1
Mathew 14:30-31
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
Ond pan welodd y gwynt, fe gafodd fraw, a chan ddechrau suddo, gwaeddodd: “Arglwydd, achub fi.” Ar unwaith estynnodd yr Iesu’i law a gafael ynddo, a dweud, “Pam y bu i ti amau? Mor wan yw dy ffydd di!”
Yenzanisa
Ongorora {{vhesi}}
2
Mathew 14:30
Ond pan welodd y gwynt, fe gafodd fraw, a chan ddechrau suddo, gwaeddodd: “Arglwydd, achub fi.”
3
Mathew 14:27
Ond dyma’r Iesu’n siarad â nhw ar unwaith: “Codwch eich calon! Fi sydd yma. Peidiwch ag ofni.”
4
Mathew 14:28-29
Ar hynny, dyma Pedr yn ei ateb: “Arglwydd, os ti sydd yna mewn gwirionedd, dywed wrthyf fi am ddod atat ti ar draws y dŵr.” “Tyrd, ynteu,” meddai yntau. Camodd Pedr o’r cwch a cherdded ar draws y dŵr a dod i gyfeiriad yr Iesu.
5
Mathew 14:33
Syrthiodd y rhai a oedd yn y cwch wrth ei draed ef a dweud, “Mewn gwirionedd, Mab Duw wyt ti.”
6
Mathew 14:16-17
“Does dim eisiau iddyn nhw fynd i ffwrdd,” atebodd yr Iesu, “rhowch chi rywbeth iddyn nhw i’w fwyta.” “Ond,” medden nhw wrtho, “does gennym ni ddim yma ond pum torth a dau bysgodyn.”
7
Mathew 14:18-19
“Dowch â nhw yma i mi,” meddai. Dyma Iesu’n gorchymyn i’r dyrfa eistedd ar y glaswellt, cymerodd y pum torth a’r ddau bysgodyn, edrych tua’r nef, gofyn bendith arnyn nhw, torri’r torthau, a’u hestyn nhw i’r disgyblion i’w rhannu i’r dyrfa.
8
Mathew 14:20
Cafodd pawb eu gwala. At hynny, fe gasglwyd deuddeg basgedaid o’r hyn oedd yn weddill.
Pekutangira
Bhaibheri
Zvirongwa
Mavideo