Mathew 25
25
Dameg y deg morwyn
1“Pan ddaw’r dydd hwnnw, fe fydd teyrnas Nefoedd yn debyg i ddeg o ferched a gymerodd eu lampau a mynd allan i gwrdd â’r priodfab. 2Roedd pump ohonyn nhw’n annoeth a phump yn ddoeth; 3pan gymerodd y rhai annoeth eu lampau chymerson nhw ddim olew gyda nhw, 4ond fe ofalodd y rhai doeth gymryd olew mewn costrelau gyda’u lampau. 5Gan fod y priodfab yn hir yn dod, dyma’r cwbl yn hepian a chysgu. 6Ond ganol nos dyna waedd: ‘Dacw fe’r priodfab! Allan â chi i’w gyfarfod!’ 7A dyna’r merched hynny i gyd ar eu traed a thrin eu lampau. 8Ac meddai’r rhai annoeth wrth y rhai doeth, ‘Mae’n lampau ni’n diffodd; 9rhannwch beth o’ch olew â ni’. ‘Na, na,’ meddai’r rhai doeth, ‘fydd dim digon i ni ac i chi. Gwell ichi fynd i’r siop a phrynu peth i chi’ch hunain.’ 10Ond tra buon nhw i ffwrdd yn prynu, fe ddaeth y priodfab; fe aeth y sawl oedd yn barod i mewn gydag ef i’r wledd briodas; ac fe gaewyd y drws. 11Toc dyma’r merched eraill hefyd yn dod a galw, ‘Syr, syr, agor y drws inni.’ 12Ac meddai yntau, ‘Coeliwch chi fi, dydw i ddim yn eich nabod chi.’ 13Byddwch effro, felly, gan na wyddoch chi na’r dydd na’r awr.”
Dameg y Talentau
14“Unwaith eto, mae’r deyrnas yn debyg i ddyn yn mynd oddi cartref, yn galw’i weision ato a rhoi ei eiddo yn eu gofal — 15i un bum cwdyn o’i arian, i un arall ddau, ac i’r trydydd un, i bob un yn ôl ei allu. Yna i ffwrdd ag ef. 16Fe aeth y dyn a gafodd y pump ar unwaith i wneud busnes â nhw a’u dyblu nhw, 17ac fe wnaeth y gŵr a gafodd ddau yr un peth. 18Ond am y dyn a gafodd un, beth wnaeth hwnnw oedd mynd o’r neilltu a thorri twll yn y ddaear a chuddio arian ei feistr. 19Ymhen llawer o amser, dyma feistr y gweision hynny yn ôl, a mynd i drafod y cyfrifon gyda nhw. 20Fe ddaeth y dyn a gafodd y pum cwdyn ymlaen â phump arall atyn nhw: ‘Feistr,’ meddai, ‘pum cwdyn a gefais i i’m gofal gennyt, dyma fi wedi’u dyblu nhw.’ 21‘Ardderchog,’ meddai’r meistr, ‘gwas da a ffyddlon wyt ti. Gan i ti fod yn ffyddlon gydag ychydig, mi rof lawer mwy yn dy ddwylo di. Tyrd i mewn i gael rhan yn llawenydd dy feistr.’ 22Yna fe ddaeth gŵr y ddau gwdyn ymlaen a dweud, ‘Feistr, llond dau gwdyn gefais i gen ti, dyma fi wedi’u dyblu nhw.’ 23‘Rhagorol!’ meddai’r meistr wrtho, ‘gwas da a ffyddlon wyt ti. Gan iti fod yn ffyddlon gydag ychydig, mi rof lawer yn dy ddwylo di. Tyrd i mewn i gael rhan yn llawenydd dy feistr.’ 24Ac yna fe ddaeth y dyn oedd wedi cael yr un cwdyn ymlaen. ‘Feistr,’ meddai, ‘fe wyddwn mai dyn caled wyt ti, yn medi lle nad wyt ti wedi hau, ac yn hel i mewn heb roi allan, 25ac roedd arnaf fi ofn, ac fe es i guddio dy arian yn y ddaear. Edrych, dyma ti’n cael dy eiddo’n ôl.’ 26‘Y cnaf drwg a diog!’ meddai’i feistr wrtho. ‘Gwybod fy mod i’n medi lle nad ydw i wedi hau, ac yn hel i mewn heb roi allan, ai e? 27Mi ddylet fod wedi bancio’r arian, yna wedi dod adref, mi faswn yn cael f’arian i’n ôl gyda llogau. 28Cymerwch ei gwdyn oddi arno a rhowch ef i’r dyn â’r deg cwdyn. 29Pob un sydd ganddo ryw gymaint fe gaiff ragor a chael digonedd. Ond am y sawl sy heb ddim, fe gyll hyd yn oed yr hyn sy ganddo. 30Teflwch y gwas diwerth hwn i’r tywyllwch y tu allan, i ganol yr wylofain a’r ysgyrnygu dannedd.’”
