Mathew 21
21
Iesu’n marchogaeth i Jerwsalem
1Roedden nhw’n awr yn nesáu at Jerwsalem; ac wedi cyrraedd Bethffage a Mynydd yr Olewydd, fe anfonodd Iesu ddau ddisgybl ymlaen 2gan ddweud,
“Ewch i’r pentref sy gogyfer â chi, ac ar unwaith fe ddowch o hyd i asen wedi’i rhwymo, a’i hebol wrth ei hymyl; gollyngwch nhw a dowch â nhw ataf fi. 3Os dywed rhywun rywbeth wrthych chi, dywedwch, ‘Mae ar ein Meistr eu hangen nhw,’ ac fe’u cewch nhw ganddo ar unwaith.”
4Fe ddigwyddodd hyn i gyd er mwyn i eiriau’r proffwyd ddod yn wir,
5“Dywedwch wrth ferch Seion,
‘Dyma dy frenin,
Yn dod atat yn addfwyn, yn marchogaeth ar asen,
Ar ebol asen, wedi arfer â’r iau’.”
6Fe aeth y disgyblion a gwneud fel y dywedodd Iesu wrthyn nhw, 7dod â’r asen a’i hebol, dodi’u dillad arnyn nhw, ac yntau’n eistedd arnyn nhw.
8Fe daenodd y rhan fwyaf o’r dyrfa eu dillad o’i flaen ar y ffordd, eraill yn torri cangau oddi ar y coed a’u gwasgaru ar y ffordd. 9Gwaeddai’r dyrfa oedd yn mynd o’i flaen a’r rhai oedd yn dod ar ei ôl, “Hosanna i Fab Dafydd! Bendigedig yw’r hwn sy’n dod yn enw’r Arglwydd. Hosanna yn yr uchelderau!”
10Pan aeth ef i mewn i Jerwsalem, fe aeth cyffro gwyllt drwy’r ddinas i gyd, “Pwy yw hwn?” gofynnai pobl; 11a’r dyrfa’n ateb, “Dyma’r proffwyd Iesu, o Nasareth yng Ngalilea.”
Gyrru’r masnachwyr o’r Deml
12Yna fe aeth Iesu i mewn i’r Deml a gyrru allan y sawl oedd yn prynu ac yn gwerthu yno; fe drodd fyrddau’r newidwyr arian wyneb i waered, a seddau’r rhai oedd yn gwerthu, 13gan ddweud, “Ysgrifennwyd, ‘Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i,’ a dyma chi yn ei droi yn ogof lladron.”
14Fe ddaeth deillion a chloffion ato yn y Deml, ac fe iachaodd ef nhw. 15Ond pan welodd y prif offeiriaid ac athrawon y Gyfraith y pethau rhyfedd roedd ef wedi’u gwneud, a bod y plant yn gweiddi yn y Deml, “Hosanna i Fab Dafydd,” fe aethon yn gas, 16ac medden nhw wrtho, “Wyt ti’n clywed beth maen nhw’n ddweud?”
“Ydw, siŵr,” meddai’r Iesu wrthyn nhw. “Ydych chi erioed wedi darllen y geiriau. ‘Ti wnaethost i blant a babanod ar y fron ganu’n berffaith dy glod’?”
17Yna fe’u gadawodd nhw a mynd allan o’r ddinas i Fethania i fwrw’r nos yno.
Ffydd yn drech na phopeth
18Bore trannoeth, ar ei ffordd yn ôl i’r ddinas, roedd ar Iesu eisiau bwyd. 19Ar fin y ffordd fe welodd bren ffigys, ond wedi dod ato fe gafodd nad oedd dim arno ond dail. Meddai ef wrth y pren, “Peidied ffrwyth â thyfu arnat ti byth eto”; a dyna’r pren ffigys yn crino yn y man a’r lle. 20Roedd y disgyblion wedi rhyfeddu at y peth.
“Beth wnaeth i’r pren ffigys grino mor sydyn?” medden nhw. 21Atebodd yr Iesu nhw, “Credwch fi, os oes gennych chi ffydd heb ddim amheuaeth, fe wnewch chithau’r hyn a wnaethpwyd i’r pren ffigys, a mwy na hynny, petaech chi ddim ond yn dweud wrth y mynydd hwn, ‘Cod i fyny a bwrw dy hun i’r môr,’ fel hynny y byddai. 22Popeth a ofynnwch chi amdano mewn ffydd wrth weddïo, fe’i cewch ef.”
Trwy ba awdurdod
23Yna, wedi iddo fynd i’r Deml fe ddaeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ato tra roedd yn dysgu, a gofyn, “Pa hawl sy gennyt ti i wneud y pethau hyn? Pwy roddodd yr hawl yma iti?”
24Meddai’r Iesu wrthyn nhw mewn ateb, “Mae gen innau un cwestiwn i chi ac os atebwch chi ef fe ddyweda innau pa hawl sy gen i i wneud y pethau hyn. 25Beth am Fedydd Ioan, ai o Dduw yr oedd ynteu o ddynion?”
A dyna nhw’n dechrau dadlau rhyngddyn nhw a’i gilydd, a dweud: “Os dywedwn ni, ‘O Dduw,’ fe ddywed yntau, ‘Pam felly, na fuasech chi’n ei gredu?’ 26Ond os dywedwn ni, ‘o ddynion’, mae arnom ni ofn y bobl, oherwydd maen nhw i gyd yn cyfrif Ioan yn broffwyd.”
27Dyna nhw’n ateb yr Iesu, “Wyddom ni ddim.”
“Os felly,” meddai yntau wrthyn nhw, “ddywedaf innau ddim wrthych chi pa hawl sy gennyf i wneud y pethau hyn.”
Dameg y Ddau Fab
28“Ond beth yw’ch barn chi am hyn? Roedd gan ddyn ddau fab. Fe aeth at y cyntaf ac meddai wrtho, ‘Machgen i, dos i weithio yn y winllan heddiw.’ 29‘Dydw i ddim am fynd,’ atebodd yntau, ond wedyn roedd yn ffin ganddo, ac fe aeth. 30Yna, fe aeth at yr ail â’r un cais. ‘Mi af yn siŵr, syr,’ meddai hwnnw, ond aeth ef ddim. 31P’un o’r ddau wnaeth fel roedd ei dad yn dymuno iddo?”
“Y cyntaf,” oedd yr ateb.
“Gwrandewch,” meddai Iesu, “mae’r casglwyr trethi a merched y stryd yn mynd i deyrnas Dduw o’ch blaen chi. 32Oblegid pan ddaeth Ioan i ddangos ichi’r ffordd i fyw’n iawn, chredsoch chi mohono, ond fe gredodd y casglwyr trethi a merched y stryd ef; a hyd yn oed wedi gweld hynny wnaethoch chi ddim newid eich meddwl a’i gredu.”
Dameg y Winllan a’r Tenantiaid
33“Gwrandewch ar ddameg arall. Roedd unwaith berchen tir a blannodd winllan; gosododd glawdd o’i chwmpas, cloddio cafn gwin ynddi, a chodi tŵr gwylio; yna ei gosod hi i winllanwyr, a mynd oddi cartref. 34Pan ddaeth amser cynhaeaf gwin fe anfonodd weision at y gwinllanwyr i dderbyn ei ran ef o’r cynnyrch. 35Ond yr hyn wnaethon nhw oedd dal y gweision, curo un, lladd un arall, ac erlid y trydydd â cherrig. 36Yna fe anfonodd ragor o weision, nifer mwy na’r tro o’r blaen; ond yr un driniaeth gafodd y rheiny. 37Y diwedd fu iddo anfon ei fab, gan feddwl, ‘Maen nhw’n siŵr o barchu fy mab i.’ 38Ond pan welodd y gwinllanwyr y mab, medden nhw wrth ei gilydd, ‘Hwn yw etifedd y stad; dowch, lladdwn ef, a chael ei etifeddiaeth.’ 39A dyna nhw’n gafael ynddo, ei daflu allan o’r winllan, a’i ladd. 40Yn awr, pan ddaw perchen y winllan yn ôl, beth mae ef yn debyg o’i wneud i’r gwinllanwyr yna?”
41“Rhoi diwedd creulon arnyn nhw am eu creulonderau, debyg iawn,” oedd yr ateb, “a gosod y winllan i winllanwyr eraill a fydd yn rhoi ei ran o’r cynnyrch iddo yn ei bryd.”
42“Ydych chi erioed wedi darllen y geiriau hyn yn yr Ysgrythurau?” gofynnodd Iesu iddyn nhw,
‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr
A wnaed yn ben congl-faen.
Gwaith yr Arglwydd yw hyn,
A rhyfedd yw yn ein golwg ni’?
43“Dyna pam rwy’n dweud wrthych chi y bydd teyrnas Dduw’n cael ei chymryd oddi arnoch chi a’i rhoi i bobl a fydd yn cynhyrchu ei ffrwyth hi. 44Ac fe chwelir yn ddarnau y sawl fydd yn cwympo ar y garreg hon, ac fe chwelir yn ulw y sawl y bydd y garreg hon yn cwympo arno.”
45Pan glywodd y prif offeiriaid a’r Phariseaid ei ddamhegion ef fe welson nhw mai cyfeirio atyn nhw yr oedd; 46roedden nhw’n ysu am gael eu dwylo arno, ond roedd arnyn nhw ofn y dyrfa, oblegid roedd ef yn broffwyd yn ei golwg hi.
Zvasarudzwa nguva ino
Mathew 21: FfN
Sarudza vhesi
Pakurirana nevamwe
Sarudza zvinyorwa izvi
Unoda kuti zviratidziro zvako zvichengetedzwe pamidziyo yako yose? Nyoresa kana kuti pinda
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971

: