Psalmau 26
26
Y Psalm. XXVI. Englyn Unodl Union.
1Barna fi Duw Tri rhag trais, — gywreinwaith,
Mewn gwirionedh rhodiais;
I ’r Arglwydh, gyfarwydh gais,
Iôr odiaeth, ymdhiriedais.
2Ni lithraf o chaf, wych Iôn, — o brifiant,
Gennyt brofi ’nghalon:
A chwilia, Duw, uchel dôn,
Celi, fy nghefn a’m calon.
3O flaen fy llygaid, fael unwedh, — dygais
Dy garedigawl rinwedh;
I’th lys y rhodiais, a’th wledh,
Iôr enwog, i’th wirionedh.
4A choegion dhynion dhoniawg, — oer adwyth,
Ni rodiaf yn serchawg;
Na chyfedh rhyfedh y rhawg,
O ’nabod dau wynebawg.
5Cas gennyf, Iôr hyf, oer hir — lle adfyd,
Gynnulleidfa dhihir;
Ni chwmnïais, eurais wir,
Er hynny, a ’r rhai anwir.
6Ymolchaf, fy Naf, o fewn awr, — gwar iawn,
Mewn gwirionedh tramawr;
O gwmpas, fu urdhas fawr,
O Duw well‐well, dy allawr.
7Diolchgar lafar oleufedh, — da raith,
A draethaf o’m gorsedh;
A rhof allan weithian wedh,
A rhifaf dy waith rhyfedh.
8Cerais, Arglwydh rwydh o rodhion — dawnus,
Dy annedh yn Seion;
A ’r man y trig, didhig dôn,
Cofus, d’anrhydedh cyfion.
9Na dhwg f’enaid ’ naid aniawn, — och ydoedh,
Fal pechadur digllawn;
Na’m bywyd o dhybryd dhawn,
Cur alaeth, gyda ’r creulawn.
10Eu dwylaw gwiliaw y gweli, — yn llwyr,
Sy ’n llawn o dhireidi;
A’u deheulaw draw (Duw Dri)
A ba ’r obrwy a breibri.
11Mewn gwirionedh, hedh cyhoedhawg, — hyder,
Rhodiaf yn alluawg;
Gwared fi, fy Rhi, y rhawg,
I ’r gwirion bydh drugarawg.
12A’m troed a llai oed ir llawr — sydh gyfion,
Mae ’n union mewn unawr;
Dy foliant hyd fy elawr,
Dra fwy’ fyw, ir dyrfa fawr.
Okuqokiwe okwamanje:
Psalmau 26: SC1595
Qhakambisa
Dlulisela
Kopisha
Ufuna ukuthi okuvelele kwakho kugcinwe kuwo wonke amadivayisi akho? Bhalisa noma ngena ngemvume
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.