Mufananidzo weYouVersion
Mucherechedzo Wekutsvaka

Mathew 24

24
Proffwydo dinistr y Deml
1A’r Iesu’n mynd ac yn gadael y Deml, fe ddaeth ei ddisgyblion ato a thynnu ei sylw at adeiladau’r Deml. 2Meddai ef: “Welwch chi y rhain i gyd? Credwch fi: ni adewir yma garreg ar garreg heb eu dymchwelyd.”
Darogan dyddiau drwg
3Wedyn, pan oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd, fe ddaeth ei ddisgyblion ato ar eu pen eu hunain, a gofyn, “Dywed wrthym pa bryd y digwydd hyn, a pha arwydd gawn ni dy fod ti’n bresennol a bod yr oes hon yn dod i ben.”
4“Cymerwch ofal rhag i neb eich twyllo chi,” meddai Iesu. 5“Fe ddaw llawer yn cymryd f’enw i arnyn nhw, a dweud, ‘Fi yw’r Meseia,’ ac fe fyddan nhw’n camarwain llawer. 6Fe gewch glywed am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd, ond gofelwch beidio ag ofni. Rhaid i’r pethau hyn ddigwydd, ond mae’r diwedd eto i ddod. 7Fe gwyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, ac fe fydd newyn a daeargrynfâu mewn llawer lle. 8Ond dechrau gwewyr esgor oes newydd fydd y pethau hyn i gyd.
9“Pryd hynny fe gewch eich cosbi a’ch lladd, ac fe fydd pob cenedl yn eich casáu chi am eich bod yn dwyn f’enw i. 10Pryd hynny fe fydd llawer yn colli’u ffydd, ac yn bradychu a chasáu ei gilydd. 11Ie, ac fe gwyd llawer o broffwydi gau a chamarwain llawer o bobl; 12ac am fod anhrefn ar gynnydd, fe fydd cariad llaweroedd yn oeri. 13Ond pwy bynnag a ddalio hyd y diwedd a gaiff ei achub. 14Fe bregethir y Newyddion Da am y Teyrnasiad drwy’r byd i gyd, yn dystiolaeth i bob cenedl; ac yna fe ddaw diwedd y byd.
15“Felly, pan welwch chi ‘hen beth ffiaidd lle anghyfannedd’ y soniodd y proffwyd Daniel amdano ‘yn sefyll yn y lle santaidd’ (dealled y darllenydd), 16yna rhaid i’r rhai sydd yn Jwdea gilio i’r mynyddoedd. 17Os mai ar y to y bydd rhywun ar y pryd, peidied â mynd i mofyn dim o’i bethau o’r tŷ; 18os mai yn y maes y bydd, peidied â mynd nôl i mofyn ei ddillad. 19Druan o’r gwragedd sy’n disgwyl plant a’r rhai â phlant sugno yn y dyddiau hynny. 20Gweddïwch na fydd yn rhaid ichi ffoi yn y gaeaf neu ar y Dydd Gorffwys. 21Fe fydd gorthrymder y pryd hwnnw na welwyd erioed ei fath o ddechreuad y byd hyd heddiw, ac na fydd ei debyg fyth eto. 22Yn wir, oni bai i’r dyddiau hynny gael eu cwtogi, fyddai dim un dyn wedi’i adael yn fyw; ond er mwyn y rhai sy wedi’u dewis fe gwtogir y dyddiau hynny.
23“Felly, os bydd i rywun ddweud wrthych, ‘Edrychwch, dyma’r Meseia,’ neu ‘Dacw fe,’ peidiwch â’i gredu. 24Oherwydd fe ddaw twyllwyr yn cymryd arnyn nhw fod fel Meseia ac yn broffwydi ac yn dangos arwyddion mawr a rhyfeddodau, nes camarwain hyd yn oed y rhai sy wedi’u dewis, petai hynny’n bosibl. 25’Drychwch, dyna fi wedi’ch rhybuddio chi ymlaen llaw. 26Felly, os dywedan nhw wrthych, ‘Mae ef acw yn yr anialwch,’ peidiwch â mynd allan yno; ‘Dyma fe, yn yr ystafell,’ peidiwch â chredu. 27Fel y fellten sy’n codi o’r dwyrain ac yn fflachio hyd y gorllewin — felly mae dyfodiad Mab y Dyn. 28P’le bynnag y bydd corff marw yno y bydd y fwlturiaid yn heidio.”
