Luc 23
23
Crist o flaen Pilat
[Mat 27:1, 2, 11–14; Marc 16:5; Ioan 18:18–28]
1A'r holl luaws o honynt a gyfodasant, ac a'i harweinasant ef at Pilat. 2A hwy a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gŵyr‐droi ein#23:2 ein א B D L Brnd.: Gad. A. Cenedl, ac yn gwahardd rhoddi teyrnged#23:2 Llyth.: teyrngedau. i Cesar, ac yn dywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin#23:2 Neu, ei fod ef ei hun yn Frenin eneiniedig.. 3A Philat a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iuddewon? Ac efe a atebodd, ac a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist#23:3 Gwel 1 Tim 6:13. 4A dywedodd Pilat wrth yr Arch‐offeiriaid a'r torfeydd, Nid wyf fi yn cael bai#23:4 Llyth.: achos [ho aitios, awdwr, awdwr iachawdwriaeth, Heb 5:9], yna, trosedd, tramgwydd. “Nid wyf yn cael y dyn hwn yn euog.” yn y dyn hwn#Es 53:9.
5Ond hwy a wnaethant ymegnio#23:5 Llyth.: cael mwy o nerth, myned yn gryfach, gosod allan nerth, ymegnio. Yma yn unig., gan ddywedyd, Y mae efe yn cynhyrfu#23:5 Llyth.: ysgwyd i fyny, Marc 15:11 y bobl, gan ddysgu trwy holl Judea, a dechreu o Galilea hyd yma. 6A phan glybu Pilat#23:6 am Galilea A D R X [Al.] Tr.: Gad. א B L T Ti. WH. Diw., efe a ofynodd, Ai Galilead yw y dyn? 7A phan wybu efe yn hollol ei fod ef o gylch awdurdod#23:7 Neu, o lywodraeth. Herod, efe a'i danfonodd ef i fyny#23:7 Term cyfreithiol am anfon achosion o un llys i lys arall neu uwch, “hyd onid anfonwn ef i fyny at Cesar,” Act 25:21 Golyga anapempô, anfon yn ol, Philem ad. 12Yr oedd Herod yn Detrarch Galilea a Peraea. at Herod, yr hwn hefyd oedd yn Jerusalem yn y dyddiau hyny.
Crist o flaen Herod Antipas.
8A Herod pan welodd yr Iesu, a fu lawen iawn ganddo: canys yr oedd efe yn awyddus er amseroedd#23:8 Felly א B D L T. meithion#23:8 Gr. digonol. ei weled ef, o herwydd iddo glywed#23:8 llawer A R X: Gad. א B D L. am dano, ac yr oedd yn gobeithio gweled rhyw arwydd yn cael ei wneuthur ganddo. 9Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau#23:9 Neu, a'i holodd mewn llawer o faterion.; ond efe ei hun nid atebodd ddim iddo#Es 53:7. 10A'r Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion oeddynt yn sefyll gan ei gyhuddo ef â'u holl egni#23:10 Llyth.: yn estynedig allan i'w lawn hyd [S. full stretch], felly dynoda, gyd âg yni nwydwyllt, ar eu heithaf, yn egniol.#Salm 35:11. 11Eithr Herod gyd a'i finteioedd, wedi ei drin ef gyd â dirmyg, a'i watwar, a'i gwisgodd mewn gwisg ddysglaerwych#23:11 Mat ysgarlad; Marc, porphor. Rhai a roddant yma, gwisg wen. Gwel Act 10:20; Dad 15:6, ac a'i danfonodd ef i fyny at Pilat#Es 53:3. 12A'r dydd hwnw y daeth Herod a Pilat yn gyfeillion â'u gilydd: canys yr oeddynt o'r blaen mewn gelyniaeth â'u gilydd.
Iesu a Barabbas
[Mat 27:15–21; Marc 15:6–11; Ioan 18:38–40]
13A Philat wedi galw ynghyd yr Arch‐offeiriaid a Llywodraethwyr y Bobl, 14a ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi, fel un yn gŵyr‐droi y Bobl; ac wele mi a'i holais#23:14 Anakrinô, holi yn swyddogol, holi tystion neu y cyhuddedig, chwilio trwy gyfres o bethau er cael allan, holi yr Ysgrythyrau fel tystion, Act 4:9; 12:19 Defnyddir y gair am yr holiad rhag‐barotoawl i'r prawf dylynol, yn ol y Gyfraith Atticaidd. ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai o ran y pethau yr ydych yn ei gyhuddo ef am danynt: 15nac hyd y nod Herod; canys efe#23:15 Felly א B L Ti. WH. Diw.: canys anfonais chwi ato ef A D La. Tr. a'i hanfonodd ef yn ol atom ni: ac wele dim yn haeddu marwolaeth sydd wedi ei wneuthur ganddo: 16am hyny, mi a'i cystwyaf#23:16 Paideuô, dwyn plentyn i fyny, addysgu (Moses, Act 7:22; Paul, 22:3), dysgyblu (Heb 12:6, 7): yma, cystwyo. ef, ac a'i gollyngaf ef yn rhydd. 17#23:17 Canys yr oedd yn rhaid iddo ollwng un yn rhydd iddynt ar yr Wyl א [Al.] [La.]: Gad. A B L Ti. Tr. WH. Diw. 18Ond yr holl luaws ynghyd a waeddasant yn uchel, gan ddywedyd, Cymmer hwn ymaith, a gollwng i ni Barabbas#23:18 Nid yw Barabbas ond term tad‐enwol — Bar‐Abbas, Mab‐Tâd [enwog], neu Bar‐Rabbas, Mab‐Rabbi [enwog]. Dywed Origen mai Iesu oedd ei enw. Rhyfedd y fath gyfarfyddiad! yn rhydd: 19y fath un am ryw derfysg#23:19 Llyth.: codiad i fyny, gwrthgodiad, gwrthryfel. a gymmerodd le yn y Ddinas, ac am lofruddiaeth, a fwriwyd i'r carchar#Es 53:3; Act 3:14..
Condemniad Crist
[Mat 27:22–26; Marc 15:12–15; Ioan 19:4–16]
20A Philat a alwodd arnynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd. 21Eithr hwy a barhasant i waeddi, Croeshoelia, Croeshoelia ef. 22Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? Ni chefais achos#23:22 adn 4 marwolaeth ynddo: gan hyny mi a'i cystwyaf ef, ac a'i gollyngaf yn rhydd. 23A hwy a wasgasant#23:23 epikeimai, pwyso ar, gwasgu ar, bod yn daer: “tymhestl yn pwyso arnom,” Act 27:20 “Angenrhaid sydd yn pwyso arnaf” 1 Cor 9:16. arno â llefau uchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A'u llefau hwynt#23:23 ac eiddo yr Arch‐offeiriaid A D [Al.] [Tr.] [La.]: Gad. א B L Ti. WH. Diw. a orfuant#23:23 Yma ac yn Mat 16:18 “a phyrth Hades nis gorchfygant,” gorthrechu, “cael y llaw uchaf.”; 24a Philat a ddyfarnodd i'w deisyfiad#23:24 Yma yn unig. gael ei wneuthur: 25ac efe a ollyngodd yn rhydd#23:25 iddynt. Gad. yr holl brif ysg. yr hwn o achos terfysg a llofruddiaeth oedd wedi ei fwrw i garchar, yr hwn a ddeisyfasant; eithr yr Iesu a draddododd efe i fyny i'w hewyllys hwynt#Es 53:5, 8.
Ar y Ffordd i'r Groes
[Mat 27:31, 32; Marc 15:20, 21]
26A phan yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a gymmerasant afael mewn un Simon, O Cyrene#23:26 O dan deyrnasiad creulon rhai o'r Breninoedd Syriaidd, llawer o'r Iuddewon a adawsant y wlad, ac a ymsefydlasant yn Cyrene, Alexandria, a lleoedd eraill yn y Gogledd — ddwyrain o Affrica., yn dyfod o'r wlad#23:26 Llyth.: o'r maes., ac a ddodasant y groes arno ef, i'w dwyn ar ol yr Iesu. 27Ac yr oedd yn ei ganlyn ef luaws mawr o'r bobl; hefyd o wragedd, y rhai oeddynt yn curo eu bronau, ac yn galaru o'i blegyd. 28Eithr yr Iesu, gan droi atynt, a ddywedodd, Merched Jerusalem#23:28 Diameu fod llawer o'i ganlynwyr yn mhlith y gwragedd oedd yn ei ganlyn, er fod y Dysgyblion yn absenol; ond heblaw hwynt yr oedd llu o wragedd o'r Ddinas yn bresenol, fel yr oeddynt yn gyffredin ar y fath achlysuron cyffrous. Yr oeddynt weithiau yn gweini ar y dyoddefwyr, er mwyn lleddfu eu poenau, yn ol tystiolaeth y Rabbiniaid, sylfaenedig ar Diar 31:6, Na wylwch allan droswyf fi; yn hytrach, wylwch allan drosoch ein hunain a thros eich plant. 29Canys wele, y mae y dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn fyd y gwragedd anmhlantadwy, a'r crothau ni epiliasant, a'r bronau#23:29 ni roisant faeth א B C D L Brnd.: ni roisant sugn A P. ni roisant faeth.
30Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom ni,
Ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni#23:30 Yn amser y Gwarchae ar Jerusalem, a'r Dinystr a ddylynodd. Cafodd dros ddwy fil eu lladd drwy iddynt gael eu claddu dan adfeilion cuddfaoedd ac ogofeydd yn y bryniau cyfagos..#Hosea 10:8; 9:12–16
31Canys os ydynt yn gwneuthur y pethau hyn yn y pren îr, pa beth a wneir yn y crin?
Y Croeshoeliad
[Mat 27:33–36, 38; Marc 15:22–27; Ioan 19:16–18]
32Ac arweiniwyd gyd âg ef hefyd ddau eraill, drwg‐weithredwyr, i'w rhoddi i farwolaeth#23:32 Llyth.: i'w cymmeryd ymaith.. 33A phan ddaethant at y lle a elwir Penglog#23:33 Calfaria a ddefnyddir yn y Vulgate, Golgotha yn yr Aramaeg, ystyr yr hwn, yn ol rhai, yw Bryn Marwolaeth. Gwel Mat 27:33., [yn y Lladin, Calfaria], yno y croeshoelisant ef a'r Drwg‐weithredwyr#23:33 Defnyddir yr enw, yn enwedig, am ladron ac ysbeilwyr. “Dynoda Kakourgos unrhyw un a wna ddrwg, yn enwedig lleidr.”, un ar y llaw ddeheu a'r llall ar yr aswy. 34Ond yr Iesu a ddywedodd, O Dâd, maddeu iddynt#23:34 Y dywediad cyntaf o'i eiddo ar y Groes: felly cawn ef yn dosturiol wrth ei elynion; yn faddeugar i'r Lleidr Edifeiriol (adn 43); yn ofalus am ei Fam (Ioan 19:26); yn dyoddef dros y byd, “Fy Nuw, Fy Nuw, paham y'm gadewaist” (Mat 27:46; Marc 15:34); yn dyoddef yn ei gorff, “Y mae syched arnaf,” (Ioan 19:28); yn gorphen ei waith ar y ddaear, (Ioan 19:30); yn ymddiried ei enaid i'w Dâd, (Luc 23:46). Gwel adlais o'r Geiriau hyn, Act 3:17; 7:60; Es 53:12; 1 Cor 2:8, canys nid ydynt yn gwybod pa beth y maent yn ei wneuthur#23:34 Felly א A C L X Δ Brnd. [La.] [WH.]: Gad. B D a'r Hen. Gyf. Llad.. A chan ranu yn eu plith ei wisgoedd uchaf, hwy a fwriasant goelbren#Salm 22:18.
35A'r bobl a safodd yn edrych yn syn#Zech 12:10. Ond y Llywodraethwyr#23:35 gyd â hwynt A: Gad. א B C D L, &c. hyd y nod a wawdiasant#23:35 16:14, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe: gwareded ei hun, os hwn yw Crist#23:35 Crist Duw, ei Etholedig א B L Al. Ti. WH. Diw.: y Crist, Etholedig Duw A C La. [Tr.] Duw, ei Etholedig.
