YouVersion Logo
تلاش

Genesis 2

2
PEN. II.
Duw yn peidio oddi wrth ei waith ar y seithfed dydd yr hwn a gyssegrir. 15 Duw yn gosod dyn yn yr ardd. 22 Creadwriaeth gwraig 24 ordinhad priodas.
1Felly y #Exod.20.11.|EXO 20:11. Exod.31.17.|EXO 31:17. Hebre.4.4gorphennwyd y nefoedd a’r ddaiar, ai holl lu hwynt.
2Ac ar y seithfed dydd y gorphennodd Duw ei waith yr hwn a wnaethe efe, ac a orphwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethe efe.
3A Duw a fendîgodd y seithfed dydd, ac ai sancteiddiodd ef: o blegit ynddo y gorphywysase oddi wrth ei holl waith, yr hwn a grease Duw iw wneuthur.
4Dymma genedlaethau y nefoedd, a’r ddaiar, pan greuwyd hwynt, yn y dydd gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaiar, a nefoedd:
5A phôb planhigin y maes cyn ei fôd yn y ddaiar, a phôb llyssieun y maes cyn tarddu allan: o blegit ni pharase yr Arglwydd Dduw lawio ar y ddaiar, ac nid [ydoedd] dŷn i lafurio y ddaiar.
6Onid tarth a escynnodd o’r ddaiar, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaiar.
7A’r Arglwydd Dduw a luniase y dŷn o bridd y daiar, ac a anadlase yn ei ffroenau ef anadl enioes, felly yr aeth y dŷn yn enaid byw.
8Hefyd yr Arglwydd Dduw a blannod ardd yn Eden o’ du y dwyrain, ac a ossododd yno y dŷn, yr hwn a luniase efe.
9A gwnaeth yr Arglwydd Dduw, i bôb prenn dymunol i’r golwg, a daionus yn fwyd, ac i brenn y bywyd yng-hanol yr ardd, ac i brenn gwybodaeth dâ a drwg, dyfu allan o’r ddaiar.
10Ac afon a aeth allan o Eden i ddyfrhâu yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen.
11Henw y cyntaf [yw] Pison, yr hon sydd yn amgylchu holl wlâd Hafila lle [y mae] yr aur.
12Ac aur y wlâd honno sydd dda: yno [y mae] Bdeliwm, a’r maen onix.
13A henw yr ail afon [yw] Gihon, honno sydd yn amgylchu holl wlâd Ethiop.
14A henw y drydedd afon [yw] Hidecel, honno sydd yn myned o du yr dwyrain i Assyria: a’r bedwaredd afon yw Euphrates.
15A’r Arglwydd Dduw a gymmerodd y dŷn, ac ai gossododd ef yng-ardd Eden, iw llafurio, ac iw chadw hi.
16A’r Arglwydd Dduw a orchymynnodd i’r dŷn, gan ddywedyd: o holl brennau yr ardd gan fwytta y bwyttei.
17Ond o brenn gwybodaeth dâ a drŵg, na fwytta o honaw: o blegit yn y dydd y bwytteich ti o honaw, gan farw y byddi farw.
18Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedase, nit dâ bod y dŷn ei hunan, gwnaf ymgeledd cymmwys iddo.
19A’r Arglwydd Dduw a luniodd o’r ddaiar holl fwyst-filod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac ai dygodd at y dyn i weled pa henw a rodde efe iddynt hwy: a pha fodd bynnac yr henwodd y dŷn bôb peth byw, hynny [fu] ei henw ef.
20Y dŷn yntef a henwodd henwau ar yr holl anifeiliaid ac [holl] ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwyst-filod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymmwys iddo.
21Yr Arglwydd Dduw am hynny a wnaeth i drym-gwsc syrthio ar y dŷn, fel y cyscodd, ac efe a gymmerodd vn oi assennau ef, ac a gaeodd gîg yn ei lle hi.
22A’r Arglwydd Dduw a wnaeth yr assen yr hon a gymmerase efe o’r dŷn, yn wraig, ac ai dûg at y dŷn.
23A’r dŷn a ddywedodd, hon weithian [sydd] ascwrn o’m hescyrn i, a chnawd o’m cnawd i: hon a elwir gwraig, o blegit o ŵr y cymmerwyd hi.
24O herwydd hyn yr #Mat.19.5.|MAT 19:5. Mar.10.7.|MRK 10:7. 2.Cor.6.10. Ephes.5.31ymedu gŵr ai dâd, ac ai fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant yn vn cnawd.
25Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda ai wraig: nid oedd arnynt gywilydd.

موجودہ انتخاب:

Genesis 2: BWMG1588

سرخی

شئیر

کاپی

None

کیا آپ جاہتے ہیں کہ آپ کی سرکیاں آپ کی devices پر محفوظ ہوں؟ Sign up or sign in