Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Alla i Wir Oresgyn Pechod a Themtasiwn?Sampl

Can I Really Overcome Sin and Temptation?

DYDD 3 O 5

Sut fedra i ennill brwydr ysbrydol yn erbyn Satan?

Mae Satan yn real, ond mae e hefyd wedi’i orchfygu.

Daeth Iesu i’r ddaear i ddinistrio gwaith y diafol (1 Ioan pennod 3, adnod 8). Pan fu farw Iesu ar y groes, wnaeth pechod farw. Pan atgyfododd o’r bedd, collodd y bedd. Ryw ddiwrnod bydd Satan yn cael ei daflu i’r llyn o dân ble bydd yn cael ei boenydio ddydd a nos byth bythoedd (Datguddiad pennod 20, adnod 10). Fydd Satan ddim yn teyrnasu yn uffern - bydd yn cael ei gosbi yna am byth.

Mae Satan yn rhyfela yn erbyn ein Tad, a ni yw maes y gad lle mae'r gwrthdaro yn gynddeiriog. Ni all niweidio Duw felly mae'n ymosod ar blant Duw. Y ffordd orau i'm clwyfo yw ymosod ar fy meibion.

Yn ein rhyfel ysbrydol gyda’r gelyn, sut ydyn n i’n ennill?

Yn gyntaf, dylet ei wrthsefyll yn nerth Duw.

“Felly gwnewch beth mae Duw eisiau. Gwrthwynebwch y diafol, a bydd yn ffoi oddi wrthoch chi.” (Iago pennod 4, adnod 7). Y foment y byddi’n cael dy demtio, “paid rhoi cyfle i'r diafol a'i driciau!” (Effesiaid pennod 4, adnod 27). Ni fydd byth yn haws gwrthod pechod na phan fydd yn ymddangos gyntaf yn eich meddwl neu dy galon.

Yn ail, hawlia dy fuddugoliaeth drwy nerth Duw.

Ond mae Duw yn ffyddlon! Fydd e ddim yn gadael i'r temtasiwn fod yn ormod i chi (1 Corinthiaid pennod 10, adnod 13). Y foment y daw y bydd y gelyn yn ymddangos yn dy fywyd, Y foment y mae'r gelyn yn ymddangos yn dy fywyd, saf ar yr addewid hwnnw. Cymer y fuddugoliaeth y mae Duw yn ei addo.

Yn drydydd gwisga arfwisg yr Ysbryd Glân.

Mae Effesiaid pennod 6yn ein hannog: Dyma'r peth olaf sydd i'w ddweud: Byddwch yn gryf, a chael eich nerth gan yr Arglwydd a'r pŵer aruthrol sydd ganddo fe. 11 Mae Duw wedi paratoi arfwisg i chi ei gwisgo yn y frwydr. Byddwch chi'n gallu gwneud safiad yn erbyn triciau slei'r diafol.

Mae’r “arfwisg” ysbrydol yma’n cynnwys gwirionedd Duw, ei gyfiawnder, efengyl, ffydd, iachawdwriaeth, Ysgrythur, a gweddi (adnodau 14 i 18). Saf ar rhain. Ymarfer nhw. Trystia nhw fel nerth Duw yn dy fywyd, a nhw fydd dy fuddugoliaeth.

Felly, disgwylia i gael dy demtio gan dy elyn marwol.

Dim ond pan fyddant yn ymosod y mae llewod yn rhuo. Sefwch yn nerth Duw heddiw. Pan ffaeloch, ewch at Dduw am faddeuant, gras, a buddugoliaeth.

Tro nesaf y bydd y diafol yn atgoffa am dy orffennol, atgoffa di e am ei ddyfodol.

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Can I Really Overcome Sin and Temptation?

Wyt ti wedi gofyn i ti dy hun erioed, “Pam ydw i dal i frwydro gyda phechod?” Wnaeth Paul, hydy n oed, ddweud yn Rhufeiniad, pennod 7, adnod 15: “Dw i ddim yn deall fy hun o gwbl. Yn lle gwneud beth dw i eisiau ei wneud, dw i'n cael fy hun yn gwneud beth dw i'n ei gasáu!” Sut allwn ni stopio pechod rhag stopio ein bywyd ysbrydol? A yw hyd yn oed yn bosibl? Gad i ni drafod pechod, temtasiwn, Satan, a diolch byth, cariad Duw.

More

Hoffem ddiolch i Denison Forum am ddarparu’r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.denisonforum.org