21 Dydd i OrlifoSampl
Closio at Dduw
Mae closio at Dduw yn golygu ein bod ni'n ceisio Duw â'n holl galon. Dyma hanfod gweddi ac ympryd. Dŷn ni ddim ar streic newyn i orfodi Duw i wneud rhywbeth. Dŷn ni'n ffôl i ragdybio y gallwn ni wneud i Dduw wneud unrhyw beth. Yn lle hynny, dŷn ni’n darostwng ein hunain trwy weddi ac ympryd ar i Dduw ein trawsnewid a’n gosod ni i gerdded yn ei ewyllys perffaith. Dŷn ni'n cael gwared ar y rhwystrau sy'n rhwystro ein gweddïau rhag cyrraedd clustiau Duw. Mae'n ymwneud â cheisio Duw gyda phopeth sydd ynom ni.
Dŷn ni wedi darllen darn o Iago 4:1-10 yn gynharach yn y cynllun hwn, ond gadewch i ni edrych eto. Mae'n sôn am falchder ac ymostyngiad. Mae'n galw am i ni ymostwng i Dduw er mwyn dod yn nes ato e a'r holl bethau da sy'n dod gyda'r penderfyniad hwn i ymostwng.
Yn 2 Cronicl 15:1-2, dŷn ni’n gweld Ysbryd Duw yn cyfathrebu ag Asareia, mab Obed. Mae'n dweud wrth Asareia, os bydd yn ei geisio e a phethau Duw, bydd Duw gydag e. Ond os bydd Asareia yn ei adael a heb nesáu at Dduw, bydd Duw yn ei adael.
Pan fydd ein calonnau wedi'u llygru, dŷn ni'n datblygu caledi dros bethau Duw. Pan galedir ein calonnau at bethau Duw, ni allwn nesáu at Dduw. I nesáu at Dduw, rhaid i mi fy nglanhau fy hun (gwagu fy hun ohonof i fy hun), ufuddhau i wirionedd trwy nerth yr Ysbryd Glân, a charu'n daer a didwyll â chalon lân.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw bywyd normal a dechrau byw bywyd sy’n gorlifo!
More