Àmì Ìdánimọ̀ Ohun-èlò Bíbélì
Ṣe Àwárí

Salm 65

65
Addoliad a diolch
I’r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. Cân.
1Safwn yn dawel, a dy addoli yn Seion, O Dduw,
a chyflawni’n haddewidion i ti.
2Ti sy’n gwrando gweddïau,
boed i bob person byw ddod atat ti!
3Pan mae’n holl bechodau yn ein llethu ni,
rwyt ti’n maddau’r gwrthryfel i gyd.
4Y fath fendith sydd i’r rhai rwyt ti’n eu dewis,
a’u gwahodd i dreulio amser yn iard dy deml.
Llenwa ni â bendithion dy dŷ,
sef dy deml sanctaidd!
5Ti’n gwneud pethau syfrdanol i wneud pethau’n iawn,
a’n hateb, O Dduw, ein hachubwr.
Mae pobl drwy’r byd i gyd,
ac ymhell dros y môr, yn dibynnu arnat ti.
6Ti, yn dy nerth, roddodd y mynyddoedd yn eu lle;
rwyt ti mor gryf!
7Ti sy’n tawelu’r môr stormus,
a’i donnau gwyllt,
a’r holl bobloedd sy’n codi terfysg.
8Mae pobl ym mhen draw’r byd
wedi’u syfrdanu gan dy weithredoedd.
O’r dwyrain i’r gorllewin
maen nhw’n gweiddi’n llawen.
9Ti’n gofalu am y ddaear, yn ei dyfrio
a’i gwneud yn hynod ffrwythlon.
Mae’r sianel ddwyfol yn gorlifo o ddŵr!
Ti’n rhoi ŷd i bobl
drwy baratoi’r tir fel yma.
10Ti’n socian y cwysi
ac mae dŵr yn llifo i’r rhychau.
Ti’n mwydo’r tir â chawodydd,
ac yn bendithio’r cnwd sy’n tyfu.
11Dy ddaioni di sy’n coroni’r flwyddyn.
Mae dy lwybrau’n diferu digonedd.
12Mae hyd yn oed porfa’r anialwch yn diferu,
a’r bryniau wedi’u gwisgo â llawenydd.
13Mae’r caeau wedi’u gorchuddio gyda defaid a geifr,
a’r dyffrynnoedd dan flanced o ŷd.
Maen nhw’n gweiddi ac yn canu’n llawen.

Àwon tá yàn lọ́wọ́lọ́wọ́ báyìí:

Salm 65: bnet

Ìsàmì-sí

Daako

Ṣe Àfiwé

Pín

None

Ṣé o fẹ́ fi àwọn ohun pàtàkì pamọ́ sórí gbogbo àwọn ẹ̀rọ rẹ? Wọlé pẹ̀lú àkántì tuntun tàbí wọlé pẹ̀lú àkántì tí tẹ́lẹ̀