1
Ioan 1:12
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
Ond am y rhai a roddodd groeso iddo, ac ymddiried ynddo, fe gawson nhw’r hawl ganddo i berthyn i deulu Duw.
Konpare
Eksplore Ioan 1:12
2
Ioan 1:1
Yn y dechrau roedd y Gair. Duw a’r Gair, A’r Gair, Duw oedd yntau.
Eksplore Ioan 1:1
3
Ioan 1:5
Mae’r goleuni hwn yn disgleirio yn y tywyllwch o hyd. Ac nid yw’r tywyllwch byth wedi llwyddo i’w ddeall na’i ddiffodd.
Eksplore Ioan 1:5
4
Ioan 1:14
Fe ddaeth y Gair yn ddyn, i fyw yn ein plith ni; fe welsom ni mor ogoneddus oedd ef, yn odidog am mai ef yw unig Fab Duw, yn llawn trugaredd a gwirionedd.
Eksplore Ioan 1:14
5
Ioan 1:3-4
Fe wnaed popeth drwy’r Gair: Heb y Gair, chafodd dim ei wneud erioed. Yn yr hwn a ddaeth i fod, roedd bywyd, ac fe ddaeth y bywyd hwn yn oleuni i bawb.
Eksplore Ioan 1:3-4
6
Ioan 1:29
Drannoeth fe welodd Ioan yr Iesu yn dod ato, ac meddai, “Edrychwch, dyna Oen Duw sy’n tynnu i ffwrdd bechod y byd.
Eksplore Ioan 1:29
7
Ioan 1:10-11
Roedd ef yn y byd, y byd roedd ef ei hun wedi ei wneud, ond wnaeth pobl y byd mo’i nabod. Yn wir, fe ddaeth at ei bobl ei hun, a dyma’r rheiny hyd yn oed yn ei wrthod.
Eksplore Ioan 1:10-11
8
Ioan 1:9
Roedd y gwir Oleuni hwnnw sy’n goleuo pob dyn byw yn dod i’r byd.
Eksplore Ioan 1:9
9
Ioan 1:17
Fe roddwyd y Gyfraith drwy Moses, ond trwy Iesu Grist y daeth gras a gwirionedd.
Eksplore Ioan 1:17
Akèy
Bib
Plan yo
Videyo