Logo YouVersion
Eicon Chwilio

21 Dydd i OrlifoSampl

21 Days to Overflow

DYDD 19 O 21

Gweld beth mae Duw’n ei Weld

Yn aml, dŷn ni’n tybio nad oes dim yn digwydd os na allwn ei weld, ond nid yw hyn yn wir o gwbl. Meddylia amdano fel hyn. Pe bai gwaith yn digwydd y tu allan i’r lle rwyt ynddo, a bod ti’n methu ei weld, a fyddai hynny’n golygu na fyddai’r gwaith yn digwydd mewn gwirionedd, oherwydd dy fod yn methu ei weld? Neu os na elli di weld y tu mewn i'r siop groser ar draws y dref, a fyddai hynny'n golygu nad oes unrhyw un yn siopa? Ddim o gwbl. Fodd bynnag, dyma sut mae’r rhan fwyaf ohonom yn dewis byw ein bywydau. Dŷn ni'n cael ein hachub, ein llenwi â'r Ysbryd, ac yn ffyddlon i Dduw a'i eglwys, ond dŷn ni'n ddall i’r ffaith bod Satan yn gweithio'n ddiddiwedd yn y deyrnas hon, ac felly hefyd y gwesteiwr nefol.

Rhaid i lygaid ein deall gael eu goleuo, er mwyn i ni wybod gobaith ei alwad. Fel hyn does gynnon ni ddim dealltwriaeth arwynebol na gwybodaeth o beth yw ei alwad. Yn lle hynny, dŷn ni’n gallu gwybod dyfnder ei alwad. Dŷn ni’n gallu gwybod beth mae e eisiau ei wneud â'n galwad ni.

Yn Effesiaid 1:17-21, mae'n siarad ar y mewnwelediad hwn. Dywed Paul ei fod yn gweddïo, “Dw i eisiau i chi ddod i weld yn glir a deall yn union beth ydy'r gobaith sydd ganddo ar eich cyfer...”

Yn ddiweddarach yn Effesiaid 6:12-17, mae Paul yn siarad am arfwisg Duw. Mae’r arfwisg hon – tra bod pob darn yn wahanol – yn deillio o ddealltwriaeth well o Dduw, ei wirionedd, ei Air, iachawdwriaeth, a mabwysiadu cyfiawnder Iesu – ein llurig. Mae’r arfwisg hon yn ein galluogi i amddiffyn yn erbyn ymosodiadau’r gelyn a “diffodd pob un” o’i saethau.

Ond nid yn unig y mae'n rhaid i ni fod yn amddiffynnol! Mae ein cleddyf, y mae Paul yn ei alw yn “gleddyf yr Ysbryd,” yn ein galluogi i ennill tir yn ôl oddi wrth y gelyn.

Dim ond megis crafu’r wyneb mae’r gorlifiad hwn rwyt wedi’i brofi. Pan fydd llygaid dy ddealltwriaeth yn cael ei oleuo, byddi di’n cerdded mewn gorlifiad anghymharol gan Dduw. Mae Duw yn abl ac yn dymuno agor teyrnas nad yw wedi ei rhwymo gan amser, daearyddiaeth, na gallu dynol.

Diwrnod 18Diwrnod 20

Am y Cynllun hwn

21 Days to Overflow

Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw bywyd normal a dechrau byw bywyd sy’n gorlifo!

More

Hoffem ddiolch i Four Rivers Media am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.theartofleadership.com/