Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Alla i Wir Oresgyn Pechod a Themtasiwn?Sampl

Can I Really Overcome Sin and Temptation?

DYDD 5 O 5

Beth os ydw i wedi ildio i demtasiwn yn barod?

Beth os yw hi’n rhy hwyr?

Wnest ti frwydro temtasiwn yn dy nerth dy hun – a cholli.

Nawr rwyt ti’n sefyll o flaen Duw sanctaidd y bydysawd.

Dŷn ni i gyd wedi bod yna: “Os ydyn ni'n honni ein bod ni heb bechod, dŷn ni'n twyllo'n hunain a dydy'r gwir ddim ynom ni” (1 John 1:8).

Dyma ddylet wneud: “Ond os gwnawn ni gyffesu ein pechodau, bydd e'n maddau i ni am ein pechodau ac yn ein glanhau ni oddi wrth bopeth drwg, am ei fod e'n cadw ei air ac yn gwneud beth sy'n iawn.” (adn. 9).

Dos at Dduw gyda’th bechod - nawr.

Cyfaddefa dy fod yn anghywir, edifarha am dy fethiant, a gofynna am faddeuant.

Hawlia ei addewid i faddau dy gamgymeriadau a'th bechodau, i sychu'r llechen yn lân a chofio dim mwy am dy fethiannau.

Ydy maddeuant Duw yn golygu y gallwn ni bechu a chyfaddef, yna pechu a chyfaddef mwy?

Fedra i daro hoelen i mewn i ddarn o bren a gelli di ei thynnu - ond mae’r twll dal yna. Pan wrthodir ufudd-dod, ni elli fyth ei adennill. Mae’r wobr am ffyddlondeb wedi’i golli am byth.

Mae Duw’n maddau ond mae poen pechod yn dal i frifo - eraill, yn ogystal ag eraill.

Fodd bynnag gallwn gael maddeuant gan Fab yr Un fu farw’n ein lle i dalu’r ddyled: “Ond dangosodd Duw i ni gymaint mae'n ein caru ni drwy i'r Meseia farw droson ni pan oedden ni'n dal i bechu yn ei erbyn!” (/Rhufeiniaid pennod 5, adn. 8).

Nid o Dduw mae euogrwydd yn dod..

Mae ein Tad yn caru pob aelod o’i deulu. Dŷn ni dal yn blant iddo, hyd yn oed pan dŷn ni ddim yn actio felly.

Gras yw derbyn beth dŷn ni ddim yn ei haeddu, trugaredd yw peidio cael beth dŷn ni’n ei haeddu.

Mae ein Tad yn y nef yn cynnig y ddau.

Wyt ti angen agor ei rodd o faddeuant heddiw?

Os felly, Siarada efo dy Dad yn y nefoedd. Mae e’n hiraethu i glywed gen ti, ei blentyn annwyl.

---

I ddarllen mwy am oroesi pechod a themtasiwn lawr lwytha pennod gyntaf llyfr Dr. Denison, 7 Deadly Sins, am ddim.

Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Can I Really Overcome Sin and Temptation?

Wyt ti wedi gofyn i ti dy hun erioed, “Pam ydw i dal i frwydro gyda phechod?” Wnaeth Paul, hydy n oed, ddweud yn Rhufeiniad, pennod 7, adnod 15: “Dw i ddim yn deall fy hun o gwbl. Yn lle gwneud beth dw i eisiau ei wneud, dw i'n cael fy hun yn gwneud beth dw i'n ei gasáu!” Sut allwn ni stopio pechod rhag stopio ein bywyd ysbrydol? A yw hyd yn oed yn bosibl? Gad i ni drafod pechod, temtasiwn, Satan, a diolch byth, cariad Duw.

More

Hoffem ddiolch i Denison Forum am ddarparu’r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.denisonforum.org