Logo YouVersion
Eicon Chwilio

21 Dydd i OrlifoSampl

21 Days to Overflow

DYDD 10 O 21

Gwneud i Ffwrdd â Byw'n Wastraffus

Dŷn ni’n cael ein cynghori i fyw ein bywydau yn ofalus ac nid yn wastraffus. Mae bywyd gwastraffus yn fywyd sy'n cael ei fyw i ogoneddu ein hunain, ein dyheadau, a'n hagenda heb unrhyw ystyriaeth i bwrpas Duw. Mae bywyd gofalus yn fywyd sy'n cael ei fyw i ogoneddu Duw, i fod yr hyn y mae'n ei ddymuno, i wneud ei ewyllys, ac i weld ei bwrpas yn cael ei gyflawni yn ein bywydau.

Pan dŷn ni'n llawn o'r Ysbryd, mae ein bywydau ni'n amlwg yn wahanol i unrhyw un sy'n cymryd sylw. Pan na fyddwn ni bellach ddim yn gweithredu ar ddoethineb cyfyngedig dyn, ac ymddygiad gwastraffus dyn, mae'n amlwg i bawb ein bod yn gweithredu mewn ffordd sy'n wahanol i bawb arall.

Mae Effesiaid 5:5-18 yn rhoi llawer i ni feddwl amdano. Mae’n siarad yn negyddol iawn am “weithredoedd diffrwyth y tywyllwch” ac yn ein cynghori’n gryf yn lle hynny i ddarganfod beth sy’n plesio’r Arglwydd a’i ddilyn. Beth wyt ti'n meddwl sy'n plesio'r Arglwydd yn dy fywyd? A wyt yn ei ddilyn yn llwyr?

Mae 1 Ioan 2:16 yn mynd ymlaen i ddweud nad yw chwantau daearol oddi wrth yr Arglwydd. Os dŷn ni’n cydnabod hyn, pam dŷn ni’n parhau i fynd ar eu trywydd? Pam dŷn ni'n parhau i'w rhoi nhw mewn lle o flaenoriaeth uwchlaw'r hyn dŷn ni'n ei wybod sy’n plesio'r Arglwydd?

I ddechrau gwneud i ffwrdd â byw’n wastraffus, mae’n rhaid i ni ofyn i Dduw ein helpu i roi’r gorau i fyw yn wastraffus. Y mae arnom eisiau iddo e ddatguddio beth yw pethau Duw a dim ond pethau da, oherwydd y mae pethau dŷn ni’n eu hystyried yn dda, nad ydyn nhw o angenrheidrwydd yn bechod, ond yn wastraffus, am nad ydyn nhw’n cyflawni amcan Duw yn ein bywydau.

Diwrnod 9Diwrnod 11

Am y Cynllun hwn

21 Days to Overflow

Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw bywyd normal a dechrau byw bywyd sy’n gorlifo!

More

Hoffem ddiolch i Four Rivers Media am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.theartofleadership.com/