1
Ioan 10:10
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
“Dod i ddwyn a lladd a dinistrio mae’r lleidr ac nid i ddim arall; fe ddeuthum i er mwyn i ddynion gael byw — byw bywyd i’r eithaf.
Yenzanisa
Ongorora {{vhesi}}
2
Ioan 10:11
Fi yw’r bugail da; mae’r bugail da yn marw dros y defaid.
3
Ioan 10:27
Mae fy nefaid i yn gwrando fy llais; rydw i’n eu nabod nhw, ac maen nhw’n fy nghanlyn.
4
Ioan 10:28
Fe roddaf fywyd y nefoedd iddyn nhw; fyddan nhw byth farw; a chaiff neb eu cipio nhw o’m gofal i.
5
Ioan 10:9
Ond fi yw’r drws; fe fydd pwy bynnag a ddaw i’r gorlan drwof fi yn berffaith ddiogel. Fe gaiff fynd i mewn ac allan a chael porfa.
6
Ioan 10:14
“Fi yw’r bugail da. Rwyf yn nabod fy nefaid, ac mae fy nefaid yn fy nabod i
7
Ioan 10:29-30
Mae’r hyn a roddodd fy Nhad i mi yn fwy na phopeth, ac ni all neb ei gipio o ofal y Tad. Mae fy Nhad a minnau’n un.”
8
Ioan 10:15
fel mae’r Tad yn fy nabod i, a minnau’n nabod y Tad. Rwyf yn fodlon marw dros y defaid.
9
Ioan 10:18
Does neb yn dwyn fy mywyd oddi arnaf; rwyf yn ei roddi yn hollol o’m bodd. Mae gennyf fi hawl i’w roi, a hawl i’w gymryd yn ôl eto; dyma’r siars a gefais i gan fy Nhad.”
10
Ioan 10:7
Felly dyma’r Iesu yn siarad eto, “Credwch chi fi, fi yw drws corlan y defaid.
11
Ioan 10:12
Mae’r gwas cyflog, nad yw’n fugail, na chwaith yn berchen y defaid, yn eu gadael ac yn rhedeg i ffwrdd pan wêl flaidd yn dod; yna mae’r blaidd yn eu llarpio nhw, ac yn eu tarfu.
12
Ioan 10:1
“Credwch chi fi,” meddai’r Iesu eto, “pwy bynnag nad yw’n mynd drwy’r drws i mewn i gorlan y defaid, ond yn dringo i mewn ryw ffordd arall, lleidr ac ysbeiliwr yw ef.
Pekutangira
Bhaibheri
Zvirongwa
Mavideo