Datguddiad 8
8
Y seithfed sêl a’r llestr aur
1Pan agorodd yr Oen y seithfed sêl, aeth pobman yn y nefoedd yn hollol dawel am tua hanner awr.
2Wedyn gwelais utgyrn yn cael eu rhoi i’r saith angel sy’n sefyll o flaen Duw. 3Yna dyma angel arall yn dod, ac yn mynd i sefyll wrth yr allor. Roedd ganddo lestr aur yn ei ddwylo i losgi arogldarth. Dyma bentwr o arogldarth yn cael ei roi iddo, i’w losgi ar yr allor aur o flaen yr orsedd, ac i’w gyflwyno i Dduw gyda gweddïau ei bobl. 4Roedd mwg yr arogldarth a gweddïau pobl Dduw yn codi o law yr angel at Dduw. 5Yna dyma’r angel yn llenwi’r llestr gyda marwor o’r allor ac yna’n ei daflu i lawr i’r ddaear; ac roedd sŵn taranau a mellt a daeargryn.#adlais o Exodus 19:16-19
Yr Utgyrn
6Dyma’r saith angel oedd â’r saith utgorn yn paratoi i’w canu.
7Dyma’r angel cyntaf yn canu ei utgorn, a dyma genllysg a thân wedi’i gymysgu â gwaed yn cael ei hyrddio ar y ddaear.#adlais o Exodus 9:20-25 Cafodd un rhan o dair o’r ddaear ei llosgi, a’r coed a’r holl blanhigion yn y rhan yna o’r byd.
8Dyma’r ail angel yn canu ei utgorn, a dyma rywbeth oedd yn edrych yn debyg i losgfynydd enfawr yn ffrwydro ac yn cael ei daflu i’r môr. Trodd un rhan o dair o’r môr yn waed, 9lladdwyd un rhan o dair o’r creaduriaid byw yn y môr,#adlais o Exodus 7:17-18 a dinistriwyd un rhan o dair o’r llongau.
10Dyma’r trydydd angel yn canu ei utgorn, a syrthiodd seren enfawr o’r awyr. Roedd yn llosgi’n fflamau wrth ddisgyn. Syrthiodd ar un rhan o dair o’r afonydd a’r ffynhonnau dŵr. 11‘Wermod’ oedd enw’r seren, a trodd un rhan o dair o’r dŵr yn chwerw. Y canlyniad oedd fod llawer o bobl wedi marw am fod y dŵr wedi troi’n chwerw.
12Dyma’r pedwerydd angel yn canu ei utgorn, a dyma un rhan o dair o’r haul a’r lleuad a’r sêr yn cael eu taro. Dyma un rhan o dair ohonyn nhw’n troi’n dywyll. Doedd dim golau am un rhan o dair o’r dydd, na’r nos chwaith.#adlais o Exodus 10:21-23
13Wedyn gwelais eryr yn hedfan yn uchel yn yr awyr, a’i glywed yn gweiddi’n uchel: “Gwae! Gwae! Gwae pawb sy’n perthyn i’r ddaear, o achos beth sy’n mynd i ddigwydd pan fydd y tri angel arall yn canu eu hutgyrn!”
اکنون انتخاب شده:
Datguddiad 8: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023