Mufananidzo weYouVersion
Mucherechedzo Wekutsvaka

Mathew 26

26
Dechrau’r diwedd
1Wedi gorffen dweud hyn oll, meddai Iesu wrth ei ddisgyblion, 2“Fe wyddoch fod y Pasg ymhen deuddydd, ac fe draddodir Mab y Dyn i’w groeshoelio.”
3Yna fe ddaeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl at ei gilydd i blas y Prif Offeiriad, dyn o’r enw Caiaffas; 4ac yno y buon nhw yn trafod sut i ddal yr Iesu trwy gyfrwystra a’i ladd.
5“Ond, nid ar yr ŵyl chwaith,” medden nhw, “rhag i’r bobl fynd yn ferw gwyllt.”
Gweithred brydferth
6Roedd Iesu ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, 7pan ddaeth gwraig ato â photel o alabastr costus iawn, a’i dywallt ar ei ben tra roedd yn eistedd wrth y bwrdd. 8Gwnaeth hyn y disgyblion yn ddig.
“Paham y fath wastraff?” medden nhw. 9“Fe ellid bod wedi ei werthu am arian da, a rhoi hwnnw i’r tlodion.”
10Fe wyddai Iesu beth oedd y siarad hwn, ac meddai wrthyn nhw, “Pam rydych chi’n poeni’r wraig? Fe wnaeth hi weithred brydferth i mi. 11Mae’r tlodion gyda chi o hyd, ond fyddaf fi ddim gyda chi o hyd. 12Wrth dywallt yr olew hwn ar fy nghorff i, roedd hi’n ei baratoi erbyn dydd fy nghladdu i. 13Credwch fi: p’le bynnag y cyhoeddir y Newyddion Da hyn drwy’r byd i gyd, fe fydd sôn hefyd am yr hyn a wnaeth hi er cof amdani.”
Brad Jwdas
14Wedi hyn fe aeth un o’r deuddeg disgybl, Jwdas Iscariot wrth ei enw, at y Prif Offeiriaid, 15ac meddai, “Faint rydych yn fodlon ei roi i mi am ei fradychu i chi?”
Dyna nhw’n taro bargen am ddeg darn ar hugain o arian.
16O’r foment honno fe ddechreuodd yntau chwilio am gyfle i gyflawni ei frad.
Y Swper Olaf
17Ar ddydd cyntaf Gŵyl y Bara Croyw fe ddaeth y disgyblion at Iesu a gofyn, “Ymhle rwyt ti am inni drefnu iti fwyta’r Pasg?”
18Atebodd yntau, “Ewch i’r ddinas at hwn-a-hwn a dywedwch wrtho, ‘Mae’r Meistr yn dweud, “Mae f’amser i’n agos; yn dy dŷ di y cadwaf fi’r Pasg gyda’m disgyblion”’.”
19Fe wnaeth y disgyblion fel y dywedodd Iesu wrthyn nhw a pharatoi’r Pasg.
20Gyda’r hwyr fe eisteddodd ef gyda’r deuddeg wrth y bwrdd; 21ac ar swper meddai wrthyn nhw, “Gwrandewch: mae un ohonoch chi’n mynd i’m bradychu i.”
22Roedden nhw’n drist iawn wrth glywed hyn, a dechreuodd un ar ôl y llall ddweud wrtho, “Dwyt ti ddim yn cyfeirio ataf fi, wyt ti, Arglwydd?”
23Atebodd yntau, “Yr hwn sy wedi gwlychu’i law yn y ddysgl gyda mi sy’n mynd i’m bradychu i. 24Fe â Mab y Dyn i ffwrdd fel sy wedi’i ragfynegi amdano yn yr Ysgrythurau; ond gwae’r dyn hwnnw sy’n mynd i’w fradychu ef! Fe fyddai’n well i’r dyn hwnnw fod heb ei eni erioed.”
25Yna meddai Jwdas, yr un a oedd i’w fradychu ef, “Athro, ai fi sy yn dy feddwl?”
Atebodd Iesu, “Ti sy wedi dweud.”
26A nhw’n bwyta, fe gymerodd Iesu fara, ac wedi gofyn bendith, ei dorri, a’i roi i’r disgyblion gan ddweud, “Cymerwch hwn a bwytewch; fy nghorff i yw hwn.”
27Yna fe gymerodd gwpan, ac wedi diolch fe’i rhoddodd iddyn nhw, gan ddweud, “Yfwch ohono, bawb ohonoch chi, 28fy ngwaed i yw hwn, gwaed y cyfamod, a gollir dros lawer er mwyn iddyn nhw gael maddeuant am eu pechodau. 29Credwch fi, yfaf i ddim eto o ffrwyth y winwydden hyd y dydd pan yfaf ef yn newydd gyda chi yn nheyrnas fy Nhad.”
