Datguddiad 7

7
Y 144,000 o bobl Israel
1Wedyn ces i weledigaeth arall. Roedd pedwar angel yn sefyll ar gyrion eithaf y ddaear – gogledd, de, dwyrain a gorllewin. Roedden nhw’n dal y pedwar gwynt yn ôl. Doedd dim gwynt yn chwythu ar dir na môr, nac ar unrhyw goeden. 2Wedyn dyma fi’n gweld angel arall yn codi o gyfeiriad y dwyrain. Roedd sêl y Duw byw ganddo, a gwaeddodd yn uchel ar y pedwar angel oedd wedi cael y gallu i wneud niwed i’r tir a’r môr: 3“Peidiwch gwneud niwed i’r tir na’r môr na’r coed nes i ni roi marc gyda sêl Duw ar dalcen#cyfeiriad at Eseciel 9:4 y rhai sy’n ei wasanaethu.” 4Yna clywais faint o bobl oedd i gael eu marcio gyda’r sêl: cant pedwar deg pedwar o filoedd o bobl llwythau Israel:
5Cafodd deuddeg mil eu marcio o lwyth Jwda,
deuddeg mil o lwyth Reuben,
deuddeg mil o lwyth Gad,
6deuddeg mil o lwyth Aser,
deuddeg mil o lwyth Nafftali,
deuddeg mil o lwyth Manasse,
7deuddeg mil o lwyth Simeon,
deuddeg mil o lwyth Lefi,
deuddeg mil o lwyth Issachar,
8deuddeg mil o lwyth Sabulon,
deuddeg mil o lwyth Joseff,
a deuddeg mil o lwyth Benjamin.
Y dyrfa enfawr yn gwisgo mentyll gwynion
9Edrychais eto ac roedd tyrfa enfawr o bobl o mlaen i – tyrfa mor aruthrol fawr, doedd dim gobaith i neb hyd yn oed ddechrau eu cyfri! Roedden nhw’n dod o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith, ac yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen. Roedden nhw’n gwisgo mentyll gwynion, ac roedd canghennau palmwydd yn eu dwylo. 10Roedden nhw’n gweiddi’n uchel:
“Ein Duw sydd wedi’n hachub ni! –
yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd,
a’r Oen!”
11Roedd yr holl angylion yn sefyll o gwmpas yr orsedd ac o gwmpas yr arweinwyr ysbrydol a’r pedwar creadur byw. A dyma nhw’n syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr orsedd ac yn addoli Duw, 12gan ddweud:
“Amen!
Y mawl a’r ysblander,
y doethineb a’r diolch,
yr anrhydedd a’r gallu a’r nerth –
Duw biau’r cwbl oll, am byth bythoedd!
Amen!”
13Yna dyma un o’r arweinyddion ysbrydol yn gofyn i mi, “Wyt ti’n gwybod pwy ydy’r bobl hyn sy’n gwisgo mentyll gwynion, ac o ble maen nhw wedi dod?” 14“Na, ti sy’n gwybod, syr”, meddwn innau. Yna meddai, “Dyma’r bobl sydd wedi dioddef yn y creisis mawr olaf. Maen nhw wedi golchi eu dillad yn lân yng ngwaed yr Oen. 15Dyna pam maen nhw yma’n sefyll o flaen gorsedd Duw, ac yn ei wasanaethu yn ei deml ddydd a nos. Bydd yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd yn eu cadw nhw’n saff. 16Fyddan nhw byth eto’n dioddef o newyn na syched. Fyddan nhw byth eto yn cael eu llethu gan yr haul na gwynt poeth yr anialwch.#cyfeiriad at Eseia 49:10 17Oherwydd bydd yr Oen sydd wrth yr orsedd yn gofalu amdanyn nhw fel bugail, ac yn eu harwain nhw at ffynhonnau o ddŵr ffres y bywyd. #adlais o Eseia 49:9-10; Salm 23:1-2 A bydd Duw yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw.”

اکنون انتخاب شده:

Datguddiad 7: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید