21 Dydd i OrlifoSampl
Tân Newydd
Beth bynnag yw dy enwad, mae bedydd yr Ysbryd Glân ar gael i bawb sy’n credu.
Yn fwy na hynny, mae bedydd yr Ysbryd Glân ar gael i ti’r funud hon. Mae e eisiau i ti fod wedi dy lenwi â’i dân. Mae am i ti gael dy rymuso gan ei bresenoldeb, yn gweithio ynot ti a thrwot ti.
Wyt ti'n credu ei fod am dy lenwi â'i Ysbryd? Wyt ti'n credu ei fod am dy lenwi â thân newydd?
Yn Actau 2:1-4, dŷn ni’n gweld yr Ysbryd Glân yn amlygu ei hun trwy gorff yr eglwys wrth iddyn nhw ddechrau siarad â thafodau.
Yn Actau 4:1-8, dŷn ni’n gweld Pedr, ynghyd ag Ioan, yn cael eu carcharu dros nos ac yna’n cael eu holi gerbron Annas, yr archoffeiriad, a’i deulu. Wrth wynebu'r sefyllfa anodd hon, mae'n dweud bod Pedr wedi'i lenwi â'r Ysbryd Glân!
Beth pe bai Duw am dy lenwi â'r Ysbryd Glân er mwyn ei ogoniant yng nghanol ein hamseroedd caled, ond dwyt ti ddim yn agored iddo? Beth sydd angen ei newid yn dy fywyd a’th galon i agor y drws i dân newydd yr Ysbryd Glân?
Yn Mathew 3:11-17, yn union cyn iddo adrodd hanes bedydd Iesu gan Ioan Fedyddiwr, mae Ioan yn sôn am fedydd mwy pwerus. Nid o ddŵr, ond o dân. Nid trwy ei law ef, ond o'r Ysbryd Glân.
Yr un ffydd a gymerodd i ti gael dy eni eto yw'r un ffydd wnaiff hi gymryd i gael dy lenwi â'r Ysbryd Glân. Mae'r Arglwydd am dy fedyddio â'r Ysbryd Glân ac â thân!
Am y Cynllun hwn
Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw bywyd normal a dechrau byw bywyd sy’n gorlifo!
More