Mufananidzo weYouVersion
Mucherechedzo Wekutsvaka

Ioan 10

10
Y bugail da
1“Credwch chi fi,” meddai’r Iesu eto, “pwy bynnag nad yw’n mynd drwy’r drws i mewn i gorlan y defaid, ond yn dringo i mewn ryw ffordd arall, lleidr ac ysbeiliwr yw ef. 2Y dyn sy’n mynd i mewn drwy’r drws yw’r bugail sy’n gofalu am y defaid. 3Mae’r un sy’n gofalu am y drws yn agor i hwn, ac mae’r defaid yn clywed ei lais: mae ef yn galw ei ddefaid ei hun wrth eu henwau, ac yn eu harwain nhw allan. 4Wedi’u gyrru nhw i gyd allan, mae ef yn mynd o’u blaen nhw, ac mae’r defaid yn dilyn oherwydd eu bod nhw’n nabod ei lais. 5Ân nhw ddim ar ôl neb dieithr, yn wir fe redan oddi wrtho, am nad ydyn nhw’n nabod llais dieithriaid.”
6Fe roes yr Iesu’r darlun hwn yn wers iddyn nhw, ond doedden nhw ddim yn deall beth oedd yn ei ddweud wrthyn nhw.
7Felly dyma’r Iesu yn siarad eto, “Credwch chi fi, fi yw drws corlan y defaid. 8Ddaliodd y defaid ddim sylw ar neb a ddaeth o’m blaen i am mai lladron ac ysbeilwyr oedd y rheiny i gyd. 9Ond fi yw’r drws; fe fydd pwy bynnag a ddaw i’r gorlan drwof fi yn berffaith ddiogel. Fe gaiff fynd i mewn ac allan a chael porfa.
10“Dod i ddwyn a lladd a dinistrio mae’r lleidr ac nid i ddim arall; fe ddeuthum i er mwyn i ddynion gael byw — byw bywyd i’r eithaf. 11Fi yw’r bugail da; mae’r bugail da yn marw dros y defaid. 12Mae’r gwas cyflog, nad yw’n fugail, na chwaith yn berchen y defaid, yn eu gadael ac yn rhedeg i ffwrdd pan wêl flaidd yn dod; yna mae’r blaidd yn eu llarpio nhw, ac yn eu tarfu. 13Mae’r gwas cyflog yn ffoi am mai gwas cyflog yw ef a dyw ef ddim yn pryderu am y defaid.
14“Fi yw’r bugail da. Rwyf yn nabod fy nefaid, ac mae fy nefaid yn fy nabod i, 15fel mae’r Tad yn fy nabod i, a minnau’n nabod y Tad. Rwyf yn fodlon marw dros y defaid. 16Ond mae gennyf fi ddefaid eraill, sydd heb fod o’r gorlan hon, ac mae’n rhaid i mi ddod â’r rhain i mewn hefyd; fe fyddan nhwythau’n gwrando ar fy llais. Bydd un praidd ac un bugail wedyn. 17Mae’r Tad yn fy ngharu i oherwydd fy mod i’n rhoi fy mywyd i’w dderbyn yn ôl eto. 18Does neb yn dwyn fy mywyd oddi arnaf; rwyf yn ei roddi yn hollol o’m bodd. Mae gennyf fi hawl i’w roi, a hawl i’w gymryd yn ôl eto; dyma’r siars a gefais i gan fy Nhad.”
19Bu’r geiriau hyn eto yn achos rhwyg ymhlith yr Iddewon.
“Mae cythraul ynddo,” meddai llawer; “mae ef yn ynfyd. 20Pam rydych chi’n gwrando arno?”
21Meddai eraill, “Allai neb â chythraul ynddo siarad fel hyn. A allai cythraul agor llygaid y deillion?”
Gwrthod yr Iesu gan yr Iddewon
22Y gaeaf oedd hi, ac yn Jerwsalem roedd Gŵyl yr Ymgysegriad yn cael ei chynnal. 23Roedd yr Iesu’n cerdded yn y Deml, ym Mhorth Solomon, 24pan gasglodd yr Iddewon o’i amgylch a dweud wrtho, “Am ba hyd rwyt ti’n mynd i’n cadw ni’n disgwyl eto? Os ti yw’r Meseia, dywed hynny’n glir.”
25Fe atebodd yr Iesu, “Rydw i wedi dweud wrthych chi, ond dydych chi ddim yn credu. Mae’r pethau rydw i’n eu gwneud yn enw fy Nhad yn siarad drosof fi, 26ond dydych chi ddim yn credu am nad ydych chi’n ddefaid i mi. 27Mae fy nefaid i yn gwrando fy llais; rydw i’n eu nabod nhw, ac maen nhw’n fy nghanlyn. 28Fe roddaf fywyd y nefoedd iddyn nhw; fyddan nhw byth farw; a chaiff neb eu cipio nhw o’m gofal i. 29Mae’r hyn a roddodd fy Nhad i mi yn fwy na phopeth, ac ni all neb ei gipio o ofal y Tad. 30Mae fy Nhad a minnau’n un.”
31Ac unwaith eto dyma’r Iddewon yn codi cerrig i’w taflu ato. 32Ac meddai’r Iesu wrthyn nhw, “Rwyf wedi gwneud llawer o weithredoedd da yn eich gŵydd chi, gweithredoedd drwy nerth fy Nhad. Am ba un ohonyn nhw rydych chi am daflu cerrig ataf fi?”
33“Dydym ni ddim am daflu cerrig atat o achos unrhyw weithred dda,” atebodd yr Iddewon, “ond am dy gabledd — ti, ddyn fel yr wyt ti, yn hawlio dy fod yn Dduw.”
34Atebodd yr Iesu, “Onid yw wedi ei ysgrifennu yn eich Cyfraith, ‘Dywedais: duwiau ydych?’ 35Os yw Duw wedi galw’r rheiny a gafodd ei neges yn ‘dduwiau’ (a fedrwch chi ddim gwadu nad yw’r Ysgrythur yn wir) 36ydych chi’n dweud am yr hwn a gysegrodd y Tad ac a anfonodd i’r byd, ‘Yr wyt ti’n cablu,’ am imi ddweud, ‘Mab Duw wyf fi’?”
37“Os nad wyf yn gwneud yr hyn mae fy Nhad yn ei ddymuno yna peidiwch â’m credu i. 38Ond os ydwyf, credwch y pethau rwyf yn eu gwneud, hyd yn oed os nad ydych am fy nghredu i, fel y dowch i weld a gwybod fod y Tad ynof fi, a minnau yn y Tad.”
39Unwaith eto dyma geisio’i ddal, ond fe lwyddodd i ddianc o’u gafael.
40Fe aeth yr Iesu eto ar draws yr Iorddonen, i’r lle y bu Ioan yn bedyddio ynghynt, ac fe arhosodd yno. 41Daeth llawer ato, ac medden nhw, “Wnaeth Ioan yr un arwydd gwyrthiol, ond mae’r cwbl a ddywedodd ef am y dyn hwn yn wir.”
42Fe ddaeth llawer i gredu ynddo yno.

Zvasarudzwa nguva ino

Ioan 10: FfN

Sarudza vhesi

Pakurirana nevamwe

Sarudza zvinyorwa izvi

None

Unoda kuti zviratidziro zvako zvichengetedzwe pamidziyo yako yose? Nyoresa kana kuti pinda