Luc 22

22
Cyd‐fradwriaeth y llywodraethwyr â Judas
[Mat 26:1–5, 14–16; Marc 14:1, 2, 10, 11]
1A neshâodd Gwyl y Bara Croyw#22:1 Gwel Marc 14:1; hefyd Num 28:16, 17; Lef 23:5, 6. Nid oedd y Pasc yn gyfestynol â Gwyl y Bara Dilefeinllyd. “Y mae yr aberth a elwir Pascha, neu y Myned Drosodd, yn cael ei gadw yn flynyddol ar y 14eg o fis Nisan; ond ar y 15eg o'r mis cynelir Gwyl y Bara Croyw, yr hon a barhâ am y saith niwrnod a ganlyna y Pasc; ac ar yr ail ddydd o'r Bara Croyw, yr 16eg o'r mis, hwy a gyfranogant o'r Cynauaf Newydd,” Josephus., yr hon a elwir y Pasc#22:1 Gwel Marc 14:1; hefyd Num 28:16, 17; Lef 23:5, 6. Nid oedd y Pasc yn gyfestynol â Gwyl y Bara Dilefeinllyd. “Y mae yr aberth a elwir Pascha, neu y Myned Drosodd, yn cael ei gadw yn flynyddol ar y 14eg o fis Nisan; ond ar y 15eg o'r mis cynelir Gwyl y Bara Croyw, yr hon a barhâ am y saith niwrnod a ganlyna y Pasc; ac ar yr ail ddydd o'r Bara Croyw, yr 16eg o'r mis, hwy a gyfranogant o'r Cynauaf Newydd,” Josephus.. 2Ac yr oedd yr Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion#22:2 Y mae y Phariseaid o hyn allan yn cilio o'r golwg. yn ceisio pa fodd i wneyd ffwrdd#22:2 Am Herod yn lladd plant Bethlehem (Mat 2:16); am yr Iuddewon yn cynllwyn i ladd Petr ac Ioan (Act 5:33); i ladd Paul (9:23); am Herod yn lladd Iago (12:2), &c. ag ef: canys yr oeddynt yn ofni y bobl.
3A Satan a aeth i mewn i Judas, yr hwn a elwir#22:3 elwir א B D L X: gyfenwir A C P R. Iscariot, er ei fod o nifer y Deuddeg: 4ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd a'r Arch‐offeiriaid a'r Cad‐flaenoriaid#22:4 Yr oedd un Cad‐flaenor, yr hwn oedd yn ben ar Warchodlu y Deml, y rhai a wneid i fyny o Lefiaid (Act 4:1; 5:26). Efallai y golygir yma swyddogion y gwahanol warchod‐luoedd; gwel Neh 2:8; Jer 20:1 am y modd y traddodai efe ef iddynt. 5Ac yr oedd yn llawen ganddynt; a hwy a wnaethant gyfamod i roddi arian#22:5 Deg ar hugain sicl: Tair punt ac un swllt ar bymtheg. Dangosai y swm fechan hon nad oedd yr Henuriaid, &c., yn cysylltu llawer o bwys â'r rhan gymmerodd Judas. iddo#Zech 11:12, 13. 6Ac efe a gydsyniodd, ac a ddechreuodd geisio cyfleusdra#22:6 Neu, amser cyfaddas. i'w draddodi ef iddynt a'r wahan#22:6 ater, gair a ddefnyddir fel rheol mewn barddoniaeth [o Homer i lawr], heblaw, ar wahan, wrth ei hun. “Yr Arglwydd a fwriodd i lawr Jericho heb [ater, ar wahân oddiwrth] beirianau rhyfel.” 2 Mac 12:15 Yma ac adn 35 yn unig. â'r dyrfa.
Parotoad ar gyfer y Pasc olaf
[Mat 26:17–19; Marc 14:12–16]
7A daeth dydd y Bara Croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid aberthu#22:7 Neu, ladd. y Pasc#Ex 12:6. 8Ac efe a anfonodd Petr ac Ioan#22:8 Luc yw yr unig un a enwa y Dysgyblion., gan ddywedyd, Ewch, parotowch i ni y Pasc, fel y bwytâom#22:8 Dechreuai y 14eg o Nisan ar ol machludiad haul ar y 13eg. Lleddid Oen y Pasc ar ol yr aberth hwyrol ar y 14eg; dechreuid bwyta oen y Pasc ar fachludiad haul ar y 14eg, a hyn a barhäai i'r 15fed. Ymddengys oddiwrth Mat., Marc, a Luc i'r Iesu gadw y Pasc gyd â'i Ddysgyblion yn hwyr y 14eg, ac iddo gael ei groeshoelio ar y 15fed. Ond dywed Ioan (19:14), iddo gael ei groeshoelio ar y dydd blaenorol (darparwyl). Danfonodd yr Iesu ei Ddysgyblion ar y 13eg, ychydig amser cyn dechreuad y 14eg (chwech yn yr hwyr) i wneyd parotoad. Felly eisteddodd i fwyta gyd â'i Ddysgyblion ddiwrnod cyn y Pasc. Nid yw yn debyg iddynt fwyta oen o gwbl. Ni sonir am dano yn yr Efengylau, na chan Paul. Crist oedd yr Oen. Cafodd ei gam‐farnu a'i ddedfrydu yn foreu ar y 14eg, a phan yn y prydnawn ar y groes, yr oedd yr Offeiriaid Iuddewig yn ddiwyd yn dewis ac yn lladd yr wyn ar gyfer gwledd y Pasc.. 9A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le yr ewyllysi barotôi o honom? 10Ac efe ddywedodd wrthynt, Wele, wedi eich myned i mewn i'r Ddinas, cyferfydd â chwi ddyn#22:10 Yr oedd yn ddyledswydd ar ben y teulu i ddwyn dwfr at y Bara Dilefeinllyd. Gwragedd, fel rheol, a ddygent ddwfr. yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i'r tŷ, i'r hwn yr êl efe i mewn. 11A chwi a ddywedwch wrth feistr#22:11 Rhai a farnant mai Marc oedd hwn, ac mai yma y tywalltwyd yr Yspryd ar y Pentecost, gwel hefyd Act 12:12. Diamheu fod y dyn hwn yn Ddysgybl i'r Iesu. y tŷ, Y mae yr Athraw yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae y west‐ystafell#22:11 Gwel Marc 14:14, lle y bwytawyf y Pasc gyd â'm Dysgyblion? 12Ac efe a ddengys i chwi oruwch‐ystafell fawr wedi ei dodrefnu#22:12 h. y. â'r byrddau a'r glythau angenrheidiol, ac nid wedi ei thaenu megys â llieiniau ar y byrddau, carpedau, &c. Esec 23:41; Act 9:34; yno parotowch. 13A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant fel yr oedd efe wedi dywedyd wrthynt, ac a barotoisant y Pasc.
Sefydliad Swper yr Arglwydd
[Mat 26:26–30; Marc 14:22–26; 1 Cor 11:23–25]
14A phan ddaeth yr Awr#22:14 a benodwyd gan Grist., efe a eisteddodd i lawr, a'r Apostolion#22:14 Apostolion א B D Brnd.: Deuddeg Apostol A C P R L X. gyd âg ef. 15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a awyddais#22:15 Llyth.: mi a awyddais gyd âg awydd: dullwedd Hebreig, yn dangos angherddoleb, [Mat 13:14; Ioan 3:29]. yn ddirfawr fwyta y Pasc hwn gyd â chwi cyn dyoddef o honof: 16canys yr wyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytâf fi o#22:16 o hono א A B C Al. WH. Diw.: mwyach o hono D La. Ti. [Tr.] hono hyd oni chyflawner ef#22:16 Dynoda yr ymadrodd nid (1) hyd oni sefydler Teyrnas Dduw, neu (2) y mabwysiedir y Cenedloedd, ac y cynwysir hwynt yn y Cyfamod Newydd, ond (3) hyd oni offrymer Gwir Oen y Pasc, yr hwn a wnai i ffwrdd a phob un arall, ac a fyddai yn sylfaen sefydliad Teyrnas Dduw. yn Nheyrnas Dduw. 17Ac wedi iddo dderbyn#22:17 Derbyn (o law arall) yma: cymmeryd yn adn 19. cwpan#22:17 cwpan א B C L Brnd.: y cwpan A D La. a diolch, efe a ddywedodd, Cymmerwch hwn, a rhenwch yn eich plith: 18canys yr wyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf fi o gwbl o#22:18 o hyn allan א B L Brnd.: Gad. A D. hyn allan o gynyrch y winwydden, hyd oni ddêl Teyrnas Dduw. 19Ac efe a gymmerodd fara#22:19 Neu, dorth. Y mae yr hanes yma yn debyg iawn i eiddo Paul (1 Cor 11:23)., ac a ddiolchodd, ac a'i torodd, ac a'i rhoddodd iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff#22:19 Sef, arwyddlun o gorff, yr hwn a ddryllid ar eu rhan. Gwel 9:48; Ioan 10:7; 15:1; 1 Cor 10:4, 16 yr hwn sydd yn cael ei roddi#22:19 Y mae aberth Crist wedi dechreu cael ei offrymu. drosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf fi. 20A'r cwpan yr un modd, wedi swperu, gan ddywedyd, Y Cwpan hwn yw y Cyfamod#22:20 Gwel Mat 26:28; Marc 14:24; Jer 31:31 Newydd yn fy ngwaed#22:20 Y mae y Cyfamod Newydd yn cael ei sefydlu a'i gadarnhâu drwy dywalltiad fy ngwaed. Y Cwpan yn adn 17 oedd y trydydd cwpan yr yfid o hono wrth gadw y Pasc, ar ol bwyta yr Oen a chanu y rhan gyntaf o'r Hallel [Salm 107–114]. Yr oedd y pryd diweddaf hwn yn dyddimu y Pasc. Diamheu i Grist yfed o'r cwpan hwn: Ond yn awr (19, 20) y mae yn sefydlu ordinhad newydd, ac nid yw efe yn bwyta o'r bara nac yn yfed o'r cwpan. Gelwir y cwpan hwn yn ‘gwpan y fendith,’ 1 Cor 10:16 efallai yn cyfateb i'r pedwerydd cwpan yn y Pasc, ar ol cyfranogi o'r hwn y cenid y rhan olaf o'r Hallel (Salm 115–118)., yr hwn sydd yn cael ei dywallt allan drosoch#22:20 Fel y gwin o'r grawn‐sypiau.. 21Yn mhellach, wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyd â mi ar y bwrdd#22:21 Y mae i raddau yn ansicr pa un a gyfranogodd Judas o'r Swper ai peidio. Yn ol yr hanes yma y mae yn ymddangos ei fod yn barod wedi cyfranogi o'r bara.#Salm 41:9. 22Canys#22:22 Canys א B D L Brnd.: Ac A D. y mae Mab y Dyn yn wir yn myned yn ol yr hyn sydd wedi ei arfaethu#22:22 Llyth.: gosod terfynau; yna, penderfynu, sefydlu, ordeinio, arfaethu, rhaglunio, Act 2:23; 4:27, 28; 10:42; 17:31: er hyny, gwae y dyn hwnw trwy yr hwn y mae yn cael ei fradychu. 23A hwy a ddechreuasant ymddadleu yn eu plith eu hunain, pwy yn wir o honynt oedd ar wneuthur#22:23 Gr. prassô, berf a ddefnyddir yn fynych pan y golygir gwneuthur drwg. hyn.