Iesu’n didoli dynion
31“Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant, a’i holl angylion gydag ef, fe fydd yn eistedd ar ei orsedd ogoneddus, 32a’r holl genhedloedd wedi’u casglu o’i flaen. Fe fydd ef yn didoli dynion oddi wrth ei gilydd, fel y bugail yn didoli’r defaid oddi wrth y geifr, 33ac yn gosod y defaid ar ei law dde ond y geifr ar y chwith. 34Yna fe ddywed y brenin wrth y rhai ar y dde, ‘Mae bendith y Tad arnoch chi; dewch i mewn i feddiannu’r deyrnas sy wedi’i pharatoi ichi er pan sylfaenwyd y byd. 35Oherwydd pan oedd arnaf newyn, fe roesoch fwyd imi; pan oedd arnaf syched, fe roesoch imi ddiod; pan oeddwn i’n ddieithryn, mi ges groeso gennych chi; 36yn noeth, fe roesoch ddillad amdanaf; yn wael, fe ofalsoch amdanaf fi; yng ngharchar, ac fe ddaethoch i’m gweld i.’ 37Yna bydd y rhai cyfiawn yn ei ateb, ‘Arglwydd, pa bryd y gwelsom ni di’n newynu a rhoi bwyd iti, neu’n sychedig a rhoi diod iti, 38yn ddieithryn a rhoi croeso iti, neu’n noeth a rhoi dillad iti? 39A pha bryd y gwelsom ni di’n wael, neu yng ngharchar, a dod i edrych amdanat ti?’ 40A bydd y brenin yn ateb, ‘Credwch fi: beth bynnag wnaethoch chi dros un o’m brodyr hyn, ie, y mwyaf dinod ohonyn nhw, fe’i gwnaethoch i mi.’
41“Yna fe ddywed wrth y rhai ar y chwith iddo, ‘Ewch o’m golwg i, rai melltigedig, i’r tân tragwyddol sy wedi’i baratoi i’r diafol a’i angylion. 42Oherwydd pan oeddwn i’n newynu roesoch chi ddim bwyd imi, na diod pan oeddwn i’n sychedig; 43pan oeddwn i’n ddieithryn ches i ddim croeso gennych chi, na dillad pan oeddwn i’n noeth; a phan oeddwn i’n wael ac yng ngharchar ddaethoch chi ddim ar fy nghyfyl i.’ 44Ac fe fyddan nhwythau’n ateb, ‘Arglwydd, pa bryd y gwelsom ni di mewn eisiau bwyd, neu’n sychedig, neu’n ddieithryn, neu’n noeth, neu’n wael, neu yng ngharchar, heb wneud dim drosot ti?’ 45A’i ateb ef fydd, ‘Credwch fi: am na wnaethoch chi ddim i un o’r brodyr hyn, ie, y mwyaf dinod ohonyn nhw, wnaethoch chi mohono i mi.’ 46Ac fe â y rhain i gosb dragwyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.”
Zvasarudzwa nguva ino
Mathew 25: FfN
Sarudza vhesi
Pakurirana nevamwe
Sarudza zvinyorwa izvi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fsn.png&w=128&q=75)
Unoda kuti zviratidziro zvako zvichengetedzwe pamidziyo yako yose? Nyoresa kana kuti pinda
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971

:
Sarudza vhesi
Pakurirana nevamwe
Sarudza zvinyorwa izvi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fen.png&w=128&q=75)