Hosea 10
10
PEN. X.—
1Gwinwydden rywiog#frigog, gangenog. LXX. Syr. ddeiliog. Vulg. yw Israel:
Efe a ddyg ffrwyth#ddarparodd, ffrwyth cyfartal sydd iddo. Vulg. arno:
Yn ol amlder ei ffrwyth,
Yr amlhaodd efe allorau;
Yn ol daioni ei dir;
Y gwnaethant ddelwau#golofnau; uchelfeydd. Syr. teg#da, gwnaethant—yn dda..
2Eu calon a ymranodd,#rhanasant eu. LXX. rhanwyd eu. Syr. Vulg.
Yn awr y ceir hwy yn euog;#a gosbir, a ddiffaethir. LXX. derfydd am danynt. Vulg.
Efe a deifl i lawr eu hallorau;
Efe a ddystrywia#ddryllir, dyr. Vulg. eu delwau.
3Canys yn awr y dywedant;
Nid oes i ni frenin:
Am nad ofnasom yr Arglwydd;
A’r brenin,
Pa beth a wna i ni.
4Dywedasant eiriau;#eiriau twyllodrus. Syr. a’r brenin—gan ddyweyd geiriau esgusodion celwyddog. LXX. dywedwch eiriau gweledigaeth ddiles. Vulg.
Tyngu celwydd fu gwneuthur#torasant gyfamod. Syr. cyfamod:
A barn a dyf fel gwenwynllys;#efrau, chwerwedd. Vulg. fel dyrysi mewn tir hauadwy. Syr.
Ar rychau#anialfa. LXX. maes.
5Am loi#lloi benywaidd. Hebr. llo. LXX., Syr. Bethafen;#ty On. LXX.
Yr ofna preswylwyr#preswylydd. Hebr. preswylwyr Samaria a ofnasant wartheg Beth-afen. Samaria:
Canys ei bobl a alarant am dano,
A’i offeiriaid a ddychrynant#lawenhant. LXX. Syr. orfoleddasant. Vulg. o’i herwydd;
O achos ei ogoniant, Am iddo ymadaw oddiwrtho.
6Hefyd efe ei hun a ddygir#ac wedi ei rwymo i’r Assuriaid dygasant anrhegion i. LXX. i Assuria;
Yn anrheg i frenin Jareb:#ymrysongar. Jareim. mawr. Syr. LXX. dialydd. Vulg.
Ephraim a dderbyn gywilydd;
A chywilyddia Israel am ei gynghorion.#cywilyddir—yn ei ewyllys, Vulg.
7Dinystriwyd Samaria:#Samaria a fwriodd ymaith ei brenin fel bryw-wyddyn. LXX. a wnaeth i’w—fyned trosodd fel ewyn ar. Vulg.
Ei brenin a fydd fel asglodyn#ewyn soflyn. Syr. ar Wyneb dwfr.
8A dystrywir uchelfeydd#temlau Afen. Afen#yr eilun. Vulg. pechod#pechodau. LXX. Israel;
Dring drain a mieri ar eu hallorau hwynt:
A dywedant wrth y mynyddoedd,
Cuddiwch ni;
Ac wrth y bryniau, Syrthiwch arnom.
9Er dyddiau#oddiar y mae y bryniau. LXX. Gibeah;#y bryn. Hebr.
Y pechaist Israel:
Yno y safasant;
Rhyfel yn erbyn plant anwiredd#anwiriaid. nis goddiwedda#a rhyfel—ni oddiweddai hwy yn y bryn. i’w ceryddu. LXX. Vat. rhyfel yn y bryn. hwynt yn Gibeah.
10Y mae yn fy mryd#yn ol fy ewyllys y cosbaf. Vulg. daeth i’w cosbi. LXX., Alex. â’m cerydd y cosbaf hwy. Syr. i’w cosbi hwynt:
A phobloedd a gesglir yn eu herbyn;
Gan eu rhwymo#ceryddu. LXX., Syr., Vulg. hwynt am eu dau anwiredd.
11Ac Ephraim sydd yn aner wedi ei dysgu,
Yn hoff#a ddysgwyd i hoffi dyrnu. Vulg. hoffi cynen. LXX. Alex. buddugoliaeth. LXX., Vat. ganddi ddyrnu;
A minnau a af dros degwch ei gwddf hi:
Paraf farchogaeth Ephraim,
Juda a ardd;#af heibio i Judah yn ddystaw. LXX. a ddyrna. Syr.
Jacob sydd raid iddo lyfnu.#gymer ymaith. Syr.
12Heuwch i chwi gyfiawnder,#yn gyfiawn.
Medwch#medwch ffrwyth bywyd. LXX. drugaredd;#yn drugarog.
Braenerwch i chwi fraenar:#goleuwch i chwi eich hunain oleunigwybodaeth. LXX. goleuwch lusern. Syr.
Ac y mae yn amser i geisio#ceisiwch yr. LXX. yr Arglwydd;
Hyd oni ddelo a gwlawio#nes y delo ffrwythau cyfiawn-der i chwi. LXX. pan ddaw yr hwn a ddysg gyfiawnder i chwi. Vulg. cyfiawnder arnoch.
13Arddasoch ddrygioni#paham y buoch ddystaw wrth annuwioldeb. LXX. bechod achamwedd. Syr.,
Medasoch anwiredd,
Bwytasoch#medasoch a bwytasoch ffrwyth celwydd. Syr. ffrwyth celwydd:
Canys ymddiriedaist yn dy ffordd,#dy bechodau. LXX., Vat. dy gerbydau. LXX., Alex.
Yn lluosogrwydd dy gedyrn.#eich nerth. Syr.
14A chyfyd terfysg yn mysg dy bobloedd,
A’th holl ymddiffynfeydd a ddinystrir;
Fel dinystr Shalman#fel tywysog Solomon allan o dy Jerobaal. LXX., Alex. Jeroboam. LXX., Vat. fel y dinystrjwyd Salmana gan ei dy ef yr hwn a farnodd Baal. Vulg. fel difrod Shalma o Bethel. Syr. ar Beth Arbel yn nydd rhyfel;#yn nyddiau rhyfel mam at blant a darawsant wrth y llawr. LXX.
Mam at blant a ddrylliwyd.
15Fel hyn y gwaeth Bethel#felly y gwnaf i chwi, ty Israel. LXX. i chwi;
Am eich mawr ddrwg#ddrygedd eich drygioni. Hebr. chwi:
Yn foreu gan ddyfetha y dyfethwyd#fel yr aeth y boreu heibio yr aeth brenin Israel heibio yn llwyr. Vulg. bwriwyd ymaith. LXX. ar foreu y synodd ac y cywilyddiodd brenin. Syr. brenin Israel.
موجودہ انتخاب:
Hosea 10: PBJD
سرخی
شئیر
کاپی
کیا آپ جاہتے ہیں کہ آپ کی سرکیاں آپ کی devices پر محفوظ ہوں؟ Sign up or sign in
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.