWYDD wedi addo rhoi iddyn nhw yr offrymau oedd yn cael eu cyflwyno i’w llosgi i’r ARGLWYDD, Duw Israel.#Numeri 18:20; Deuteronomium 18:2
Y tir gafodd llwyth Reuben
15Dyma’r tir roedd Moses wedi’i roi i deuluoedd llwyth Reuben: 16Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Aroer, yn Nyffryn Arnon (gan gynnwys y dref ei hun yn y dyffryn), a gwastadedd Medeba, 17Cheshbon, a’r trefi o’i chwmpas – gan gynnwys Dibon, Bamoth-baal, Beth-baal-meon, 18Iahats, Cedemoth, Meffaäth, 19Ciriathaim, Sibma, Sereth-shachar ar y bryn yn y dyffryn, 20Beth-peor, llethrau Mynydd Pisga, a Beth-ieshimoth. 21Roedd yn cynnwys trefi’r gwastadedd i gyd, a holl diriogaeth Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu o Cheshbon. Roedd Moses wedi’i goncro fe, ac arweinwyr y Midianiaid oedd dan ei reolaeth ac yn byw yn ei diriogaeth – Efi, Recem, Swr, Hur, a Reba. 22Roedd pobl Israel hefyd wedi lladd y dewin, Balaam fab Beor, ac eraill. 23Ffin orllewinol tiriogaeth Reuben oedd afon Iorddonen. Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Reuben yn cynnwys y trefi yma i gyd a’r pentrefi o’u cwmpas.
Y tir gafodd llwyth Gad
24Dyma’r tir roedd Moses wedi’i roi i deuluoedd llwyth Gad: 25Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Iaser, trefi Gilead i gyd, a hanner tiriogaeth pobl Ammon, yr holl ffordd i Aroer, ger Rabba. 26Roedd yn ymestyn o Cheshbon yn y de i Ramath-mitspe a Betonîm yn y gogledd, ac o Machanaîm i ardal Debir. 27Roedd yn cynnwys y tir i’r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, gan gynnwys trefi Beth-haram, Beth-nimra, Swccoth, a Saffon, a gweddill tiriogaeth Sihon, oedd yn teyrnasu o Cheshbon – sef y tir i’r dwyrain o afon Iorddonen yr holl ffordd at Lyn Galilea.#13:27 Lyn Galilea Hebraeg, “Llyn Cinnereth”, enw cynharach ar y llyn. 28Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Gad yn cynnwys y trefi yma i gyd a’r pentrefi o’u cwmpas.
Y tir gafodd hanner llwyth Manasse
29Dyma’r tir roedd Moses wedi’i roi i deuluoedd hanner llwyth Manasse: 30Roedd eu tiriogaeth nhw yn ymestyn tua’r gogledd o Machanaîm, ac yn cynnwys teyrnas Og, brenin Bashan, i gyd. Roedd yn cynnwys y chwe deg o drefi yn Hafoth-jair yn Bashan, 31hanner Gilead, a trefi Ashtaroth ac Edrei (sef y trefi lle roedd Og, brenin Bashan, wedi bod yn teyrnasu). Cafodd y tir yma i gyd ei roi i ddisgynyddion Machir fab Manasse, sef teuluoedd hanner llwyth Manasse.
32Dyna sut wnaeth Moses rannu’r tir pan oedd ar wastatir Moab i’r dwyrain o afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.
33Wnaeth Moses ddim rhoi tir i lwyth Lefi, am fod yr ARGLWYDD wedi addo rhoi iddyn nhw yr offrymau oedd yn cael eu cyflwyno i’r ARGLWYDD, Duw Israel.
اکنون انتخاب شده:
Josua 13: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023