Salm 88

88
Gweiddi am help
Cân. Salm gan feibion Cora. I’r arweinydd cerdd: ar “Mahalath Leanoth”. Mascîl gan Heman yr Esrachiad.
1O ARGLWYDD, y Duw sy’n fy achub,
dw i’n gweiddi am dy help bob dydd
ac yn gweddïo arnat ti bob nos.
2Plîs, cymer sylw o’m gweddi,
a gwranda arna i’n galw arnat ti.
3Dw i mewn helynt dychrynllyd;
yn wir, dw i bron marw.
4Mae pobl yn fy ngweld i fel un sydd ar ei ffordd i’r bedd,
dyn cryf wedi colli ei nerth i gyd
5ac wedi’i adael i farw a’i daflu i fedd cyffredin
gyda’r milwyr eraill sydd wedi’u lladd –
y rhai wyt ti ddim yn eu cofio bellach,
ac sydd ddim angen dy ofal bellach.
6Ti wedi fy ngosod i ar waelod y Pwll,
mewn tywyllwch dudew yn y dyfnder.
7Mae dy lid yn pwyso’n drwm arna i;
dw i’n boddi dan dy donnau di.
Saib
8Ti wedi gwneud i’m ffrindiau agos gadw draw;
dw i’n ffiaidd yn eu golwg nhw.
Dw i wedi fy nal ac yn methu dianc.
9Mae fy llygaid yn wan gan flinder;
O ARGLWYDD, dw i wedi galw arnat ti bob dydd;
dw i’n estyn fy nwylo mewn gweddi atat ti.
10Wyt ti’n gwneud gwyrthiau i’r rhai sydd wedi marw?
Ydy’r meirw yn codi i dy foli di?
Saib
11Ydy’r rhai sydd yn y bedd yn sôn am dy gariad ffyddlon?
Oes sôn am dy ffyddlondeb di yn Abadon?#88:11 Abadon sef, “lle dinistr”.
12Ydy’r rhai sydd yn y lle tywyll yn gwybod am dy wyrthiau?
Oes sôn am dy gyfiawnder ym myd angof?
13Ond dw i wedi bod yn galw arnat ti am help, ARGLWYDD.
Dw i’n gweddïo arnat ti bob bore.
14Felly pam, O ARGLWYDD, wyt ti’n fy ngwrthod i?
Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?
15Dw i wedi diodde a bron marw lawer gwaith ers yn ifanc;
dw i wedi gorfod wynebu pethau ofnadwy,
nes fy mod wedi fy mharlysu.
16Mae dy lid wedi llifo drosto i;
mae dy ddychryn wedi fy ninistrio.
17Mae’r cwbl yn troelli o’m cwmpas fel llifogydd;
maen nhw’n cau amdana i o bob cyfeiriad.
18Ti wedi gwneud i ffrindiau a chymdogion gadw draw oddi wrtho i –
Yr unig gwmni sydd gen i bellach ydy’r tywyllwch!

اکنون انتخاب شده:

Salm 88: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید