Logo YouVersion
Eicon Chwilio

21 Dydd i OrlifoSampl

21 Days to Overflow

DYDD 11 O 21

Cynyddu Fy Nghariad at Dduw

Yn Luc 10:25-37, mae Iesu’n mynd i’r afael â dau fater. Mae e nid yn unig yn selio pob gorchymyn a phroffwydoliaeth ar ddau beth, “Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, â'th holl nerth ac â'th holl feddwl,’ a ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.”,ond y mae ganddo yntau gariad at Dduw a chariad at bobl ynghyd. Mae Iesu’n tynnu sylw’r holwr at yr hyn y mae’r Beibl wedi’i amlygu i ni drwy’r amser: po fwyaf dŷn ni’n caru Duw, y mwyaf y byddwn ni’n caru pobl. Po fwyaf dŷn ni'n dangos trugaredd tuag at bobl, y mwyaf dŷn ni'n dangos cymaint dŷn ni'n caru Duw. Allwn ni byth fod yn llawn o'r Ysbryd Glân a methu cerdded mewn cariad.

Os ydyn ni’n casáu pobl oherwydd eu hil, eu hethnigrwydd, yr hyn maen nhw wedi’i wneud i ni, neu’r hyn maen nhw wedi’i ddweud amdanon ni, mae’r Beibl yn dweud wrthym ein bod ni’n llofrudd. Gwyddom nad oes lle i lofruddwyr yn Nheyrnas Dduw. Os ydym am rodio yn yr Ysbryd, rhaid i ni rodio mewn cariad. Cofia fod y gorchmynion i gyd yn dibynnu ar gariad.

Gad i ni edrych eto ar 1 Ioan 2:15-17, wnaethom ni ddarllen yn gynharach yn y cynllun hwn. Mae'n siarad ar y rhai sy'n caru Duw a'r rhai sy'n caru'r byd. Sylwa fod dau gategori ar wahân. Mae'r darn yn ei gwneud yn glir nad oes gan y rhai sy'n caru cariad at y byd a'i bleserau byrlymus gariad y Tad ynddyn nhw.

Yn olaf, mae Ioan 14:21 wedi’i ysgrifennu i’n cyfarwyddo ni sut i ddangos ein cariad at Dduw – trwy gadw ei orchmynion. Pan fyddwn ni'n cadw ei orchmynion, dŷn ni'n dangos iddo ein bod ni'n ei barchu, yn ei ofni, ac yn y pen draw yn ei garu.

Tra bod addoli yn bwysig, mae cariad Duw yn fwy nag addoli ei enw ar fore Sul. Mae'n rhaid i ni ddilyn ei orchmynion, mae'n rhaid i ni garu'r pethau mae'n eu caru, ac mae'n rhaid i ni ddangos cariad at ein gilydd.

Diwrnod 10Diwrnod 12

Am y Cynllun hwn

21 Days to Overflow

Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw bywyd normal a dechrau byw bywyd sy’n gorlifo!

More

Hoffem ddiolch i Four Rivers Media am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.theartofleadership.com/