36A'r milwyr hefyd oeddynt yn ei watwar ef, gan ddyfod, a chynyg iddo finegr#23:36 Neu, win surllyd., 37a dywedyd, Os tydi yw Brenin yr Iuddewon, gwared dy hun#Salm 22:6–8.
38Ac yr oedd hefyd ar‐ysgrifen uwch#23:38 wedi ei hysgrifenu A D: Gad. א B L. ei ben,#23:38 â llythyrenau Groeg, a Lladin, ac Hebraeg א A D [Al.] [La.]: Gad B C L Ti. Tr. WH. Diw.,
Brenin yr Iuddewon yw hwn.
39Ac un o'r Drwg‐weithredwyr a grogasid oedd yn ei gablu ef, gan ddywedyd, Ai nid#23:39 nid א B C L Brnd. ond La.: Gad. A La. tydi yw y Crist? Gwared dy hun a ninau. 40Ond y llall a atebodd, a chan ei geryddu ef, a ddywedodd, Onid wyt ti hyd y nod yn ofni Duw#23:40 Neu, Onid wyt ti yn ofni hyd y nod Dduw? neu, Onid wyt ti hefyd yn ofni Duw? “Y mae yn enbydus fod yr edrychwyr yn gwawdio, ond y mae yn beth gwahanol iawn i ti wneuthur felly.”, gan dy fod yn yr un farnedigaeth? 41A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yn ol yr hyn a haeddai y pethau a wnaethom: ond hwn ni wnaeth ddim allan o le#23:41 dyeithr, anarferol, yna, drwg, trychinebus.. 42Ac efe a ddywedodd, O#23:42 wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia, &c., A R: O Iesu, cofia, &c., א B C L Brnd. Iesu, cofia fi, pan y deui yn#23:42 yn y Deyrnas א A C R La. Ti. Tr.: i'th Deyrnas B L WH. Diw. dy Deyrnas. 43Ac#23:43 Iesu A C D R: Gad. א B L. efe a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddyw y byddi gyd â mi yn y Baradwys#23:43 Paradeisos, o'r Persiaeg. Dynoda barc prydferth yn llawn o goed, a blodau, a ffrwythau, ac anifeiliaid er helwriaeth. Gwel Hanes Cyrus gan Xenophon, “Mynediad i Fyny” 1:2, 7 Yn marn yr Iuddewon yr oedd Paradwys (yn wrthgyferbyniol i Gehenna) yn gartrefle dedwydd y Saint yn Hades, (Sheol). Nid yw y gair yn cyfleu meddylddrych pur, ysprydol, am y Nefoedd, ond lled debyg y meddylddrych goreu i'r ysbeiliwr anwybodus. Cafodd wybod yn iawn beth oedd y Nefoedd wedi myned yno. Gelwir Gardd Eden yn y LXX. (Gen 2:8) yn Baradwys, cipiwyd Paul i Baradwys, 2 Cor 12:4; yr oedd Pren y Bywyd yn nghanol Paradwys Duw, Dad 2:7.
Tystiolaeth y Tywyllwch, y Llen, a'r Canwriad
[Mat 27:45–50; Marc 15:33–41; Ioan 19:28–37]
44Ac yr oedd ynghylch#23:44 weithian B C L: Gad. א A D R. y chweched awr, a daeth tywyllwch dros yr holl dir#23:44 Neu, ddaear. hyd y nawfed awr, 45gan#23:45 gan fod yr haul yn methu א B C L Ti. WH. Diw.: A'r haul a dywyllwyd Al. La. Tr. fod yr haul yn methu; a llen y Cysegr a rwygwyd yn ei chanol#Joel 2:30, 31. 46Ac wedi i'r Iesu lefain â llef uchel, efe a ddywedodd, O Dâd, i'th ddwylaw di y cyflwynaf#23:46 gosod i lawr, rhoddi i gadw, ymddiried i ofal. “Dyma eiriau olaf Polycarp, Awstin, Bernard, John Huss, Luther, Jerome, Melancthon, a Columbus,” Farrar. fy Yspryd#Salm 31:5: ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd allan ei fywyd#23:46 Llyth.: a anadlodd allan, felly Marc 15:37; “efe a roddodd i fyny yr yspryd,” Mat 27:50; Ioan 19:30; “rhoddodd ei einioes yn bridwerth dros lawer.”.
47A phan welodd y Canwriad yr hyn a wnaethpwyd, efe a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn sicr yr oedd y gwr hwn yn gyfiawn. 48A'r holl dorfeydd y rhai a ddaethant ynghyd i'r olygfa hon, wedi edrych yn syn ar y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant gan guro eu dwyfronau. 49A'i holl gydnabyddion ef a safasant o hirbell, a'r gwragedd a'i canlynasant ef o Galilea, gan weled y pethau hyn#Salm 38:11.
Claddedigaeth Crist
[Mat 27:57–61; Marc 15:42–47; Ioan 19:38–42]
50Ac wele wr o'r enw Joseph, yr hwn oedd Gynghorwr#23:50 Sef aelod o'r Sanhedrin, yr oedd yn gyfoethog (Mat), yn anrhydeddus (Marc), yn dda a chyfiawn (Luc): “wedi cyrhaedd arucheledd yn nhyb yr Iuddew (yn gyfoethog); yn nhyb y Rhufeiniwr (yn anrhydeddus); yn nhyb y Groegwr (yn dda a chyfiawn)” Godet., yn wr da a chyfiawn, 51(yr hwn ni chydsyniodd#23:51 Llyth.: gosod i lawr gyd âg arall; gosod ei bleidlais yn yr un blwch, yna, o'r un farn, cytuno. Yma yn unig. â'u cynghor ac a'u gweithred hwynt,) o Arimathea#23:51 Ramathaim yn Ephraim (1 Sam 1:1), neu Ramah yn llwyth Benjamin (Mat 2:8)., dinas yr Iuddewon, yr hwn oedd yn dysgwyl Teyrnas Dduw: 52hwn a aeth at Pilat, ac a geisiodd gorff yr Iesu. 53Ac efe a'i tynodd i lawr, ac a'i hamdôdd#23:53 Yma ac Ioan 20:7 mewn llian#23:53 Gwel Marc 14:51 main gwerthfawr, ac a'i dododd ef#23:53 ef (Crist) א B C D Brnd.: ef (y corff) A. mewn bedd wedi ei naddu mewn craig#23:53 Llyth.: wedi ei naddu mewn careg. Ni cheir y gair mewn un Awdwr Clasurol. Gwel Deut 4:49 LXX., yn yr hwn ni roddasid dyn erioed eto#Es 53:9. 54Ac yr oedd yn ddydd y Parotoad#23:54 Gwel Marc 15:42 Yr oedd hwn yn derm a ddefnyddid am Ddydd Gwener., a'r Sabbath oedd yn dynesu#23:54 Llyth.: ar wawrio; yna, agoshâu. Yr oedd y Sabbath yn dechreu yn yr hwyr, gyd â machludiad haul. Yn Mat 28: dynoda wawriad y dydd naturiol; yma, y dydd cyfreithiol.. 55A'r gwragedd, y rhai a ddaethant gyd âg ef o Galilea, a ganlynasant yn dyn ar ol, ac a edrychasant yn graffus ar y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorff ef. 56A phan ddychwelasant, hwy a barotoisant ber‐aroglau#23:56 llysiau peraroglus. ac enaint#23:56 olew persawrus.. Ac ar y Sabbath hwy a orphwysasant yn ol y Gorchymyn#23:56 “Yn yr Efengylau y mae un ran o chwech o honynt yn ymdrin â hanes gwaith y pedair awr ar hugain, a ddechreuasant gyd â'r Swper, ac yn gorphen gyd â'r Gladdedigaeth. Nid oes dydd yn y Beibl a ddesgrifir fel hwn. Pe byddai genym holl fywyd Crist, wedi cael ei ysgrifenu gyd â'r un llawnder byddai yr hanes yn llanw un cant a phedwar ugain o gyfrolau mor fawrion a'r holl Feibl.” Vincent.#Ex 20:8–11.
Chwazi Kounye ya:
Luc 23: CTE
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.