Ioan 21
21
Yr Iesu yn ymddangos i saith disgybl
1Ar ôl y digwyddiadau hyn, fe ymddangosodd yr Iesu unwaith eto i’w ddisgyblion wrth Fôr Tiberias. 2Fel hyn y bu: Roedd Simon Pedr, Thomas (y ‘gefell’), Nathanael o Gana yng Ngalilea, meibion Sebedeus, a dau ddisgybl arall, yno gyda’i gilydd. 3Ac meddai Simon Pedr wrthyn nhw, “Rwyf yn mynd allan i bysgota.”
“Fe ddown ni hefyd gyda thi,” medden nhw.
Felly dyma fynd allan ac i mewn i’r cwch: a’r noson honno ddaliason nhw ddim byd.
4Pan oedd hi’n dechrau goleuo, fe safodd yr Iesu ar y lan, ond wyddai’r disgyblion ddim mai yr Iesu oedd. 5Fe ddywedodd yr Iesu wrthyn nhw, “Tybed oes gennych chi rai pysgod, fechgyn?” “Nac oes,” oedd eu hateb.
6Meddai wrthyn nhw, “Taflwch y rhwyd yr ochr dde i’r llong a byddwch chi’n siŵr o ddal.”
Dyma daflu’r rhwyd, ac o achos nifer y pysgod allen nhw mo’i thynnu i mewn.
7“Y Meistr yw ef,” meddai’r disgybl hwnnw roedd yr Iesu yn ei garu wrth Bedr.
Pan glywodd Simon Pedr mai’r Meistr oedd ef, fe daflodd ei wisg uchaf amdano (roedd e’n noeth) a neidio i’r dŵr. 8Daeth y disgyblion eraill i’r lan yn eu cwch, gan lusgo’r rhwyd yn llawn o bysgod. 9Doedden nhw ddim ymhell o’r lan, dim ond tua chan llath.
Wedi glanio, fe welson nhw dân golosg yno, a physgod arno, a bara. 10Meddai’r Iesu wrthyn nhw, “Dewch â rhai o’r pysgod rydych chi newydd eu dal.”
11Aeth Simon Pedr i’r cwch, a thynnu’r rhwyd i’r lan, yn llawn o bysgod mawrion, cant pum deg a thri ohonyn nhw: ond er bod cymaint ohonyn nhw, ni rwygodd y rhwyd.
12Meddai’r Iesu wrthyn nhw, “Dewch i gael brecwast.”
Feiddiodd yr un o’r disgyblion ofyn iddo, ‘Pwy wyt ti?’ Fe wydden nhw mai’r Meistr oedd ef. 13Yna dyma’r Iesu yn dod a chymryd y bara a’i roi iddyn nhw, a gwneud yr un peth â’r pysgod.
14Dyma’r trydydd tro yn awr i’r Iesu ymddangos i’r disgyblion ar ôl iddo atgyfodi.
Yr Iesu a Phedr
15Ar ôl brecwast, meddai’r Iesu wrth Simon Pedr, “Simon, fab Ioan, wyt ti’n fy ngharu i yn fwy na’r rhain?”
“Ydwyf, Arglwydd,” atebodd, “fe wyddost ti fy mod i’n dy garu di.”
Meddai’r Iesu wrtho, “Portha fy ŵyn.”
16A’r ail waith fe ofynnodd, “Simon, fab Ioan, wyt ti’n fy ngharu i?”
“Ydw, Arglwydd,” atebodd, “fe wyddost fy mod i’n dy garu di.”
“Bugeilia fy nefaid,” meddai wrtho.
17A’r trydydd tro fe ofynnodd, “Simon, fab Ioan, wyt ti’n fy ngharu i?”
Roedd Pedr wedi ei frifo am iddo ofyn y drydedd waith, “Wyt ti’n fy ngharu i?”
“Arglwydd,” atebodd, “fe wyddost ti bopeth. Fe wyddost fy mod i’n dy garu di.”
“Portha fy nefaid,” meddai wrtho. 18“Mae’n ddigon gwir, pan oeddet ti’n iau, roeddet ti dy hun yn rhoi dy wregys amdanat, a mynd lle mynnet ti. Pan fyddi di’n hen, fe fyddi di’n estyn dy ddwylo i un arall dy wresygu di, a mynd â thi i le na fyddi di’n dewis.”
19Fe ddywedodd hyn i ddangos sut y byddai Pedr farw, a rhoi gogoniant i Dduw.
Wedi dweud hyn wrtho, meddai, “Canlyn fi.”
Yr Iesu a’r disgybl arall
20Yna dyma Pedr yn troi, ac yn gweld y disgybl roedd yr Iesu yn ei garu yn dilyn — yr un a bwysodd ar fynwes yr Iesu yn y swper a gofyn, “Arglwydd, pwy sy’n mynd i’th fradychu di?” 21Pan welodd ef, gofynnodd Pedr i’r Iesu, “Arglwydd, beth am hwn?”
22Atebodd yr Iesu, “Os wyf fi’n dewis iddo aros nes y dof fi, beth yw hynny i ti? Canlyn di fi.”
23Felly aeth y si ar led ymysg dilynwyr yr Iesu na fyddai’r disgybl hwn farw. Ond ddywedodd yr Iesu ddim na fyddai farw, dweud a wnaeth ef, ‘Os ydw i’n dewis iddo aros nes y dof i, beth yw hynny i ti?’
24Hwnnw yw’r disgybl sy’n tystio i’r pethau hyn ag sydd wedi eu hysgrifennu yma, ac fe wyddom ni fod ei dystiolaeth yn wir.
Diweddglo
25Mae yna laweroedd o bethau eraill a wnaeth yr Iesu. Pe baen nhw i gyd yn cael eu hysgrifennu bob yn un ac un, dydw i ddim yn meddwl y medrai’r byd i gyd ddal y llyfrau a gâi eu hysgrifennu.
Dewis Presennol:
Ioan 21: FfN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971