Logo YouVersion
Eicon Chwilio

21 Dydd i OrlifoSampl

21 Days to Overflow

DYDD 18 O 21

Breuddwydion a Gweledigaethau

Sut fedrwn ni ddirnad llais Duw? Yn gyntaf ac yn bennaf, mae e'n llefaru trwy ei Air, y Beibl. Unrhyw amser y mae e’n siarad trwy unrhyw fodd arall, bydd bob amser yn cyd-fynd â'i Air.

Mae e’n siarad â ni trwy weddi.

Mae e'n siarad â ni trwy gredinwyr eraill, ein harweinwyr, a phroffwydi.

Mae e’n siarad â ni trwy freuddwydion a gweledigaethau

Yn Joel 2:28-29, mae’n dweud, ei fod yng nghanol ei broffwydoliaeth am Ddydd yr Arglwydd, wedi sgwennu ar dywalltiad yr Ysbryd Glan yn y dyddiau diweddaf. Mae'n dweud, ““Ar ôl hynny, bydda i'n tywallt fy Ysbryd ar y bobl i gyd. Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo; bydd dynion hŷn yn cael breuddwydion, a dynion ifanc yn cael gweledigaethau. Bydda i hyd yn oed yn tywallt fy Ysbryd ar y gweision a'r morynion.”

Falle dŷn ni dim yn gwybod pryd y bydd y dyddiau olaf yn digwydd, ond o wybod am y broffwydoliaeth hon, dylem fod yn barod i brofi'r breuddwydion a'r gweledigaethau hyn - a gwrando arnyn nhw pan fyddan nhw’n digwydd.

Yn Numeri 12:6, dŷn ni’n gweld yr Arglwydd yn cadarnhau'r gwirionedd am y breuddwydion a gweledigaethau gan y proffwydi mae e’n eu hanfon.

Pan dŷn ni’n cael breuddwydion, neu’n gweld gweledigaeth, y peth cyntaf sydd raid i ni ei wneud yw, “Ydy hyn oddi wrthyt ti?” Pan dŷn ni wedi penderfynu trwy ei Air a’i bresenoldeb amlwg mai oddi wrtho e y mae, rhaid i ni ofyn nesaf, “Beth dw i am wneud â hyn?” Wnaeth e ei roi i ni am reswm, felly rhaid i ni ddarganfod y rheswm hwnnw.

Dw i’n credu ein bod ni'n byw yn y dyddiau diwethaf, ac mae Duw wedi addo y byddai'n siarad â ni mewn breuddwydion a gweledigaethau yn y dyddiau diwethaf. Dylem ddisgwyl iddo siarad â ni fel hyn a gwrando'n llawn pan fydd yn gwneud hynny.

Diwrnod 17Diwrnod 19

Am y Cynllun hwn

21 Days to Overflow

Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw bywyd normal a dechrau byw bywyd sy’n gorlifo!

More

Hoffem ddiolch i Four Rivers Media am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.theartofleadership.com/