Logo YouVersion
Eicon Chwilio

21 Dydd i OrlifoSampl

21 Days to Overflow

DYDD 16 O 21

Eneiniad yr Ysbryd Glan

Dechreuon ni trwy wagio ein hunain o'r pethau oedd yn llygru ein bywydau a'n cerddediad gyda Duw. Yna, fe wnaethon ni lenwi'r lleoedd gwag hynny â Pherson a Phresenoldeb yr Ysbryd Glân. Nawr, dŷn ni'n dysgu cerdded mewn ffordd o fyw sydd bob amser yn gyforiog, yn orlawn, o’r Ysbryd Glân. Dechreuodd hyn gyda darganfod, neu ailddarganfod, bod yr Ysbryd Glân wir eisiau cymdeithasu â ni yn gyson. Heddiw, dŷn ni'n mynd i fynd yn ddyfnach.

Yn aml iawn yn yr Hen Destament, mae dŵr yn cynrychioli presenoldeb a gwaith yr Ysbryd Glân. Wrth i ni gymhwyso symbolaeth y broffwydoliaeth hon i'n bywydau ein hunain, dŷn ni’n gallu gweld bod yna raddau amrywiol o eneiniad yr Ysbryd Glân dŷn ni’n gallu dewis gweithredu ynddyn nhw. I rai ohonom, dŷn ni’n gweithredu mewn eneiniad sydd hyd at ein fferau. Mae rhai ohonom hyd at ein gwasg, ac eraill yn ddwfn hyd at ein gwddf. Fodd bynnag, mae ceryntau nerthol yn afon Duw sy'n ein rhoi mewn sefyllfa lle nad oes raid i ni sefyll ar ein pennau ein hunain mwyach; yn lle hynny, gallwn symud yn llif Duw.

Yn 1 Ioan 2:27, dŷn ni’n gweld cyfeirio at eneiniad yr Ysbryd.

Dŷn ni’n gweld cyfeiriad eto at yr eneiniad yn Eseia 10:27, yng nghanol proffwydoliaeth gweddillion Israel. O'r darn hwn, dŷn ni’n gallu gweld bod gan eneiniad yr Ysbryd allu mawr ac, fel y dywed yr adnod, y gall “ddinistrio'r iau” a'r baich.

Rhaid i ni gyfaddef gerbron Duw ein dymuniad i fynd allan o'r dyfnder hyd at ein fferau a gwasg ble dŷn ni wedi bod yn gweithredu. Mae angen i ni ofyn i Dduw am y fath gynnydd fel mai dim ond nofio y gallwn ni ynddo – fel ein bod yn cael eneiniad llawn o’r Ysbryd Glân.

Diwrnod 15Diwrnod 17

Am y Cynllun hwn

21 Days to Overflow

Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw bywyd normal a dechrau byw bywyd sy’n gorlifo!

More

Hoffem ddiolch i Four Rivers Media am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.theartofleadership.com/