Dychweliad Mab y Dyn
29“Yn union wedi gorthrymder y dyddiau hynny fe dywyllir yr haul, a bydd y lleuad yn gwrthod ei goleuni, fe syrth y sêr o’r wybren a bydd pwerau’r nef yn gwegian. 30Yna bydd arwydd yn ymddangos yn y ffurfafen bod Mab y Dyn ar ddod, a bydd holl genhedloedd y ddaear mewn galar ac yn gweld Mab y Dyn yn dod ar gymylau’r nef gyda nerth mawr a gogoniant. 31Bydd yntau’n anfon allan ei angylion gydag utgorn mawr, a nhwythau’n casglu ei ddewis bobl o’r pedwar gwynt ac o un pen i’r nef i’r llall.
32“Dysgwch wers oddi wrth y pren ffigys. Cyn gynted ag y bydd ei flagur tyner yn ymddangos ac y bydd yn deilio, fe wyddoch fod yr haf yn agos. 33Yn union felly, pan welwch chi’r holl ddigwyddiadau hyn, fe fyddwch yn gwybod fod y diwedd yn agos, wrth y drws. 34Credwch fi: ni ddaw’r genhedlaeth hon i ben cyn i’r holl bethau hyn ddigwydd. 35Fe â nef a daear heibio ond nid â fy ngeiriau i heibio fyth.
36“Ond am y dydd hwnnw a’r awr, does neb a ŵyr — hyd yn oed angylion y nefoedd, na’r Mab, ond y Tad yn unig.
37“Fel roedd pethau yn nyddiau Noa, felly y byddan nhw pan ddaw Mab y Dyn. 38Yn y dyddiau hynny, cyn y dilyw, roedden nhw’n bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn cael eu priodi, tan y dydd yr aeth Noa i’r arch, 39heb wybod dim nes i’r dilyw ddod a’u hysgubo nhw i gyd i ffwrdd. Fel yna y bydd hi pan ddaw Mab y Dyn: 40yr adeg honno fe fydd dau ddyn mewn maes; un yn cael ei gymryd, y llall yn cael ei adael; 41dwy wraig yn y felin yn malu; un yn cael ei chymryd, y llall yn cael ei gadael.
42“Byddwch effro, felly, gan na wyddoch chi ddim pa bryd y daw eich Arglwydd. 43Cofiwch, pe gwyddai gŵr y tŷ pa awr o’r nos y deuai’r lleidr, fe fyddai wedi aros ar ddi-hun ac nid wedi gadael i’w dŷ gael ei dorri i mewn iddo. 44Byddwch chithau hefyd barod, oherwydd fe ddaw Mab y Dyn pan na fyddwch chi’n ei ddisgwyl.
45“Pwy, ynteu, yw’r gwas ffyddlon a chall, wedi’i osod gan ei feistr i edrych ar ôl ei weision cyflog ac i ofalu am fwyd iddyn nhw yn ei bryd? 46Dedwydd iawn yw y gwas hwnnw a fydd wrth ei waith pan ddaw ei feistr yn ôl. 47Credwch fi: fe rydd ei feistr i hwnnw hawl ar ei eiddo i gyd. 48Ond os gwas drwg yw, yn dweud wrtho’i hun, ‘Mae fy meistr yn hir yn dod,’ 49ac yn dechrau curo’i gyd-weision a bwyta ac yfed gyda meddwon, 50fe ddaw meistr y gwas hwnnw yn ôl ar ddiwrnod annisgwyl ac ar awr ddiarwybod iddo, 51a’i dorri’n ddarnau, a’i osod ef ymhlith y rhagrithwyr, lle mae wylofain ac ysgyrnygu dannedd.”

Zvasarudzwa nguva ino

Mathew 24: FfN

Sarudza vhesi

Pakurirana nevamwe

Sarudza zvinyorwa izvi

None

Unoda kuti zviratidziro zvako zvichengetedzwe pamidziyo yako yose? Nyoresa kana kuti pinda