Ymryson ynghylch y flaenoriaeth
[Mat 18:1, 19, 28; Marc 9:33, 34; 10:42, 44]
24A bu ymryson#22:24 Llyth.: hoffder o ymrafael, taerineb mewn ymddadleu. Yma yn unig. yn eu plith, pwy o honynt a gyfrifid i fod y mwyaf#22:24 Gr. mwy.. 25Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Breninoedd y Cenedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; y mae y rhai sydd mewn awdurdod arnynt yn cael eu galw, Cymwynaswyr#22:25 Yr oedd hwn yn deitl a roddid i Freninoedd, Llywiawdwyr, Cadfridogion, &c., megys Ptolemi Euergetes ac Onias, 2 Macc 4:2. 26Ond chwychwi, nid felly; eithr y mwyaf#22:26 Gr. mwy. yn eich plith, bydded megys yr ieuengaf#22:26 Yr oedd yn arferiad yn mhlith yr Iuddewon i'r rhai ieuengaf i wneyd y gwaith iselaf.; a'r hwn sydd yn arweinydd megys yr hwn sydd yn gweini. 27Canys pwy sydd fwyaf#22:27 Gr. mwy., ai yr hwn sydd yn eistedd i fwyta, neu yr hwn sydd yn gweini? Onid yr hwn sydd yn eistedd i fwyta? Eithr yr wyf fi yn eich canol chwi fel yr hwn sydd yn gweini#22:27 Gwel Ioan 13:1–20. 28Eithr chwychwi yw y rhai sydd wedi dyfal‐barhâu gyd â mi yn fy mhrofedigaethau#22:28 Yr erledigaethau, dichellion, peryglon, i'r rhai y darostyngwyd ef, Heb 2:18; 4:15.. 29Ac yr wyf yn sicrhâu drwy gyfamod i chwi Deyrnas, fel y sicrhâodd y Tâd drwy gyfamod#22:29 Diatithemai, yr wyf yn rhoddi meddiant, sicrhâu drwy gyfamod (Heb 9:16); yn ol rhai, rhoddi mewn neu trwy ewyllys. Deyrnas i mi; 30fel y bwytâoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy Nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orsedd‐feydd yn barnu Deuddeg Llwyth Israel.
Rhag‐ddywedyd cwymp Petr
[Mat 26:31–35; Marc 14:27–31; Ioan 13:36–38]
31Simon#22:31 Felly B L Ti. Al. WH. Diw.: A'r Arglwydd a ddywedodd, Simon, &c., א A D La. [Tr.], Simon, Wele, Satan a'ch ceisiodd#22:31 exaiteomai, ceisio allan iddo ei hun, hawlio, gwneuthur cais am roddiad i fyny i allu un arall, (fel y gwnaeth Satan yn achos Job 1:1–12). chwi iddo ei hun i'ch gogrynu#22:31 y ferf o sinion, gogr, felly ysgwyd mewn gogr, felly profi, trwy gystudd, siomiant, erledigaeth, &c. Yma yn unig yn y T. N. Yr oedd Satan wedi cael meddiant o Judas; yn awr yr oedd am yr oll. fel gwenith: 32ond mi a wneuthum ddeisyfiad drosot ti, na ddiffygiai dy ffydd di; a thydi pan y gwnei droi drachefn, cadarnhâ dy Frodyr#22:32 Gwel 1 Petr 5:8, 9; Amos 9:9, 10. 33Ond efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr wyf yn barod i fyned gyd â thi i garchar, ac hefyd i angeu. 34Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Petr, Ni chân y ceiliog heddyw, hyd nes i ti wadu dair gwaith yr adweini fi.
Rhag‐ddywedyd peryglon.
35Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan y'ch anfonais chwi heb gôd#22:35 Gwel 10:4, ac ysgrepan, a sandalau, a fu angen dim arnoch? A hwy a ddywedasant, Dim. 36Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eithr yr awrhon yr hwn sydd ganddo gôd, cymmered; yr un modd hefyd, ysgrepan: a'r hwn nid oes ganddo, gwerthed ei wisg uchaf, a phryned gleddyf#22:36 Yr oedd yn amser peryglus, ac yr oedd yr uchod yn cael eu dwyn fel rheol gan ymdeithwyr mewn rhanau o Palestina. Y mae crefydd yn dysgu y ddyledswydd o hunan‐ymddiffyniad. Yr hwn nid oes ganddo, sef côd ac ysgrepan, ac nid cleddyf: yr hwn nid oes ganddo arian, gwerthed ei wisg uchaf er mwyn prynu cleddyf. Efallai fod Crist yn cyfeirio yn neillduol at eu teithiau cenadol ar ol hyn.: 37canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid i'r hyn sydd wedi ei ysgrifenu gael ei gyflawnu ynof fi, —
A chyd â'r troseddwyr y cyfrifwyd ef#22:37 Nid oedd y Dysgybl uwchlaw ei Arglwydd: yr oedd y Dysgyblion yn sefyll yn yr un perygl. Yr oedd dechreuad cyflawniad y Broffwydoliaeth ar gymmeryd lle, pan y cafodd ein Harglwydd ei ddal yn Gethsemane.,#Es 53:12:
canys y mae hefyd gyflawniad#22:37 Gr. diwedd. i'r peth#22:37 peth א B D: pethau A X. am danaf fi. 38A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele yma ddau gleddyf. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw#22:38 Yr oeddynt eto wedi camddeall ei feddwl, fel pe buasai dau gleddyf yn nwylaw Galileaid gweinion o un defnydd! Digon yw: “gadewch y mater yn y man,” myfyriwch yn hytrach ar fy ngeiriau, a chwi a ganfyddwch ystyr gwahanol iddynt. Gwelodd Boniface 8 y gallu Tymhorol ac Ysprydol yn y ddau gleddyf!.
