Roedd hefyd yn gorfodi pawb i gael marc ar eu llaw dde ac ar eu talcen – ie, pawb, yn fach a mawr, cyfoethog a thlawd, dinasyddion rhydd a chaethweision. Doedd neb yn gallu prynu a gwerthu oni bai fod ganddyn nhw’r marc, sef enw’r anghenfil neu’r rhif sy’n cyfateb i’w enw.