Psalmau 27

27
Y Psalm. XXVII. Cywydd Deuair Hirion.
1Pwy a ofnaf, Naf nafoedh?
A Duw im’ goleuad oedh:
A Duw fy nerth wyd, fy Naf;
Sawdiwr wyf, pwy a arswydaf?
2Ag yno y cynfigenweilch
I’m herbyn bydh, oerbwn beilch;
A’m gelynion mwygl‐iawnwawd,
Is y ’nghuu yn ysu ’nghnawd:
Er eu trafferth rhyferthwy,
Syrthiasant, todhasant hwy.
3Nid ofnaf, dedwydhaf dôn,
Er milwyr, herwyr hirion:
O dymchwel rhyfel yr haf,
Bythoedh, Duw a obeithiaf.
4Ceisiais, gelwais ar Geli,
Un swydh a dhymunais i; —
I’w blas solas breswylio,
Dra fwy’ fyw, a’i dyrfa fo;
I weled ei deml wiwlun —
Gweled mor laned ei lun.
5Ymgudhiaf, llechaf — lloches,
I’w gysgod ef, ir nef nes;
Pan dhel blinfyd, gyd‐gadau,
Yn ei babell a’i gell gau,
Er y cyfyd byd a’u barn,
Mi a ga’d ar graig gadarn.
6Cyfyd fy mhen, O kofiwch,
Uwch gelynion trymion trwch:
Offrymmaf i Naf o nen,
Borth loyw‐wych, aberth lawen;
I’m Naf mi a ganaf a gwawd,
Waith hyfedr, tant a thafawd.
7Gwrendy fy llef, dwyslef dôn,
O drugaredh, dro gwirion.
8Archaist i’m calon, son serch,
Geisiaw dy wyneb gwiwserch;
Yna ceisiaf, rhwydhaf Rhi,
Dy wyneb a daioni.
9Tro d’olwg, tyred eilwaith
Attaf, Arglwydh mawrlwydh, maith:
Na wrthod, wirnod eurnef,
Dy was i’th lid, dwyswaith lef:
Duw ’Ngheidwad, lawnrhad ei law
Hybarch, na fwrw fi heibiaw.
10Mam a thad, mammaeth wedi,
A gwarth dig, i’m gwrthod i;
Diwair yw hyn dydi a rhad
Etto a’m tynni attad.
11Dysgi i mi y dasg mau,
Diwael ebrwydh dy lwybrau,
Y gwastad ffyrdh gwiw ystig,
Rhag gelynion duon dig.
12Na’m gosod, hynod yw hyn,
I gilwg wrth fodh gelyn;
Can’s yn f’erbyn, hyn sy hawdh,
Y geudyst oll a godawdh:
Ac i’m treisio, ceisio cau,
(C’wilydhus!) a’u celwydhau.
13E gaiff weled, trwy gredu,
Fy enaid coeth, f’Unduw cu:
A’i ogoniant yw gynnal
Yn nhir y bywyd yw ’nhal.
14Aros ar Naf, hoywaf hawl,
Yn ei wyrthiau yn nerthawl;
A gwir ffydhlon, fron freinniaw,
Aros ar Naf, medhaf, mau.

Okuqokiwe okwamanje:

Psalmau 27: SC1595

Qhakambisa

Dlulisela

Kopisha

None

Ufuna ukuthi okuvelele kwakho kugcinwe kuwo wonke amadivayisi akho? Bhalisa noma ngena ngemvume