Ei ing yn Gethsemane
[Mat 26:36–46; Marc 14:32–42]
39Ac wedi myned allan, efe a a aeth, yn ol ei arfer, i Fynydd yr Olew‐wydd: a'r Dysgyblion hefyd a'i canlynasant ef. 40Ac wedi dyfod o hono i'r lle, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch i brofedigaeth. 41Ac efe a yrwyd ymaith#22:41 gan angerddoldeb ei deimlad ac ing ei enaid. Golyga apospaô, cipio ymaith, tynu ymaith, “i dynu ymaith ddysgyblion ar eu hol” Act 20:30. oddi wrthynt tu ag ergyd careg, ac a aeth ar ei liniau, ac a ddechreuodd weddio#22:41 Neu, a barhâodd i weddio: amser anmherffaith., 42gan ddywedyd, O Dâd, Os yw yn unol a'th gynghor#22:42 Yma defnyddir boulomai, (o boulê, cynghor, pwrpas, dyben): ewyllysio yn bwyllog, ar ol ystyriaeth ac ymarferiad o reswm a barn. Yn nes yn mlaen defnyddir thelêma, “nid fy ewyllys i.” Y mae yr olaf yn dal cysylltiad agos â'r teimlad; y blaenaf â'r rheswm a'r deall; golyga thelêma, y dewisiad, ond boûlê, y dewisiad ar ol ystyriaeth bwyllog a deallus. “Dy gynghor di a wneler, ac nid fy awydd a'm chwant i.”, dwg#22:42 dwg ymaith B D WH. Tr. Diw. (Os ewyllysi) i ddwyn ymaith א A R L Al. Os hwn yw yr iawn ddarlleniad, dengys fod gofid y Ceidwad y fath fel na orphenodd y frawddeg; ond llefara mewn modd eglur a gorphenedig am ewyllys ei Dâd, ymaith#22:42 Dwg heibio, symud ymaith, fel llestri oddiar y bwrdd. y cwpan hwn oddi wrthyf: er hyny, nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. 43Ac#22:43 adn 43–44 Felly א D L Q X; y rhan fwyaf o'r ysg. rhegedog, Justin Ferthyr, Irenaeus, Hippolytus, Epiphanius, a llawer o'r Hen Gyf. Al. Ti. Tr. [WH.] Diw.: Gad. A B R T Peshito, yr Hen Gyf. Lladin, Hilari, Jerome. Y mae mwy o resymau dros eu hystyried yn bur nag fel arall. Efallai iddynt gael eu gadael allan o herwydd ystyriaethau Duwinyddol, sef nad oeddynt yn gyd‐fynedol â syniadau priodol am Berson Crist, &c. ymddangosodd iddo Angel o'r Nef yn ei nerthu#22:43 Yma ac yn Act 9:19 ef. 44Ac efe mewn ymdrech#22:44 Gr. agônia [yma yn unig] ymdrech, ymorchest, ymgais, ing meddwl, poen yspryd. (“efe a ddechreuodd ymofidio,” Mat 26:3 “efe a ddechreuodd fod mewn dychryn,” Marc 14:33). Dynoda y gair, ing anysgrifiadwy ei fywyd naturiol. Yma yn unig y sonia am ei enaid. Mewn Groeg diweddarach dynoda ofn, yn enwedig ofn pryderus un sydd ar gymmeryd rhan mewn ymdrech neu ornest. Y mae felly i'r gair arwyddocâd neillduol. enaid oedd yn gweddïo yn daerach#22:44 Llyth.: estynedig allan, fel pe byddai pob aelod o'r corff a phob cyneddf o'r meddwl ar y dirdyn.. A'i chwys ef oedd fel dyferynau#22:44 Llyth.: tolchenau, dyferynau mawrion tew, yn enwedig o waed. Gair meddygol. Yma yn unig. Cafodd Crist ei demtio yn yr Ardd gan bob elfen o ing, fel y cafodd ei demtio yn yr Anialwch gan bob elfen o chwant. mawrion o waed yn treiglo i lawr ar y ddaear. 45A phan gyfododd efe o'i weddi, efe a ddaeth at y Dysgyblion, ac a'u cafodd hwynt wedi syrthio i gwsg gan dristwch. 46Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? Codwch, a gweddiwch nad eloch i mewn i brofedigaeth.
