Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Alla i Wir Oresgyn Pechod a Themtasiwn?Sampl

Can I Really Overcome Sin and Temptation?

DYDD 2 O 5

Oes yna Greadur, mewn gwirionedd, o'r enw Satan?

Er mwyn trafod pechod, mae’n rhaid i ni drafod Satan. Mae’n amhosibl anwybyddu ei waith: calonnau wedi’u torri, a chartrefi, cam-drin, afiechyd, ac anfoesoldeb. Mae’r rhestr yn faith a thrasig.

Mae Satan yn real ac wedi’i drechu. Mae e am i ti gredu nad yw’r un o’r ddau’n wir, dy ddewis di yw e. Dw i’n gweddïo y bydd gwirionedd Duw’n cael ei ddatguddio i ti yn y defosiwn hwn.

Mae Satan yn Real

Mae Satan yn cael ei adnabod drwy nifer o enwau yn y Beibl. Y ddau dŷn ni’n adnabod orau ydy “Satan" a’r “diafol.” Ystyr y cyntaf yw “cyhuddwr” ac i’w weld trideg pedair gwaith yn yr Ysgrythur. - yr un sy’n ein cyhuddo a’n cam-drin. Mae diafol i’w weld 36 gwaith yn y Testament Newydd ac yn llythrennol olygu, “anwiredd.”

Gelwir Satan hefyd yn “sarff hynafol,” y “ddraig,” a’r “un drwg.” Mae disgrifiad Iesu o waith Satan yn Ioan pennod 8:adnodau 42 i 47 yn grynodeb brawychus go iawn

Yn gyntaf mae Satan yn hawlio pob enaid sydd heb ei achub.

Yn Ioan pennod 8, mae ein Harglwydd yn cyfeirio at ei elynion fel plant eu “tad” Satanaidd (adn.44). ‛duw‛ y byd hwn yw e (2 Corinthiaid pennod 4, adnod 4), “tywysog y byd hwn” (Ioan pennod 12, adnod 31) mae'r byd o'n cwmpas ni yn cael ei reoli gan yr un drwg. (1 Ioan pennod 5, adnod 19).Mae Cristnogion yn byw mewn byd sy’n cael ei ddominyddu gan Satan. Dŷn ni’n filwyr wedi'u lleoli ar bridd y gelyn, yn byw mewn gwlad sydd wedi’i meddiannu.

Yn ail, mae’r diafol yn dallu ein meddyliau rhag y gwir.

Celwyddgi ydy e! Tad pob celwydd (Ioan pennod 8, adnod 44). Dydyn nhw ddim yn gallu deall am fod angen dirnadaeth ysbrydol i ddeall. (1 Corinthiaid pennod 2, adnod 14). Mae Satan eisiau dwyn had y gair o galonnau’r rhai sydd ei wir angen.(cyf. Mathew pennod 13:1 i 9).

Yn drydydd mae Satan yn dweud celwydd am air Duw.

O Genesis pennod 3 i’r presennol mae e’n trin gwirionedd yr Ysgrythur i’n harwain ar gyfeiliorn. Bydd yr un ddyfynnodd y Beibl wrth demtio Iesu (Mathew pennod 4, adnod i 11) yn camddefnyddio gair Duw i’n twyllo ni hefyd. Nid yw popeth sy’n cael ei ddysgu am wirionedd Duw. Gall y gelyn ddyfynnu’r Beibl yn well na ni ac ar gyfer diwedd dieflig bob tro.

Yn bedwerydd mae’r diafol “yn llofrudd o’r dechrau.” (Ioan pennod 8, adnod 44).

Mae Satan “yn prowlan o gwmpas fel llew yn rhuo ac yn edrych am rywun i’w lyncu” (1 Pedr pennod 5, adnod 8). Mae'r rhai sy'n gwasanaethu ei achos yn cymryd rhan mewn ymosodiadau corfforol, emosiynol a rhywiol yn erbyn ei gilydd a'r gweddill ohonom. Dydy eu meistr ddim eisiau dim llai na dinistr llwyr yr hil ddynol ac yn enwedig pobl Dduw.

Yn bumed mae Satan yn rheoli cythreuliaid.

Maen nhw’n gwasanaethu fel ei fintai a'i cedyrn yn ei rhyfeloedd yn erbyn yr Arglwydd a'i blant.

Yn ei hanfod mae Satan yn gwrthwynebu Duw..

Yn Ioan pennod 8, fe wnaeth e ysbrydoli arweinwyr crefyddol i geisio marwolaeth Iesu. Yn ddiweddarach arweiniodd hwy i groeshoelio ein Harglwydd.

Satan yw’r gwrthwyneb i Dduw ym mhob ffordd.

  • Goleuni yw ein Harglwydd, a’r tywyllwch yw Satan.
  • Mae Duw yn dân sanctaidd sy’n ysu; mae’r diafol yn bechadurus, yn glaf, yn afiach.
  • Ysbryd yw Duw; Mae Satan yn gnawdoliaeth annhebyg.
  • Mae Duw’n dy garu, mae Satan yn dy gasáu.
  • Rhoddodd Duw ei Fab drosot, byddai Satan yn cymryd dy enaid.
  • Mae Duw yn Dad i ti, a'r diafol yn elyn.

Mae Satan yn real, ond cofia ei fod hefyd wedi’i orchfygu.

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Can I Really Overcome Sin and Temptation?

Wyt ti wedi gofyn i ti dy hun erioed, “Pam ydw i dal i frwydro gyda phechod?” Wnaeth Paul, hydy n oed, ddweud yn Rhufeiniad, pennod 7, adnod 15: “Dw i ddim yn deall fy hun o gwbl. Yn lle gwneud beth dw i eisiau ei wneud, dw i'n cael fy hun yn gwneud beth dw i'n ei gasáu!” Sut allwn ni stopio pechod rhag stopio ein bywyd ysbrydol? A yw hyd yn oed yn bosibl? Gad i ni drafod pechod, temtasiwn, Satan, a diolch byth, cariad Duw.

More

Hoffem ddiolch i Denison Forum am ddarparu’r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.denisonforum.org