30Wedi canu emyn, fe aethon nhw allan i Fynydd yr Olewydd.
31Yna fe ddywedodd Iesu wrthyn nhw, “Heno, bydd pob un ohonoch chi yn colli ei ffydd o’m hachos i. Oherwydd mae’r Ysgrythur yn dweud, ‘Mi drawaf y bugail, ac fe wasgerir defaid ei braidd.’ 32Ond wedi fy nghodi o feirw mi af o’ch blaen chi i Galilea.”
33Dyna Pedr yn ateb, “Gall pob un golli ei ffydd o’th achos di, wnaf fi byth.”
34“Cred di fi,” meddai Iesu, “heno, cyn i’r ceiliog ganu, fe fyddi wedi gwrthod fy arddel deirgwaith.”
35“Petai’n rhaid imi farw gyda thi, wnaf i byth mo’th wadu di,” atebodd Pedr. Ac fe ddywedodd pob un o’r disgyblion yr un peth.
Y Weddi yng Ngethsemane
36Yna fe ddaeth Iesu gyda nhw i le o’r enw Gethsemane. Meddai wrth ei ddisgyblion, “Eisteddwch yma tra byddaf i’n mynd draw acw i weddïo.”
37Fe aeth â Phedr a dau fab Sebedeus i’w ganlyn, ac fe ddechreuodd fod mewn ing a thrallod mawr. 38Yna dywedodd wrthyn nhw, “Y mae fy nghalon ar dorri gan dristwch: arhoswch yma, a gwyliwch gyda mi.”
39Fe aeth ychydig yn nes ymlaen, syrthio ar ei wyneb, a gweddïo, “Fy Nhad, os yw’n bosibl, gad i’r cwpan hwn fynd heibio imi. Ac eto, gad iddi fod fel yr wyt ti’n dymuno, nid fel rydw i’n dymuno.”
40Yna fe ddaeth yn ôl at y disgyblion, a’u cael yn cysgu; meddai wrth Pedr, “Felly allech chi ddim gwylio am awr gyda mi? 41Gwyliwch a gweddïwch nad ewch chi ddim i demtasiwn. Mae’r ysbryd yn ddigon parod, ond mae’r cnawd yn wan.”
42Yna fe aeth oddi wrthyn nhw yr ail waith, a gweddïo, “Fy Nhad, oni all y cwpan hwn fynd heibio heb i mi yfed ohono, gad iddi fod fel rwyt ti’n dymuno.”
43Ac fe ddaeth eto a’u cael nhw’n cysgu, oherwydd bod trymder cwsg arnyn nhw. 44Felly fe adawodd iddyn nhw, a mynd oddi wrthyn nhw eto, a gweddïo y drydedd waith, gan ddweud yr un geiriau ag o’r blaen.
45Ac wedi dod yn ôl at ei ddisgyblion unwaith eto, meddai wrthyn nhw, “Ai cysgu a dal i orffwys rydych o hyd? Mae’r amser wedi dod! Mae Mab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo dynion drwg. 46Codwch! Awn! Edrychwch, mae fy mradwr wrth law.”
Ei ddwyn ef i’r ddalfa
47Ac yntau heb orffen siarad, cyrhaeddodd Jwdas, un o’r deuddeg, a thyrfa fawr gydag ef yn cario cleddyfau a phastynau, wedi’u hanfon gan y prif offeiriaid a henuriaid y bobl. 48Roedd y bradwr wedi rhoi’r arwydd hwn iddyn nhw: “Hwnnw byddaf fi’n ei gusanu yw’r dyn; deliwch ef.”
49Yna dyma fe’n syth at Iesu, a dweud, “Cyfarchion, Athro!” a’i gusanu ef.
50“Gyfaill,” meddai Iesu wrtho, “gwna’r hyn y daethost ti yma i’w wneud.”
Ar hynny fe ddaeth y lleill, gafael yn Iesu, a’i ddal yn dynn.
51A dyna un o’r rhai oedd gyda Iesu’n estyn am ei gleddyf a’i dynnu ac yna’n taro gwas y Prif Offeiriad, gan dorri ei glust i ffwrdd.
52“Rho dy gledd yn ôl yn ei le,” meddai Iesu wrtho. “Mae pawb sy’n defnyddio cledd yn marw drwy’r cledd. 53Wyt ti ddim yn meddwl y gallwn i alw ar fy Nhad, ac y byddai ef mewn moment yn anfon miloedd o angylion i’m helpu i? 54Ond sut felly y byddai’r Ysgrythurau’n dweud y gwir mai fel hyn y mae’n rhaid iddi fod?”