Judas yn bradychu, a'r fyddin yn dal Crist
[Mat 26:47–56; Marc 14:43–52; Ioan 18:1–11]
47Ac efe eto yn llefaru, wele dyrfa, a'r hwn a elwid Judas, un o'r Deuddeg, oedd yn myned o'u blaen hwynt: ac a neshâodd at yr Iesu i'w gusanu ef#Salm 41:9. 48Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Judas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y Dyn? 49Ond pan welodd y rhai oedd o'i amgylch yr hyn oedd ar gymmeryd lle, hwy a ddywedasant#22:49 wrtho A R. Gad. א B T L X., Arglwydd a darâwn ni â chleddyf? 50A rhyw un o honynt a darawodd was#22:50 Malchus. Ioan, yn ysgrifenu pan yr oedd Petr yn ddiameu wedi marw, a enwa y ddau. yr Arch‐offeiriad, ac a gymmerodd ymaith ei glust ddeheu ef. 51Eithr yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn#22:51 “Goddefwch iddynt fyned mor bell a fy nàl, a'm dwyn ymaith yn garcharor.” Rhai a ddeonglant; “Peidiwch! Hyd yma,” h. y. “Dim rhagor o ddefnyddio arfau: ein milwriaeth ni nid ydyw gnawdol:” eraill a ddywedant fod yr ymadrodd wedi cael ei lefaru wrth y gelynion, “Gadewch i mi gymaint a hyn, gael myned gyd â chwi heb i chwi osod dwylaw arnaf; ni fydd eisieu hyny”: ac eraill, “Gadewch i mi fyned hyd at Malchus er gwella ei glust ef.”: ac efe gan gyffwrdd â'i glust a'i hiachâodd ef. 52A'r Iesu a ddywedodd wrth y rhai a ddaethant yn ei erbyn ef, yr Arch‐offeiriaid, a Chad‐flaenoriaid y Deml#22:52 Gwel adn 4, a'r Henuriaid, Ai at fel ysbeiliwr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a bastynau? 53Pan oeddwn yn ddyddiol gyd â chwi yn y Deml nid estynasoch eich dwylaw yn fy erbyn i. Eithr hon yw eich Awr chwi, ac Awdurdod#22:53 Gallu yn cael ei gam‐ddefnyddio, penrhyddid, teyrn‐fradwriaeth. Gelwir y Demoniaid yn Awdurdodau yn Eph 6:12; Col 2:15. A defnyddir y gair yma am Satan ei hun, “Pen yr Awdurdodau.” Y mae yr oll, wedi'r cwbl, dan reolaeth Duw: “eich Awr chwi” yn ol yr Arfaeth Ddwyfol. y Tywyllwch.
Cwymp ac Edifeirwch Petr
[Mat 26:69–75; Marc 14:66–72; Ioan 18:12–18, 25–27]
54Ac wedi iddynt ei ddal ef, hwy a'i harweiniasant ef, ac a'i dygasant ef i mewn i dŷ yr Arch‐offeiriad#22:54 Caiaphas, ffurf arall o Cephas: ni sonir am yr ymddangosiad blaenorol o flaen Annas.. A Phetr oedd yn canlyn o hir‐bell. 55Ac wedi iddynt gyneu#22:55 gyneu [apsantôn] A D R: gyneu yn wenfflam [periapsantôn, llyth.: cyneu o amgylch, gosod yr oll ar dân, felly, cyneu yn oleu, &c.] א B T L. tân yn wenfflam yn nghanol y Llys, a chyd‐eistedd, Petr a eisteddodd yn eu canol#22:55 Llyth.: y canol (ddyn) o honynt. hwynt. 56Ond pan welodd rhyw forwynig ef yn eistedd yn y llewyrch#22:56 Llyth.: tua'r goleuni, sef, a'i wyneb at y tân., a chraffu#22:56 Gwel 4:20 arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gyd âg ef. 57Eithr efe a wadodd#22:57 ef A D Ti.: Gad. א B L Brnd. ond Ti., gan ddywedyd, O Ddynes, nid adwaen i ef. 58Ac yn mhen ychydig, dyn arall a'i gwelodd ef, ac a ddywedodd, A thithau wyt un o honynt. Eithr Petr a ddywedodd, O Ddyn, nid ydwyf. 59Ac ar ol yspaid megys un awr, rhyw ddyn arall a daerodd#22:59 Yma ac Act 12:15 yn hŷf, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gyd âg ef: canys Galilead#22:59 Yr oedd hwn efallai rywbeth mwy nag enw lleol: yr oedd y Galileaid yn Sect. yw. 60Eithr Petr a ddywedodd, O Ddyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, ceiliog#22:60 y ceiliog: Gad. y gan yr holl brif ysg. a ganodd. 61A'r Arglwydd a drôdd, ac a edrychodd yn daer ar Petr: a Phetr a adgofiwyd o air yr Arglwydd, fel y dywedodd efe wrtho, Cyn canu o'r ceiliog heddyw#22:61 heddyw א B L Brnd.: Gad. A D., y gwedi fi deirgwaith [adn 34]. 62Ac efe a aeth allan, ac a dorodd allan i wylo#22:62 Gwel 19:41 yn chwerw.
Gwatwar Crist
[Mat 26:67–68; Marc 14:65]
63A'r gwŷr oedd yn ei ddal ef#22:63 ef א B D L: yr Iesu A X. a'i gwatwarasant, gan ei guro#22:63 Lleferir am bum math o guro mewn cysylltiad â phrawf Crist (1) curo [derô], term cyffredinol, (2) dyrnodio, yn yr adnod nesaf, (3) cernodio, (â'r llaw agored), Mat 26:67, (4) curo â bastynau, (yr un adn.), (5) taro, (Mat 27:30). ef. 64Ac wedi rhoddi gorchudd ar ei wyneb ef, yr#22:64 hwy a'i tarawsant ar ei wyneb, ac A: Gad. א B L Brnd. oeddynt yn gofyn iddo, gan ddywedyd, Proffwyda, pwy yw yr hwn a roddodd i ti ddyrnod?#Es 50:6. 65A llawer o bethau eraill, gan gablu, hwy a ddywedasant yn ei erbyn ef.
O flaen y Sanhedrin
[Mat 26:57–66; Marc 14:53–64]
66A phan aeth hi yn ddydd, Corff Henuriaid y Bobl a ddaeth ynghyd, Arch‐offeiriaid ac hefyd Ysgrifenyddion, ac a'i#22:66 harweiniasant ymaith א B D T Brnd. harweiniasant i fyny A L X. harweiniasant ef ymaith at eu Huchel Gynghor#22:66 Gr. Sunedrion, Cyfeisteddfa, Sanhedrin, yr Uchel Gynghor Iuddewig. hwy, 67gan ddywedyd, Os tydi yw y Crist, dywed i ni. Ac efe ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim: 68ac os rhoddaf ofyniad i chwi, ni'm hatebwch#22:68 ac ni'm gollyngwch ymaith A D [Al.] [Tr.] La.: Gad. א B L Ti. WH. Diw.. 69Ac o hyn allan y bydd Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw Gallu Duw#Dan 7:13. 70A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hyny ydwyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn ei ddywedyd: canys yr wyf yn Fab Duw. 71A hwy a ddywedasant, Pa angen sydd i ni mwyach am dystiolaeth? Canys clywsom ein hunain o'i enau ef.

Chwazi Kounye ya:

Luc 22: CTE

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte