Salmau 40
40
SALM XL
O Lyfr Canu’r Pencerdd.
Salm Dafydd.
I. Cân o Ddiolchgarwch. Gwell yw mawl nac aberth.
1Disgwyl a hir-ddisgwyl a fûm wrth Iehofa,
Troi a wnaeth yntau ataf, a chlywed fy ngwaedd.
2Cododd fi o bydew diffaith, o laid bawlyd,
A gosododd fy nhraed ar graig, a chadarnhau fy nghamre.
3Rhoddodd gân newydd yn fy ngenau,
A honno yn gân o foliant i’n Duw ni.
O weld hyn, ofnodd llawer, ac ymddiried yn Iehofa.
4O mor hapus yw’r gŵr sydd yn gwneuthur Iehofa yn hyder iddo,
Heb droi byth at eilunod na gwyro at beth celwyddog.
5O Iehofa, fy Nuw, gwnaethost bethau mawr iawn.
Pwy a all ddosbarthu Dy ryfeddodau inni,
A’th feddyliau am danom.
Ofer yw eu mynegi a’u traethu, —
Y maent yn rhy aml i’w cyfrif.
6Nid oes gennyt Ti hyfrydwch mewn aberth nac offrwm,
Ond mi gefais glustiau gennyt.
Nid wyt Ti’n gofyn am boethoffrwm na phechaberth.
7Gan fod hyn yn wir, dywedais, “Wele fi’n dyfod,
Yn Rhôl y Llyfr y mae pob cyfarwyddyd i mi”.
8Hyfryd gennyf yw gwneuthur Dy ewyllys, O Dduw;
Dy gyfraith Di sydd yn fy nghalon.
9Pregethais y newyddion da am gyfiawnder Duw yn y gynulleidfa fawr;
Gwyddost Ti, O Arglwydd, na chaeais fy ngwefusau.
10Ni chedwais Dy gyfiawnder i myfi fy hunan, ond traethais
Dy gariad a’th wirionedd yn y gynulleidfa fawr.
11Nac atal Dithau, O Iehofa,
Dy drugareddau oddi wrthyf;
Cadwed Dy gariad a’th ffyddlondeb fi yn wastad.
12Drygau heb rifedi a’m cylchynodd i,
Daliodd fy mhechodau i fel na allwn weld dim.
Amlach oeddynt na gwallt fy mhen,
A digalon oeddwn.
II. Gweddi am gymorth rhag gelynion.
13O Iehofa, gwêl yn dda fy ngwaredu.
O Iehofa, brysia i’m cymorth.
14Cywilydd a sarhad ynghyd a fo i’r rhai sy’n ceisio fy mywyd.
Erlid a gwarth i’r neb a ddymuno niwed i mi.
15Gwaradwydd arnynt am eu cywilydd,
Am fwrw eu ‘Ha Ha’ am fy mhen.
16Llawenydd a hyfrydwch ynot a fo i’th geiswyr;
Yn wastad dyweded y rhai sy’n caru
Dy Iachawdwriaeth, ‘Mawryger enw Iehofa’.
17Os truan a thlawd wyf fi,
Eto yr Arglwydd a feddwl am danaf.
Fy nghymorth a’m gwaredwr ydwyt.
O fy Nuw, nac oeda.
salm xl
Y mae yma ddwy Salm. Un yn gân o ddiolchgarwch, canys gwell gan Iehofa ydyw diolch a mawl nag ebyrth ac offrymau (1-11). Dengys ôl myfyrio helaeth ar Ieremia, a llawn ydyw o ysbryd ac angerdd y proffwydi, a phell oddi wrthi ydyw ysbryd yr offeiriad.
Ceir 13-17 yn Salm 70, ac o gymharu’r ddwy gwelir y rhyddid a gymerth yr hen gopïwyr a’r neb a fu’n casglu y Salmau wrth drin a newid y testun.
Nodiadau
2. Efallai fod carchar Ieremia yn meddwl y Salmydd. “Ac nid oedd dwfr yn y daeardy, ond tom: felly Ieremia a lynodd yn y dom” Jer. 38:6.
3. Cân newydd ar gyfer pob gwaredigaeth newydd. Yn y gynulleidfa fawr yn y Deml y canwyd y gân am y waredigaeth, a chafodd amryw nerth ac ysbrydiaeth ynddi.
6, 7. Y mae pedwar math ar aberth yma. Aberth, aberth gwaed; Offrwm, sef bwyd-offrwm. Poethoffrwm, yn hwn llosgwyd yr anifail a aberthid yn llwyr, a chyflwynwyd ef yn gyfan gwbl i’r Arglwydd. Pechaberth, sef yr offrwm a wnaethpwyd i symud halogrwydd cyn adfer dyn i ffafr Duw. Gwell enw arno a fyddai “Offrwm Puredigaeth”.
Y mae’n haws yma ddeall meddwl y Salmydd na chyfieithu ei eiriau: — Am nad oes gennyt Ti hyfrydwch mewn ebyrth, nid oes gennyf innau, ond y mae gennyf glust i wrando ar Dy gyfarwyddiadau sydd wedi eu hysgrifennu imi yn Dy gyfraith, ac y mae gennyf hyfrydwch mewn gwneuthur Dy ewyllys. Wrth Rôl y Gyfraith y golygir yn bennaf Lyfr Deuteronomi.
9. Y gynulleidfa fawr ydyw cynulleidfa Israel wedi ymgynnull i addoli.
12. A ychwanegwyd at y Salm gan y neb a blethodd y ddwy gân yn un.
Pynciau i’w Trafod:
1. A ydyw crefydd yn heintus? Yn wyneb adn. 4 ystyriwch y dywediad, “Religion is Caught not taught”.
2. Cymherwch ddysgeidiaeth y Salmydd hwn am aberth ac offrwm a dysgeidiaeth y proffwydi. Es. 1:10-15; Ho. 6:6; 1 Sam. 15:22.
3. A ydyw’r Salm hon, ei ffurf a’i phlethu a Salm arall, a’r newid fu ar honno cyn ei dodi yma, yn cyfiawnhau beirniadaeth ddiweddar a elwir yn Uwchfeirniadaeth?
موجودہ انتخاب:
Salmau 40: SLV
سرخی
شئیر
کاپی
کیا آپ جاہتے ہیں کہ آپ کی سرکیاں آپ کی devices پر محفوظ ہوں؟ Sign up or sign in
Detholiad o'r Salmau gan Lewis Valentine. Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston ym mis Ebrill 1936.