55Yr adeg honno meddai Iesu wrth y dyrfa, “Ydych chi wedi dod allan â chleddyfau a phastynau i’m dal i fel pe bawn i’n lleidr pen-ffordd? Roeddwn i gyda chi beunydd yn eistedd yn dysgu yn y Deml, ond roesoch chi mo’ch dwylo arnaf. 56Ond mae’r cyfan wedi digwydd i gyflawni yr hyn a ysgrifennodd y proffwydi.”
A dyna’i ddisgyblion bob un yn troi cefn arno, a’i gwadnu oddi yno.
Iesu ar brawf
57Fe aeth y rhai a ddaliodd Iesu ag ef ymaith i dŷ Caiaffas, y Prif 58Offeiriad, lle roedd athrawon y Gyfraith a’r henuriaid wedi dod ynghyd. Fe ddilynodd Pedr ef o hirbell hyd at iard llys y Prif Offeiriad, ac wedi mynd i mewn fe eisteddodd gyda’r gweision i ddisgwyl y diwedd.
59Roedd y prif offeiriaid a’r holl Gyngor ar eu heithaf yn ceisio cael rhyw gam-dystiolaeth yn erbyn Iesu er mwyn cael ei gondemnio i farwolaeth; 60ond methu’n llwyr fu eu hanes, er i lawer ddod ymlaen i roi tystiolaeth gelwyddog. O’r diwedd dyma ddau ymlaen 61a dweud, “Hwn ddywedodd, ‘Fe alla i dynnu Teml Dduw i lawr, a’i hadeiladu hi drachefn mewn tridiau’.”
62A dyna’r Prif Offeiriad ar ei draed: “Oes gennyt ti ddim ateb? Beth am gyhuddiad y rhain yn d’erbyn di?”
63Ond ddaeth yr un gair oddi wrth Iesu.
Meddai’r Prif Offeiriad eto: “Rwy’n dy orchymyn di yn enw’r Duw byw i ddweud wrthym ni ai ti yw’r Meseia, mab Duw?”
64Atebodd Iesu, “Ti sy wedi dweud. Ond mi ddyweda i hyn wrthych chi, o hyn ymlaen fe gewch chi weld Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r Gallu ac yn dod ar gymylau’r nef.”
65Ar hyn, dyma’r Prif Offeiriad yn rhwygo’i wisg a gweiddi, “Cabledd! Pa dystion eraill sy eisiau arnom? Nawr fe glywsoch y cabledd. 66Beth yw’ch barn chi?”
“Euog!” medden nhw; “yn haeddu marwolaeth.”
67Wedyn, dyna nhw’n poeri yn ei wyneb, ac yn ei ddyrnu; a rhai wrth ei guro’n 68gweiddi, “Proffwyda i ni, Feseia, pwy a’th drawodd di?”
Pedr yn diarddel ei Arglwydd
69Yn y cyfamser roedd Pedr yn eistedd allan yn yr iard, pan ddaeth un o’r morynion ato a dweud, “Roeddet tithau gyda Iesu’r Galilead.”
70Ond gwadu wnaeth ef yn eu gŵydd nhw i gyd. “Wn i ddim am beth rwyt ti’n sôn,” meddai.
71Yna, wedi iddo fynd allan i’r porth, fe sylwodd merch arall arno, ac meddai hithau wrth y rhai oedd yno, “Roedd hwn gyda Iesu’r Nasaread.”
72Gwadodd yntau eilwaith gyda llw: “Dydw i ddim yn nabod y dyn.”
73Cyn hir dyma’r rhai oedd yn sefyllian o gwmpas ymlaen a dweud wrth Bedr, “Does dim dwywaith nad wyt ti’n un ohonyn nhw; mae dy acen di’n profi hynny.”
74Ar hyn dyma Pedr yn dechrau rhegi a thyngu, “Dydw i ddim yn nabod y dyn.”
Y foment honno fe ganodd y ceiliog. 75Ac fe gofiodd Pedr air Iesu: “Cyn i’r ceiliog ganu fe fyddi wedi ’ngwadu i deirgwaith.” Ac fe aeth allan ac wylo’n chwerw dost.

Zvasarudzwa nguva ino

Mathew 26: FfN

Sarudza vhesi

Pakurirana nevamwe

Sarudza zvinyorwa izvi

None

Unoda kuti zviratidziro zvako zvichengetedzwe pamidziyo yako yose? Nyoresa kana kuti pinda