Mathew 22
22
Yn ddifater am y deyrnas
1Yna mewn ateb pellach, dyma Iesu yn siarad â nhw mewn damhegion: 2“Y mae teyrnas Nefoedd fel brenin a drefnodd wledd briodasol i’w fab. 3Anfonodd ei weision i alw’r sawl oedd wedi eu gwahodd i’r wledd, ond fe wrthodson nhw ddod. 4Dyma yntau’n anfon gweision eraill, gan ddweud wrthyn nhw, ‘Dywedwch wrth y gwahoddedigion, “Gwrandewch: rydw i wedi paratoi’r wledd hon; yr eidionnau a’r anifeiliaid tewion wedi eu lladd, a phopeth yn barod; dewch i’r wledd.”’ 5Wnaethon nhw ddim sylw, ond mynd i ffwrdd; aeth un i’w fferm, un arall i’w fusnes; 6ac am y lleill, fe gymerodd y rheiny afael yn ei weision, eu trin yn gywilyddus, a’u lladd. 7Aeth y brenin yn ddig; ac fe anfonodd filwyr i ladd y llofruddion hynny a llosgi eu dinas yn llwyr. 8Yna fe ddywedodd wrth ei weision, ‘Mae’r wledd briodas yn barod, ond doedd y rhai gafodd wahoddiad ddim yn deilwng. 9Ewch allan i’r prif strydoedd, a gwahoddwch bawb a welwch chi i’r wledd.’ 10Dyna’r gweision hynny’n mynd allan i’r strydoedd a chasglu ynghyd bawb y gallen nhw gael gafael arnyn nhw, drwg a da. Ac fe lanwyd neuadd y wledd â gwahoddedigion.
11“Ond pan ddaeth y brenin i mewn i gael golwg ar y gwahoddedigion, fe sylwodd fod un yno heb ei wisgo’n weddus i wledd briodas. 12‘Gyfaill,’ meddai’r brenin wrtho, ‘sut y daethost ti i mewn yma heb wisg briodas?’ Fe aeth y dyn yn fud. 13Ac meddai’r brenin wrth y gweision, ‘Rhwymwch ef draed a dwylo; allan ag ef i’r tywyllwch lle mae wylofain ac ysgyrnygu dannedd.’ 14Mae llawer wedi’u gwahodd, ond ychydig sy wedi’u dewis.”
Hawl Duw a hawl dyn
15Yna fe aeth y Phariseaid oddi yno i drafod sut i’w rwydo yn ei eiriau ei hun. 16Dyma nhw’n anfon rhai o’u disgyblion ato gyda rhai o bobl Herod.
“Feistr,” medden nhw, “fe wyddom dy fod ti’n ddyn gonest, dy fod yn dysgu yn gwbl ddidwyll ewyllys Duw ar gyfer dyn, mai peth dibwys i ti yw barn pobl, ac nad wyt yn malio dim am neb. 17Rho dy farn i ni ar hyn. Ydy hi’n iawn inni dalu treth i Gesar ai peidio?”
18Ond fe welai Iesu drwy’u dichell nhw, ac meddai,
“Ragrithwyr, pam rydych yn ceisio fy rhwydo? 19Dangoswch imi arian y dreth.”
Dyna nhw’n estyn darn iddo.
20“Llun ac enw pwy sy ar hwn?” meddai Iesu.
21“Cesar,” medden nhw.
“Wel, ynteu,” meddai ef, “telwch i Gesar yr hyn sy’n ddyledus iddo ef, a thelwch i Dduw yr hyn sy’n ddyledus iddo yntau.”
22Fe synnodd yr ateb nhw, a dyna nhw’n gadael iddo a mynd i ffwrdd.
Bywyd tu draw i’r bedd
23Yr un diwrnod fe ddaeth Sadwceaid (sy’n gwadu bod atgyfodiad) i ofyn iddo’r cwestiwn hwn: 24“Athro, dywedodd Moses, os byddai i rywun farw heb blant, y dylai ei frawd briodi ei weddw a chodi teulu iddo. 25Yn awr, roedd unwaith saith o frodyr. Fe briododd y cyntaf, a marw, a chan nad oedd ganddo blant fe adawodd ei wraig i’w frawd. 26Fe ddigwyddodd yr un peth yn union gyda’r ail a’r trydydd, ac felly gyda’r saith. 27Yn y diwedd bu farw’r wraig. 28Nawr ynteu, yn yr atgyfodiad, gwraig pwy fydd hi, oherwydd fe fu hi’n wraig i bob un ohonyn nhw?”
29Ac meddai Iesu, “Rydych chi’n camgymryd yn hollol, dydych chi ddim yn deall yr Ysgrythurau na gallu Duw. 30Yn yr atgyfodiad, dydy gwŷr a gwragedd ddim yn priodi na chael eu priodi, ond maen nhw fel angylion yn y nef. 31Ond am atgyfodiad y rhai sydd wedi marw, ydych chi ddim wedi darllen yr hyn ddywedodd Duw ei hunan wrthych chi? 32‘Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob.’ Nid Duw y meirw yw ef ond y rhai byw.” 33Pan glywodd y dyrfa hyn, roedden nhw wedi eu syfrdanu gan ei ddysgeidiaeth ef.
Swm a sylwedd y cyfan yw cariad
34Pan glywodd y Phariseaid ei fod ef wedi rhoi taw ar y Sadwceaid, fe ddaethon nhw at ei gilydd, 35ac er mwyn rhoi prawf arno, dyma un ohonyn nhw, athro yn y Gyfraith, yn gofyn i’w brofi: 36“Athro, p’un yw’r gorchymyn pennaf yn y Gyfraith?”
37Atebodd yntau, “‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl.’ 38Dyna’r gorchymyn mwyaf a’r un cyntaf. 39Ac mae’r ail yn debyg iddo: ‘Câr dy gyd-ddyn fel ti dy hun.’ 40Mae’r cyfan sydd yn y Gyfraith a’r proffwydi yng nghrog wrth y ddau orchymyn hyn.”
Pwy yw efe?
41A’r Phariseaid yno gyda’i gilydd, meddai Iesu wrthyn nhw, 42“Dywedwch i mi, beth yw’ch barn chi am y Meseia? Mab pwy yw?”
“Mab Dafydd,” medden nhw.
43“Sut felly,” meddai yntau, “y mae Dafydd dan ddylanwad yr Ysbryd, yn ei alw’n ‘Arglwydd’? Oblegid mae ef yn dweud,
44‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd,
Eistedd ar fy llaw ddeau
Nes imi osod dy elynion o dan dy draed.’
45Os yw Dafydd yn ei alw’n ‘Arglwydd’, sut y mae yn fab iddo?”
46Ond doedd neb yn gallu rhoi gair o ateb iddo! A byth ar ôl y diwrnod hwnnw, ni feiddiodd neb ofyn cwestiwn iddo.
Zvasarudzwa nguva ino
Mathew 22: FfN
Sarudza vhesi
Pakurirana nevamwe
Sarudza zvinyorwa izvi
Unoda kuti zviratidziro zvako zvichengetedzwe pamidziyo yako yose? Nyoresa kana kuti pinda
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971

: